Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rywfaint

rywfaint

Er hynny, rhaid wrth rywfaint o adweithedd er mwyn gallu torri i lawr ac adeiladu cadwyni cemegol, a thrwy hynny greu hylifedd.

'Roedd yno rywfaint o'r hen awyrgylch bendefigaidd yn aros, a theimlem, rywsut, fod yr hen adeilad urddasol yn bendithio, ac yn estyn ei nawdd, i weithgarwch y penwythnos hwnnw.

Dim ond dau oedd heb rywfaint o waed Cymreig - ond pob un yn dallt rywfaint o'r iaith.

Ond mae'n braf gweld fod pethau wedi gwella rywfaint yn ddiweddar, gyda thrafodaethau yn Gymraeg ar weithiau R.

Mae o rywfaint yn wahanol; tri ac nid dau dwrad ddylai fod ar ben y tūr mawr.

Fe welir fod Gwyn, yn y sefyllfa yma, rywfaint yn nes ymlaen mewn 'datblygiad', gan ei fod wedi Castellu, a chan fod yn rhaid i Du gael dau ddarn mawr arall allan cyn y gall ef wneud hynny.

Dichon y sobrir ef rywfaint o gofio fod ei feistr tir druan yn gyfrifol am atgyweiriadau i'r adeiladau.

Ond mae gen i rywfaint o synnwyr digrifwch, er nad ydi o mo'r un disgybledig- dderbyniol.

Rhaid fod ganddynt rywfaint o Ladin i fedru adrodd y gwasanaethau ond tebyg mai digon diddysg oeddynt fel dosbarth.

Daeth o hyd i hwnnw ar ei liniau, a dywedodd wrth y morwr ifanc: "Os oes gen ti rywfaint o synnwyr ar adeg fel hyn, mi ei dithau ar dy liniau a gweddi%o." Caeodd Douglas ei lygaid a dweud ei bader yn dawel wrth nofio'n unig yng nghanol y môr mawr.

Fel maen digwydd, mae dal hamster yn rhywbeth y mae gen i rywfaint o brofiad ohono.

Byddai rhywun yn ei chael rywfaint yn haws maddau y pethau hyn hyn pe byddai Henry wedi profi ei hun yn dipyn mwy o wr gwyrthiau ers ei ddyfodiad i'n gwlad.

Cafodd gyfle i siopa rywfaint yn Heol y Bont-faen ar y ffordd, a chael sana a chig moch a bara, a hannar ffag efo Elsi ar y bws wedyn!

Cefais rywfaint o fy addysg yn Ysgol Twtil a Maesincla.

Ar ôl cael ein rhyddhau, llwyddodd Siwsan i ymlacio rywfaint am y tro cyntaf.

O'r braidd y bydd Eingl-Gymro a brofodd rywfaint o rinwedd y Saesneg fel cyfrwng barddoni byth yn gildio i'r demtasiwn hon i'w ladd ei hun.

Byddai bywyd cenhedloedd Ewrop a'r byd hefyd rywfaint yn dlotach, canys y cyfraniadau a ddaeth trwy'r traddodiadau cenedlaethol a gyfansodda wareiddiad Ewrop.

Ond taflodd y clwy traed a genau sy'n bygwth Cymru rywfaint o'i gysgod dros y dathliadau.

Roedd dod ar draws chwilen a fedrai siarad iaith wahanol i iaith gliclyd y chwilod, er mor ddigri ei fersiwn ohoni, yn achosi i'r gelen deimlo rywfaint yn nes ati.

Mae'r Academi a Chyngor y Celfyddydau hwythau wedi chwarae eu rhan ac mae i lenyddiaeth Eingl-Gymraeg rywfaint o le yng nghyrsiau'r Brifysgol.

Ceisiodd ddysgu rywfaint o Gyrnraeg, er na fu, ysywaeth, yn llwyddiannus iawn yn ei ymdrechion.

Roeddynt yn barod i oddef cerydd am fod yn hwyr gan eu rhieni pe caent rywfaint o oleuni ar y dirgelwch.

Tyfwch rywfaint o hadau mwstard a berw dwr ar sbwng llaith mewn soser ac yna rhowch ef mewn blwch cardbord a chau'r caead.Torrwch dwll bychan yn ochr y blwch, a'i adael ar sil ffenestr y gegin gyda'r twll yn wynebu'r ffenestr.Sylwch ar y blwch yn rheolaidd, a dyfrhewch yr hadau mwstard a berw'r dwr.