Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

rywsut

rywsut

Roedd yn weithiwr caled a chydwybodol ond rywsut doedd o byth yn llwyddo i wneud llawer o arian.

'Roedd yno rywfaint o'r hen awyrgylch bendefigaidd yn aros, a theimlem, rywsut, fod yr hen adeilad urddasol yn bendithio, ac yn estyn ei nawdd, i weithgarwch y penwythnos hwnnw.

Efallai bod llywodraethau hefyd yn rhy obeithiol bod unigolion a chwmni%au a oedd yn ddigon esgeulus ym maes crefydd, rywsut yn mynd i fod yn barod eu cymwynasau seciwlar.

Rywsut, mae Michael Bay a Jerry Bruckheimer wrth greu Americaniaid eofn a Siapaneaid anrhydeddus yn llwyddo i gadw'r ddesgil honno yn wastad ond, gwaetha'r modd, yn cyfrannu trwy wneud hynny at ddifetha ffilm a oedd eisoes yn gwegian.

Fe'i cysurodd ei hunan, rywsut, trwy geisio'i berswadio'i hun fod y pwnc wedi'i daro ar ysmotyn dall, ac nad oedd ar ei orau wedi cael diwrnod caled a thrafferthus yn y siop heb fawr o lwyddiant ar y gwerthu.

mae rhyw naws ewropeaidd, rywsut, i'ch gwaith, fel petaech wedi sugno maeth o brâg neu baris yn hytrach nag o aberdâr.

Term aflednais braidd yw 'bardd eilradd', Rywsut nid yw'n ateb gofynion neb.

Dydio ddim, rywsut, yr ymadrodd syn siwtior achlysur.

A chymerasid yn ganiataol rywsut nad ymadawai Wiliam byth â'i gartref ond i briodi.

A dyma'r ffured o'r Borth, a duwioldeb yn ei grym, wedi codi fy nymbar rywsut.

Rhaid cyfaddef fod y ci yma nawr rywsut yn clytio peth ar ei unigrwydd chwithig ar ol colli'i wraig.

Honnai hwnnw, meddai, fod y fwyell yr oedd y mab yn ei thrwsio ar y pryd wedi cyffwrdd rywsut â'r gwn a pheri i hwnnw danio.

Fel y dywedodd (rywsut), eto yn Llangollen: petai gþr Glenys (yr hen foi cringoch-foel anghofiedig hwnnw) wedi mynd yn brif Weinidog, yna mi fyddai o wedi bod yn Gymro yn rheoli Lloegr (a fyddai hynny ddim yn iawn), ac felly mae hi'n iawn i Blw-byrd, fel Sais, reoli Cymru.

Wrth greu categori 'y rhamantau' neu 'y tair rhamant' pwysleisiwyd gennym nodweddion a barai fod Peredur, Iarlles y Ffynnon, Gereint ac Enid rywsut yn sefyll ar wahân braidd i brif ffrwd y testunau rhyddiaith storiol 'brodorol' (ac nid oes rhaid ailrestru nodweddion tybiedig y rheini yma), ac aethpwyd ati i'w cymharu â'i gilydd er mwyn darganfod y priodoleddau cyffredin a allai gyfiawnhau eu gosod oll yn yr un dosbarth.

Rywsut nid oedd ganddynt galon i boeni Dad am y cwch.

Llyfrau o'r tŷ oedd yno, yn un rhes, rywsut-rywsut.

Rywsut, deallodd mod i o Gymru ac fe fynnodd ganu Calon Lân i mi.

Ac eto, pan fydd gair Duw yn dweud wrthych chi fod pwy bynnag sy'n credu yn yr Iesu yn cael bywyd tragwyddol, rydach chi'n dweud fod hynny'n rhy...rad rywsut.

Fe deimlwn yn reddfol rywsut, nad oedd hi'n cydweld a'r gwahoddiad.

Eto cyfyd damcaniaeth Branwen Jarvis anawsterau: yn yr ail bennill, os Crist a olygir gan 'Arthur Iôr' sy'n arbed Mabon ac yna rywsut yn peri ei fwrw i 'fydafon geol y gelyn' yna ni ellir gwneud synnwyr o'r peth.

Rywsut roedd yr ychwanegiad diflas yma am ryw 'anffawd', ar ol son am 'rywun' dirgel o annwyl, yn drech na'r gobaith.

Er mwyn i'r iawn fod yn real 'roedd rhaid i ddyn yntau, rywsut, fod â rhan ganolog ynddo.

Ac mae'r dieithrwch yn cynyddu rywsut wrth i mi fynd yn hþn.

Fe welwch fy mod yn ceisio cadw yn y tresi, rywsut rywfodd.

Os golygir mai troedigaeth SL yn y tridegau a arweiniodd rywsut at Penyberth a'i daflu ef i 'eol y gelyn', yna beth yw ystyr y 'carchar a'r seler ddilawnter dan lif anafon' yn y pennill cyntaf, cyn dyfod 'Arthur i'th arbed di'?

A rywsut, unwaith yr oedd Mam ar ben arall y lein, roedd hi'n amhosib ei siomi efo'r araith yr oedd hi wedi ei pharatoi mor ofalus.

Roedd yn wahanol, rywsut, i'r bobl o'i gwmpas.

Ond rywsut roedd y weledigaeth wedi mynd ar goll.

Roedd wedi sgorio 23 pan drawodd y bêl yn galed yn syth at Russel Arnold oedd yn maesu yn agos i'r wiced a rywsut daliwyd y bêl yn ei grys.

'Roedd yr ast strae a ffeindiodd ei ffordd rywsut i'r Llety Cþn wedi bwrw ci bach yn y nos.

Hofran, gerfydd ei hochr, rywsut, roedd hi, gan gadw ryw fymryn o'u blaenau.

Mentrwn innau awgrymu fod Elphin yn yr wyth soned hyn, os nad yw'n cyrraedd uchelderau De Musset a Novalis, ac er gwaethaf ei adfeiliaeth ber-bydredig fin de siecle, wedi cyrraedd lefel o orffennedd deallus sy'n tra-rhagori ar lawer o feirdd y ganrif ddiwethaf a gyfrifir rywsut yn haeddiannol o'n sylw.

Ond y mae eneidiau ymhlith y beirdd, fel ymhlith eraill o blant dynion, sydd yn synhwyro rywsut nad yw'r llygad o gnawd yn gweld popeth sydd i'w weld, ac nad yw'r glust o gnawd yn clywed popeth sydd i'w glywed.

Mae'r presenoldeb corfforol yma gyda ni o hyd rywsut, heb son am bresenoldeb gair a meddwl drwy'r emynau.

Mae o'n medru gwau ei lwybr drwyddyn-nhw a'u dal nhw rywsut wrth ei gilydd.

Gofid calon i mi oedd ei gwrthod fel hyn ac er bod Eleri yn deall y rhewsm yn well na fi, rywsut yr oedd o anghenraid yn gorfod gofyn.

Plannodd ei llaw i ganol y jwg chwart ac yna sodro'r dannedd yn ei cheg; gwthiodd ei thraed i'w slipars rywsut-rywsut a'i ffwtwocio hi am y ffenestr.

Mae Cura yn cyfnewid geiriau gydag aderyn crawclyd arall a hynny, rywsut, yn cael pethau i gychwyn eto mewn ysbryd eithriadol o dda ymhlith cantorion sydd wedi sefyll yn hir ar lwyfan.

Ar ôl dychwelyd i'r Almaen, ceisiais sgrifennu'r erthygl gytbwys a oedd gennyf mewn golwg, ond rywsut ni fedrwn gysylltu'r pethau cadarnhaol a wyddwn am yr Almaen, fy mamwlad, gyda'r hyn a oedd yn digwydd o'm cwmpas bob dydd.

Fe fuont o gwmpas ers tro byd dim ond 'u bod nhw'n uwch eu cloch y dwthwn hwn rywsut.

Rhagymadroddais yn ddigon talog gynnau drwy led awgrymu mai bardd eilradd ydoedd, a dyna rywsut y farn gytun mwyach, ac eto, mewn rhai o'r sonedau hyn (VI, VII, XVI, XXIV, XXXI, XLII, XLIII) y mae'n dweud rhywbeth o bwys mawr mewn llenyddiaeth Gymraeg ac yn ei ddweud yn gain synhwyrus ac yn fachog fyw.

Safodd fel petai bod ar ei heistedd rywsut yn sarhad arno.