Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

saboth

saboth

Y rhain oedd yn codi tafarnau a diotai, yn cyflogi asiantiaid rheglyd a meddw, ac yn gorfodi gweithwyr i dorri'r Saboth.

Tynnu Tywysennau ar y Saboth

Byddai'n gweiddi, Cofiwch y Saboth, i'w gadw'n sanctaidd," ac ni wariai geiniog ar eillio'i farf ar y Sul.

Yr oedd yr helgwn, a gadwyd heb damaid o fwyd ar hyd y Saboth, yn anesmwyth am gael cychwyn i'r helfa, a theimla Harri yn bryderus pa ffigur a dorrai efe yn ystod y dydd.

Darllenai bennod o'r Beibl yn ei hystafell wely yn ddi-ffael bob nos, a chysgai'n dawel ar ôl hynny; ac nid wyf yn gwybod a ddarllenai hi ddim arall oddieithr ar y Saboth, pryd yr arferai gymryd y DRYSORFA i fyny, gan ei hagor yn rhywle ar ddamwain ac yn union deg dechreuai bendympio.

Rywbryd yn ystod y Saboth digwyddodd daro ar y ffordd fawr â Mr Jones y Person, a ddywedodd wrtho: `Cofia di, Harri, ddod hefo ni fory i godi llwynog, a gobeithio'r nefoedd y cawn ni ddiwrnod braf.' `Trystiwch chi fi y byddaf yno,' ebe Harri.

Ac yn y rheolau sy'n dilyn, gwaherddir torri addewid, amharchu'r Saboth, glythineb mewn bwyta ac yfed, gwisgo dillad ffasiynol sy'n meithrin balchder, anlladrwydd a gwastraff.