Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sach

sach

"Pam y gwnaethoch chi ddianc ar ôl y noson gyntaf a chithau wedi addo cynnal ail noson?" "Gwyddwn yn iawn y buasen ni'n eu trechu nhw'n hawdd, meddai Bholu, "ac felly ni fuasai neb eisiau dod i weld y cwshti ar yr ail noson." Rhoddodd ei law yn ngheg y sach a chydiodd mewn dyrnaid o bapurau gan eu rhoi i mi.

Yn sydyn dyma fo'n rhoi naid yn glir dros y cownter a chrafangu am y sach oedd wedi cael ei thowlu yno gyda gweddill y bagiau.

'Mynd a dweud wrth yr heddlu ydi'r peth callaf i'w wneud.' Lapiodd Alun y papur newydd yn barsel twt cyn ei roi yn y sach blastig a chlymu ei cheg yn dynn.

Y nodyn cynta' a wnes i yn fy llyfr oedd bod ambell un o'r cyrff main wedi'u lapio mewn sach fwyd a gyrhaeddodd yn rhy hwyr.

Rhaid gadael i sychiad sach fynd heibio.

Pan ddaeth Robaits yn ei ôl gyda'r fen goch, roedd Mwsi wedi tynnu'r sach drom i'r wyneb.

Roedd hi'n dywyll yn y cefn heb ddim ond y sach i gadw cwmni iddo.

'Mae 'na sach wen wedi'i chuddio yng ngwreiddiau'r goeden,' oedd yr ateb.

'Roeddent yn rhad fel baw, deunaw oedd y sach a'r llyfrau!' Ond ni fedrai yr un o'r pâr hapus air ar lyfr Cymraeg, heb sôn am lyfr Sanscrit.

Yna'r gŵr yn rhoi ei ben heibio i'r drws, ac yn galw i'r tŷ, "Na, 'dydi hi ddim yn bwrw, 'd â i ddim â sach heddiw." Yna'n taflu hen gôt dros ei war a'i chau â phin sach ac yn troi'r bin at ei ysgwydd.

Wrth gerdded tua'r goleudy gwelodd y dyn Doherty ymhell, bell, allan ar y traeth yn brysur hel cocos neu gregin i'w sach.

"Tydw i erioed wedi gweld llond sach o arian," mentrais, "ac mae'n debyg na chaf i byth mo'r cyfle eto.

Dwn i ddim os oes unrhyw un ohonoch chi wedi gweld llond sach o arian papur, os nad ydach chi, - mae hi'n olygfa gwerth ei gweld, coeliwch chi fi!

A phaid ti â hel hen syniadau gwirion am ddianc neu mi fydda i'n dy gladdu di yn y twll yna yn lle'r sach.

Camodd drwy fwlch yn y clawdd drain yn gap stabal i gyd, a hen sach dros ei war.

Mae'r sach yn llawn bresych.

Eglurodd bod y sach yn dod i fewn i'r awyren efo nhw.

Toeddwn i ddim wedi meddwl dim am y sach nes gweld cymaint o barch a gawsai ar y bws, a'i bod wedi cael lle rhwng y ddau frawd yn y caffi.

Allan a Bholu ac Akram a thros y clawdd - ond gan ofalu mynd â'r sach hefo nhw.

Parseli deniadol yn sach amser yw tymhorau pysgota i mi.

Heblaw ma' gin i hwn ylwch, y sach peilliad 'ma, am'i thin hi.'

Er fy mod yn gyfarwydd a'r gair nithlen - nithlan i mi - am sach wedi ei rwygo yn agored i greu cynfas ddwywaith arwynebedd y sach gwreiddiol ni wyddwn mai'r ystyr wreiddiol oedd "cynfas o sachlian a ddefnyddid i greu gwynt ar y llawr dyrnu i wahanu'r us oddi wrth y grawn" a'r bathiad yn gwbl resymol o weld mai'r enw am "un yn gwyntyllio... ar y llawr dyrnu" oedd nithiwr a'r enw ar y weithred yn nithio.

Nid sach fechan tebyg i sach lo oedd hon, ond o'r un maint â sach wenith ers talwm, ac roedd hi wedi'i stwffio'n llawn dop â rupies.

Ni piau'r cwbl!' ebe Tudur yn wyllt wrth weld ei frawd yn dechrau rhawio'r pridd yn ôl ar y sach.

Pan fyddai'r sach yn sych yr oedd yn amser dechrau trin y pridd yn barod i hau.

''Neith sach peilliad ddim dal dwr na 'neith.

Daw y penhwyaden gaiff ei fachu ym misoedd yr haf i'r rhwyd fel rhyw sach gwlyb - dim cwffio na llawer o wrthwynebiad yn perthyn iddo.

Gafaelodd yn ei war a'i godi'n glir oddi ar y llawr cyn ei daflu i du ôl y fen ar ôl y sach.

Safodd Siân a Tudur yn hollol lonydd ac yn hollol fud am funudau hirion gan syllu ar y sach agored yn y twll o'u blaenau.

Cofiai fel ddoe y diwrnod y daeth yntau i'r eil o'r buarth y bore gwlyb hwnnw dros ddeuddeng mlynedd yn ol - y diferynion glaw yn treiglo'n bistyll tros gantel ei gap a'r sach ar ei war yn sopa diferu.

Chwipiai gwynt Ebrill dros Lyn Ogwen gan godi croen gþydd ar fy nghoesau wrth i ni gymeryd y camau cyntaf tua'r cwm - roedd gen i drowsus hir yn y sach cefn rhag ofn!

Sylwais bod sach fawr rhwng y ddau frawd, ac wrth i ni deithio am Lahore, fedrwn i ddim llai na sylwi bod y sach hon yn cael parch mawr.

Wedi rhyw ddeugain niwrnod, mwy neu lai, deorodd yn alefin bach a'i fwyd mewn sach dan ei fol.

Dim ond bryd hynny y sylwodd y pedwar fod un o'r dynion ar ol ac yn sgrialu ar hyd y rheiliau rhydlyd i dywyllwch yr ogof; roed yn cario rhyw fath o sach ar ei gefn.

Nôl i'w seddau, a'r sach rhyngddyn nhw unwaith yn rhagor.

Yr eiliad honno sylwodd fod sach blastig wen wedi ei gwthio i'r dorlan, rhwng gwreiddiau'r goeden a'r llwybr uwchben.

Ar ôl dechrau ar y gwaith agorodd y sach gyntaf o fratiau a sylwodd ar bluen hardd.

'Naddo', ebe yntau, 'roeddynt yn mynd yn uchel', gan dywallt cynnwys y sach ar yr aelwyd - hen lyfrau Groeg, Lladin, Hebraeg, etc.

Rhoddodd Akram y newid yn ôl yn y sach.

Rhoddodd ef mewn sach a'i gario adref, a phan ddywedodd fy ewythr wrtho mai ffwlbart oedd ganddo ni fynnai goelio.

Llusgwyd Myrddin a Geraint fel dwy sach o datws i fyny ac i fyny grisiau cerrig serth nes roedden nhw'n brifo i gyd erbyn cyrraedd y brig.

"Wyt ti'n gwbod fod Margaret Rose yn cael ffitie, a bod ei mam yn gorfod towlu sach dros ei phen yn amal iawn pan fydd yr Archbishop of Canterbury yn pregethu?"

Mae dwy flynedd eto cyn yr Etholiad Cyffredinol ac mae'r modd y mae'r Toriaid ymhen dwyawr ar ôl eu curfa yn Ewrop wedi troi eu methiant yn fuddugoliaeth yn awgrymu y byddan nhw'n sicr o dynnu cyn hynny sawl sgwarnog liwgar o'r sach.

Ond yna'n sydyn dechreuodd Siân hel y cwbl yn ôl i'r sach a chlymu ei cheg unwaith eto.

Roedd y sach ar draws y gwely yn yfflon.

Toc, dyma nhw'n eu hôlau, a'r sach hefo nhw.

Ffwrdd â ni am yr awyren, a chyn cyrraedd Karachi, euthum at Bholu a chyda gwên gofynnais iddo beth oedd pwysigrwydd y sach.

Ar ôl cyrraedd Gwesty'r Maes Awyr yn Karachi, dyma'r ddau i mewn i'n stafell ni a dywedodd Bholu wrth Akram am agor ceg y sach.

Yr arferiad oedd trochi sach trwm, fel yr un a arferid ei ddefnyddio i gario grawn ar ddiwrnod dyrnu, yna ei hongian dros glwyd y cae yn union ar ol gorffen aredig.