Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

saer

saer

Y mae'r sylwadau a wnaf i gyd oddi ar a welais ac a ddysgais gan y ddau saer coed y soniais amdanynt.

Clywsom jôcs gwirioneddol ddoniol am ei yrfa yn Llanrwst yn y stôr ac fel saer - 'roedd o'n fwrddrwg go iawn!'

Pwysleisiai Rhys Thomas y saer pan yn rhoi y bechgyn ifainc i ddechrau gwneud olwyn fod y gwaith yn un "exact iawn'.

Phillips ohono yn iawn: y mae'r seler yn cyfateb i Uffern yn Saer Doliau; y mae lleoliad Y Ffin mewn cwt sy'n gallu gweld yr eglwys yn arwydd o bellter y bobl o'r ysbrydol; y mae'r Tŵr yn dangos gwacter ystyr a ddaw i bobl sydd wedi eu gwahanu'n llwyr o'r ysbrydol.

Yn Y Ffin a Saer Doliau daw rhywun, merch fel mae'n digwydd (er bod Gwenlyn ei hunan yn gwrthod y dehongliad fod arwyddocad i'r rhyw) i dorri ar ddedwyddwch ynysig y cymeriadau.

Mae'n rhyfedd gennyf sut y llwyddodd aml i saer coed i ddod i ben â'r gwaith cystal a heb ganddo ond ambell i erfyn priodol i'w gynorthwyo.

Yr oedd Rhys Thomas yn saer nodedig ac yr oedd ganddo weithdy helaeth iawn, a dysgai amryw o fechgyn ifainc i fod yn seiri coed yn eu tro.

Ar ôl yr holl weithio ar olwyn, mor falch fyddai y saer coed o weld popeth wedi eu ffitio i mewn yn hwylus yn y diwedd.

Ateg i'r dybiaeth yw fod yn y Llyfr Coch gyfres o drioedd yn rhestru casbethau 'Gwilim Hir, saer Hopkyn ap Thomas.' Y beirdd a ganodd i Hopcyn ydoedd Dafydd y Coed, Ieuan llwyd fab y Gargam, Llywelyn Goch ap Meurug Hen, Madog Dwygraig a Meurug fab Iorwerth.

Gweithredai'r cymdeithasau Cymreigyddol fel man cyfarfod i wahanol ffrydiau'r deffroad cenedlaethol, ac ynddynt gellid gweld archddiacon Anglicanaidd ysgwydd wrth ysgwydd ag argraffydd o Fedyddiwr a saer o Undodwr yn yr ymdrech i goleddu'r Gymraeg a'i diwylliant.

Anaml y byddai'r saer coed yn gwneud pâr o olwynion newydd heb y gert neu gambo yn gyfan, er bod eithriadau, mae'n wir.

'Roedd ei waith yn un a oedd yn mynd i barhau, a hyd yn oed ar heolydd garw'r wlad, gallai olwynion o wneuthuriad y saer lleol gael eu defnyddio am tua thrigain mlynedd.

Cofiaf yn arbennig am weithdy dau saer coed, a byddai'r ddau yn nodedig am eu gwaith crefftus a da.

Yr oedd wrth ei fodd, wrth gwrs, ac archodd fi i gael gafael ar y 'saer medrus' ac ordro gwely newydd.

Mewn aml i bentref yr oedd gefail y gof a gweithdy'r saer bron yn ymyl ei gilydd, a chyda'r gwaith o ganto'r olwynion fe weithient law yn llaw.

Yn lle rhoi cylch am olwyn bren yn yr efail fel y byddai saer coed yn gwneud, fe roddwyd yr olwyn honno y tu mewn i gylchyn pwced.

Byddai'r saer coed a'r gof yn rhannol gyfrifol am wneud olwyn, bydded olwyn gert neu olwyn i ferfa.

Fe ddaliai un ben y tâp ar fan arbennig ar yr olwyn rhag symud tra yr âi'r gof oddi amgylch a thrwy wneud hynny 'roedd yn fwy ffyddiog fod y mesur yn iawn, er ei fod wedi cael y mesurau gan y saer coed.

Flynyddoedd maith yn ôl, roedd saer maen tlawd o'r enw Bernez yn byw ym mhentref Plouvineg.

'Roedd y Saeson ar y blaen ac wedi dod i wneud llawer o waith y saer trwy ddefnyddio peiriannau .

Bydd yn teimlo pryder yn yr Hydref rhag ofn bod ei dail wrth ddisgyn yn peri blinder i'r teulku drws nesaf neu'n myfyrio ar faint o arian a gâi pe torrai hi i lawr a'i gwerthu fel coed i'r saer.

Un o'r cymeriadau a alwai, yn arbennig ar fore Llun, oedd Jonni Huws y Saer.

Mae'r 'gweithdy saer' yn segur ers blynyddoedd lawer, a'r efail gof a oedd yn ymyl, hithau hefyd wedi cau.

Y saer coed arall a adnabu+m oedd un a ddysgwyd yn ei grefft gan y Rhys Thomas uchod.

Ac hefo llinyn bôl y clymodd Ifor rhyw hen ddôr ar dalcan y sied, gan ddisgw'l y byddai%r saer coed yn dwad yn ei ôl i roi drws yno rhywbryd yn y dyfodol.

Saer oedd Sefnyn a elwid yn 'Pab' yn ogystal am ei fod yn pledio rhyddid i Gatholigion, ac wrth gwrs iddo ef, roedd Gwrtheyrn nid yn unig yn fradwr i achos Gymru, ond yn fradwr i weddillion trefn y Rhufeiniaid yn ynys Prydain.

O'm plentyndod cofiaf am lawer cymeriad gwreiddiol a doniol, a dyma grybwyll dim ond tri ohonynt, Jonni Huws y Saer, Dic Lodge, a Washi Bach.

Yno y bu+m innau lawer tro yn cael blas ar sgwrs gyda'r gof a'r saer athronydd hwn, un a allai fod wedi esgyn i gadair athroniaeth mewn rhyw goleg neu gilydd pe bai amgylchiadau wedi caniata/ u hynny pan oedd yn ifanc.

Yma defnyddiai'r saer coed declyn arbennig i gael y camogau i'r tyllau.

Credaf fod saer coed wedi ei eni i'r grefft; bydd ynddo duedd ymarferol at ffigurau a mesurau, ac mae'n awyddus i ddysgu o hyd.

Cymerwch Saer Doliau.

Mae arnaf i eisio iti gael crefft.' 'Mi faswn i'n leicio bod yn saer ym Mhenmaenmawr' Roedd yna siop saer fawr pryd hynny yn perthyn i Hugh Williams, ac fe aeth Mam ato i holi a oedd ganddo le i brentis.

Gwneud Olwyn Tua phedwar ugain mlynedd yn ôl, pan oedd digon o waith i'r saer coed yn yr ardaloedd gwledig, nid oedd sôn am drydan yma, a byddai raid i'r crefftwr lifio a thyllu'r coed â'i law a'i nerth ei hun.

Ar ôl gorffen fe roddai'r saer coed fesur amgylchedd yr olwyn i'r gof.

Saer a feddai ar ddigon o amynedd oedd piau hi wrth y gwaith hwn.

Gofynnodd iddi a âi at y saer a pheri iddo agor bedd o'r newydd gan nad oedd am i'r cythral gael ei gladdu efo'i fam.

'My ydde yn well gen' i dy weld yn deiliwr nag yn was ffarm', meddai Mari Lewis wrth Rhys, ac yn wir yn brentis teiliwr y cafodd Daniel fynd, fel yr aeth Dafydd ei frawd yn brentis saer maen o'i flaen.

Dyna a ddigwyddai pan âi y saer coed ati i wneud cert newydd - gallai y cert fod ar waith am tua dwy flynedd.

Yno dechreuai'r sgwrs, 'Beth oeddat ti'n meddwl o'r pregethwr ddoe?' a byddai'n rhwydd dweud os oedd yr hen saer wedi cael ei blesio ai peidio.

Holi'n ddyfal ar hyd a lled yr ardal anniben, debygwn i, ond dim hanes am neb eisiau saer.

Roedd gwraig y saer coed wedi cael babi ac roedd weldar y dyn weldio wedi torri ar ganol y job a hwnnw wedi gorfod mynd i John O'Groats i nôl rhyw ddarn iddo.

Gallai un anghyfarwydd â'r grefft synied bod y saer yn gwastraffu ei amser gan mor ychydig o gynnydd a datblygiad a ellid ei ganfod.

Syniad Edward Williams (Iolo Morganwg), saer maen, bardd ac ysgolhaig o Drefflemin, Bro Morgannwg, oedd sefydlu'r mudiad, a hynny er mwyn adfer y traddodiad barddol i'w hen ogoniant.

Un cymeriad nodedig o linach y Plemings oedd Francis, saer maen a weithiai yn y chwarel.