Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

saeth

saeth

Defnyddiwch y saeth dewis i lusgo ar draws y diagram i gyd (o'r top chwith i'r gwaelod dde) fe gewch linell fylchog grynedig o gwmpas y diagram, wrth ichwi adael i fotwm y llygoden godi bydd pob gwrthrych yn cael ei ddewis fel yn y diagram ar y dde isod.

Codir arwydd ffordd yn y llannerch gyda'r naill saeth yn pwyntio am yn ol i'r henfyd - Y Gorffennol - a'r llall yn pwyntio ymlaen i'r newyddfyd - Y Dyfnodol.

Newid Ymddangosiad Gwrthrychau Defnyddiwch y saeth i ddewis y petryal.

Gellwch newid hyd neu ogwydd y llinell trwy roi'r saeth ar un o'r bachau a llusgo (sef symud y llygoden a'r botwm wedi ei bwyso).

Rhoddodd blwc i'w het dros un llygad fel y gwnai gyda'i gap a cherddodd fel ewig i gyfeiriad y Tŵr a godai'n saeth o ser i'r awyr.

Newidiwch y llinell blaen yn llinell saeth trwy glicio ar y blwch saethau.

Gellwch symud y llinell o gwmpas ar y sgrîn trwy roi'r saeth ar y llinell (nid ar y bachau) a llusgo.

Wrth i Mona adael Siop Gwilim gyda llond ei chol o fwcedi, ceir arwydd ffordd yn dynodi stryd unffordd ar lun saeth yn pwyntio'n obeithiol tuag i fyny tu cefn iddi.

Arwydd oedd y bwa o rym milwrol y Rhufeiniaid neu efallai'r Parthiaid, eu prif elynion a medrus eithriadol gyda bwa a saeth.

Roedd llinyn pysgota dau gant saith deg troedfedd o hyd wedi cael ei glymu wrth y saeth - ac roedd ganddyn nhw ffrind ar ochr orllewinol y wal yn aros i'w helpu nhw i ddianc.

Aeth saeth o ddigalondid drwy galon Anna am funud.

Symudwch y saeth at fotwm Word Processor a chliciwch arno i'w ddethol (fel ym mae i'w weld yn y diagram uchod), yna cliciwch y botwm OK i agor dogdfen newydd yn ClarisWorks.

Mae'r helflaidd yn syrthio â'th saeth yn ddwfn yn ei ystlys.

Clywodd JR Jeremeia Hughes ewinedd y ci yn sgriffio drwy'r paent ac aeth y peth fel saeth drwy'i galon.

Cyn i un ohonoch gael cyfle i ddianc mae nifer o'r milwry wei tynnu eu cleddyfau tra bo eraill yn rhoi saeth wrth linyn ac yn eu gollwng.

Os lleddaist yr helflaidd rwyt yn cymryd y Dorch Aur oddi am ei wddf a'th saeth o'i gorff cyn ailddechrau ar dy daith.

Mae'r saeth cyntaf yn dy daro.

`Nawr amdani ...' Tynnodd linyn y bwa gwydr ffibr yn ôl a saethodd saeth fry uwchben y wal.

Addasu'r Testun Wrth ichwi symud y saeth yn agos at y testun yr ydych wedi ei deipio bydd yn newid yn gyrchwr-I

Cyn gynted ag y gwelodd ef y saeth a'r llinyn yn nadreddu dros y wal rhedodd tuag at y fan lle y disgynnon nhw.

Gofynodd Mr Redwood, tad ein Glw-byrd ni: 'We uzz Saeth Weilz?' A thrwy hynny dywedodd y dywededig Mr Evans, Maesteg, wrtho am fodolaeth Cymru.

Os gwelsoch eog ryw dro yn plygu'i ben at ei losgwrn, ac yna yn ymsythu'n sydyn a hedfan fel saeth tros y gored, fe wyddoch sut y byddai Seren yn cyrchu rhyddid y clos.

Addasu a Symud Gwrthrychau Defnyddiwch y saeth dewis a chliciwch ar y llinell yr ydych newydd ei chynhyrchu fel bo'r llinell yn cael ei dethol.

Defnydiwyd gymysgedd o CorelDraw 3 a 4 a Paint Shop Pro 3 i greu'r graffeg; HTML Notepad yna Windows Notepad (pan sylweddolwyd bod HTML Notepad yn crap) i sgrifennu'r tudalennau HTML; Netscape Navigator 1.1 a 2 (fersiynau 32-bit) i brofi'r tudalennau; Word 6 i sgrifennu'r rhan helaethaf o'r cynnwys; a PageMaker 5 i gysodi a dylunio'r Tafod go iawn; a hyn i gyd yn rhedeg ar Windows 95 (ie, ie, ie, dwi'n sycyr, ond mae o werth o jyst am yr hwyl o allu gael tafod y ddraig fel eich saeth llygoden).

Erys colofnau creithiau'r caledwaith yn y cloddiau, y cwteri a'r chwareli, gyda chaib a rhaw, bwyell a phladur, cyllell a llwy, heb sôn am fwa saeth y rhai o'u blaen hwy; ac eto fe fynnwyd rhoi amser i'r Achos a'r achosion.

Aeth ei anwyldeb fel saeth i'm calon.) "Fy machgen i, 'rydw i wedi bod yn eich 'sgidiau chi%.