Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

saethu

saethu

Roedd yr hogiau wedi rhoi digon o goed ar y tân, y fflamau yn saethu i'r awyr ac yn taflu cysgodion digri o gwmpas.

'Cynnwys meddyliau, croesawu ysbrydoedd, ymwthio, saethu, perchi ystlumod, ymlid gwynt, porthi cnawd, turio am oferedd', ac elfen drosiadol gref iddynt yn ogystal.

Clywai Wil yn y capel un Nos Sul fod Hopcyn Tyddyn Isaf wedi saethu ci defaid Mostyn Hywel y Cynghorydd Sir drwy amryfusedd.

Fel rheol ar ôl i dwll fel hyn gael ei saethu mae angen llnau wyneb y graig, gan fod cerrig wedi symud ond ddim wedi dod i lawr, felly rhaid i'r ddau ddyn fynd i lawr ar y rhaff eto hefo darn o haearn crwn rhyw bedair troedfedd o hyd wedi ei finio yn un pen, yr hwn a elwir yn drosol.

Wedi cuddio'r llawddryll yr oedd, meddai, gan fod ei dad wedi saethu'n fwriadol at griw o fechgyn yn Llanfwrog.

"Mae'n rhaid i ni saethu Hurricane hwn i lawr!" rhuodd un o swyddogion y Lufftwaffe, llu awyr yr Almaen.

Wel, cyn deuddeg o'r gloch, dyma saethu yn y gwaith a'r dynion yn mynd i fwyta.

Saethu'n syfrdan tuag at y ser.

Newidiodd Rhys fywyd Hywel a hynny mewn sawl ffordd - dechreuodd Hywel a Llew gwympo mas ac o ganlyniad cafodd Hywel ei saethu.

Hen blasdy gyda'r ucha o'r môr yng Nghymru - wedi ei adeiladu fel plas saethu i fyddigions troad y ganrif.

Ddeufis ynghynt roedd yr Arlywydd Abraham Lincoln, wedi cael ei saethu'n farw tra'n gwylio drama mewn theatr ac, ychydig ddyddiau ar ôl hynny, fe ddaeth diwedd ar y Rhyfel Cartref a oedd wedi rhwygo'r wlad am bedair blynedd, gan arwain at farwolaeth tua hanner miliwn o bobl.

Cafodd miloedd eu saethu a'u carcharu.

Yng nghwrs y blynyddoedd fe gostiodd ffortiwn i'w saethu, ei raffu a'i lanhau er mwyn sicrhau diogelwch y dyniori a weithiai yn yr ugeiniau o fargeinion o'i ddeutu ac o tano.

Daeth yr ymosodiad ddiwrnod wedi i Arafat ddweud iddo ofyn i wyr arfog beidio saethu at yr Israeliaid yn yr ardaloedd sydd dan reolaeth y Palesteiniaid.

Cododd ar ei draed, a saethu'r dwsin yn y fan a'r lle.

Nid oedd Pwll Malltraeth a'i gyffiniau'n warchodfa natur bryd hynny, a byddai llu o hwyaid, rhydyddion ac ychydig wyddau'n cael eu saethu pan hedfanent i fyny'r afon o'r môr.

Curai eu hadenydd a rhwygai eu crafangau'r ddaear wrth iddyn nhw saethu fflamau gwynboeth o un i'r llall.

Gan saethu am y tro olaf estynnod Attilio i fyny a darganfod, er dirfawr ryddhad iddo, ei fod yn medru gafael yn ei raff drachefn.

Ffroenodd yr awyr gan edrych i gyfeiriad y trwyn o graig, ei llygaid yn rowlio a'i thafod yn saethu o'i cheg.

Cyn ei araith cyhoeddodd Eritrea ei bod wedi saethu i lawr tair awyren ymladd.

Pontiodd fflam o dân o ffroenau'r dreigiau a saethu'n groes i'w wybren gan godi mwy o ofn arnyn nhw.

Roedd paratoi ar gyfer 'powdwr mawr' yn fusnes costus iawn oherwydd byddai'n rhaid cludo popeth o werth i bellter diogel, a byddai'n rhaid i bawb a weithiai yn y ponciau islaw adael eu bargeinion nes byddai'r saethu drosodd a'r goruchwyliwr a'r arbenigwyr wedi eu bodloni ei bod yn ddiogel iddynt ddychwelyd.

Pan ofynnodd Francis i John pam y bu iddo dorri'r gwn dywedodd fod arno ofn i'w dad ei saethu, ond iddo gael ar ddeall wedyn, gan Mary Jane Williams, mai bwriad ei dad oedd ei daro â baril y gwn yn hytrach na'i saethu.

Ddydd Sul cafodd bachgen Palesteinaidd 14 oed ei saethu'n farw gan filwyr Israel wrth ymyl croesfan i Lain Gaza.

Roedd rhywun wedi dwyn gwerth miloedd o bunnoedd o bethau o siop gemydd yn y dref acw, ac wedi saethu'r gemydd wrth wneud hynny.'

Heb sylweddoli hynny yr oedd y cyw-gohebydd a anfonwyd i wrando araith ac a ddaeth yn ei ôl yn waglaw am fod rhywun wedi saethu'r areithydd !

'Mi fydda' i wedi'i saethu.

Cafodd ei saethu yn ei ben-glin mewn ymrafael gyda'r heddlu rywdro, a byth er hynny mae'n cerdded gyda herc.

Wedi fy saethu gan un ohonynt...' Clywodd Andrews Kirkley yn sugno'i anadl i mewn yn sydyn .

Lee Harvey Oswald, a gyhuddwyd o ladd Kennedy, yn cael ei saethu gan Jack Ruby.

Fase hynny ddim yn iawn tra bod pobl eraill yn cael eu saethu.

Cipiodd ei wn o'i wregys a dechrau saethu atyn nhw'n gyflym.

Penderfynwyd fod yn rhaid saethu a rhoddwyd gorchymyn i bawb a weithiai yn y bonc islaw i adael eu bargeinion.

Trueni, mewn gwirionedd, nad oedd gen i amser i chwarae yr hyn syn cael ei alw yn Egg Invaders ller ydych chi, y chwaraewr, yn gondom syn saethu at hâd gwrywaidd er mwyn amddiffyn wy benywaidd rhag rhaib y dihiryn Sberman.

Pan holodd Prothero ai ef oedd wedi saethu'r mab, meddai, 'Nage wir.

Ymarferai saethu yn ddiwyd, hefyd.

'Dwi'n deud wrtha chi rwan, isio'u ffrog- martsio nhw i gyd i'r ffrynt lein sy, i'r Jyrmans gal practis saethu.'

Dim byd ond wal gerrig!' Doedd hynny ddim yn hollol wir, achos roedd yna ffenestr fach fel agen saethu, oedd yn gadael rhyw lafn main o olau i mewn i'r 'stafell dywyll.

"Ydych chi wedi rhoi ystyriaeth i'r cynnig?" "Do, Mr Jenkins." "Mae o'n gynnig arbennig o dda cofiwch, dau gant a deg o filoedd am y tŷ a'r fferm a'r hawliau saethu a physgota.

Dros y blynyddoedd mae'r Gymdeithas er Gwarchod Adar wedi bod yn cadw cofniodion o ddigwyddiadau yn cynnwys dinistrio nythod, gwenwyno a saethu adar.

Dim awydd - lawer llai pan sylweddolais fod Mem wedi creu ambell ergyd ac yn dibynnu arnaf i'w saethu drosti.

~r ôl caniad, pan *ddai pawb nad oedd a wnelont â'r saethu, wedi mynd adref, neu ar brynhawn Sadwrn, y byddai'r tanio'n cymryd lle fel rheol.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Kennedy yn mynd i Berlin ac yn llefaru'r geiriau: 'Ich bin ein Berliner'. Yr Arlywydd Kennedy yn cael ei saethu.

rhegodd yn uchel wrth i lafn o boen saethu drwy'i ysgwydd.

'Roedd John wedi bod yn saethu cwningod efo'r gwn hwnnw yn ystod y bore a gofynnodd i'w dad am getrisen arall gan ei fod â'i lygad ar un wningen ddu.

Michael Ryan yn saethu 16 o bobl yn Hungerford.

Gan fod llawer o ddynion yn gweithio yn y bonc roedd yn rhaid cad rhyw drefn gyda'r saethu, neu mi fuasai rhywun yn cael ei ladd neu ei anafu bob tro; felly roedd amserau neilltuol i'r saethu a threfn rhywbeth tebyg i hyn: roedd dyn penodedig yn chwythu biwgl, ac ar y chwythiad cyntaf roedd pawb nad oedd a wnelo hwy â'r saethu yn mynd i le diogel i ymochel neu, i ddefnyddio term y chwarel, i wardio ffiars.

Yn fuan wedyn, galwodd Siôn Elias i weld Ellen Jones, Glasfryn, gan ddweud fod John y mab wedi'i saethu'i hun a'i fod am iddi hi fynd yno i ddiweddu'r corff.

Mae gan Blair amser eto i adfer ei boblogrwydd ond bydd yn rhaid i Hague feddwl am strategaeth newydd wedi i'r etholwyr anwybyddu ei alwad i roi ffoaduriaid dan glo a saethu lladron.

Dyma'r flwyddyn y gwelwyd swyddog o Dde Fietnam yn saethu dyn a amheuwyd o fod yn Vietcong yn ei ben.

Cofiaf glywed y newyddion am saethu Kennedy.

Cytunodd pawb y dylai'r llofrudd gael ei glymu wrth goeden a'i saethu.

I fwy o saethu, mwy o lofruddio, mwy o drais.

Ar ddiwedd y daith honno roedd yn ofynnol i ni wedyn gario un o'n cydfilwyr ar ein hysgwydd am gan llath, yna gwyro ar un pen-glin, a saethu at darged, ac os na lwyddid i gael hanner yr ergydion naill ai i'r canol neu o fewn ffiniau'r magpie' - fel y'i gelwid - rhaid fyddai gwneud y daith unwaith yn rhagor.

Yr SAS yn saethu tri aelod o'r IRA yn Gibraltar.

'Roedd ei dad wedi bygwth ei saethu, meddai.

'Mae John bach wedi saethu'i hun, Now,' meddai.

Ddydd Mercher, cafodd wyth o Balestiniaid eu saethu'n farw tra'n ymladd â byddin Israel.

Yr Arlywydd Kennedy yn cael ei saethu.

Roedd y gred yn bodoli adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, hwyrach am fod yr amser roedd yn ei gymryd i gynnau'r drydydd sigare/ t yn rhoi digon o gyfle i'r gelyn fedru saethu at y golau gwan yn y tywyllwch.

Erbyn i ni fod yno, roedd mil o bobl wedi'u lladd, y rhan fwya'n Balestiniaid, wrth i fechgyn ifanc a llanciau daflu cerrig a bomiau petrol at filwyr Israel a chael eu saethu am eu gwaith.

Pan laniodd yr awyren mewn cae ar gyrion Mogadishu, a phan agorodd ei safn fecanyddol yn araf er mwyn i'r gwaith o ddadlwytho sachau bwyd a newyddiadurwyr ddechrau cyn y saethu, roedd yr olygfa yn un yr oeddwn innau wedi'i gweld ar sgrin y teledu.

Bobby Kennedy yn cael ei saethu gan Sirhan Sirhan.

Ai ei hunig amcan yw cefnogi ymgais yr IRA i roi terfyn ar oruchafiaeth Llundain yn Ulster trwy losgi, bomio a saethu?

Dywedodd iddo saethu'r mab o ddrws y tŷ pan oedd wrthi'n trwsio bwyell ac yna osod y gwn, a'i faril i fyny, i bwyso'n erbyn y wal.

Wrth weld yr hen ŵr yn ei ddagrau, gofynnodd iddo beth oedd yn bod a dywedodd yntau fod John wedi'i saethu'i hun yn ddamweiniol.

Teimlodd y cynnwrf yn saethu trwyddo.

Ar ôl y saethu mawr mae'r cerrig sydd wedi dod o'r graig yn rhy fawr i neb fedru gwneud dim â hwy, ac felly rhaid cad twll eto ym mhob carreg, ond ddim yr un math o dwll â'r cyntaf: twll singl hand y gelwir hwn gan mai un dyn sydd yn ei wneud; ebill bychan sydd ganddo ac mae'n taro a throi ar ei ben ei hun.

Plas Pren, medde nhw, oherwydd mai o bren y'i gwnaed o - ac y mae hynny yn gwneud rheswm gan mai ar lun a delw plasdai saethu Sweden ei hadeiladwyd.

Rydw i, hyd yn oed, yn dechrau amau ai cael eu bwydo ynteu eu saethu yw tynged y trueiniaid.

' Digwyddai fod y torrwr beddau'n gweithio'n hwyr ac yn gorfod saethu carreg fawr cyn y gallai orffen agor bedd.Does braidd dim na all gwrachod ei wneud.

Mussolini yn cael ei ddal a'i saethu, a'i grogi gerfydd ei draed.

Athrawes a 16 o blant yn cael eu saethu'n farw yn Dunblane.

Bu wrthi am fisoedd yn gweithio arno 'wrth y dydd.' O'r diwedd fe orffennwyd y gwaith, ac eisteddai Francis yn y caban 'mochal ffiar gyda'r dynion eraill amser saethu.

Hen stori ydy honno am Albanwr yn mynd allan efo'i wn, yn saethu i'r awyr ac yna'n dweud wrth ei blant bod Sion Corn wedi ei saethu ei hun.

A'r pryd hwnnw y codai ar ei union ac y chwiliai am ei wn, ac er ei bod hi mor dywyll, fe ai ef at ddrws y tŷ, ei luchio'n agored, a saethu'n gib-ddall i'r gwyll hir.

Yr oedd y swyddogion wedi llogi brec, ond gan sgrechfeydd y dyrfa a'r wasgfa fawr fe redodd y ceffylau'n wyllt ac anafwyd un ohonynt mor ddrwg nes gorfod ei saethu yn y fan a'r lle.

Saith yn cael eu saethu yn y 'St.

Yr oedd yr hen Daid Trefgraig yn arw am hela a saethu.

Cryfhaodd y gred wedi i nifer o filwyr gael eu saethu ar ôl i dri danio tair sigare/ t o'r un fatsen.