O'i safle saff yn un gornel o'r stafell fe wnaeth ystumiau a oedd yn groes rhwng stumiau babŵn gwyllt a dawns y blodau.
Fe greodd Cymru y cyfleon ac fe ddylser gêm fod yn sâff ymhell cyn yr egwyl.
Ond gan ei bod hi'n dasg anodd iawn eu cael nhw i Cwrdistan yn saff, maent yn awr yn canolbwyntio ar anfon cynrychiolwyr i Iran i brynu moddion ar gyfer y Cwrdiaid.
"Gobeithio bod y pier 'ma'n saff," meddai wrth Sandra, gan graffu ar y coed dan ei draed.
Yr hyn nad oeddwn wedi'i sylweddoli oedd ein bod y tu allan i ffiniau'r hen Ymerodraeth Brydeinig erbyn hyn - ble bynnag y bu honno, mi allasech fentro bod 'na lawer o stomp ar ei hôl hi, fawr iawn o drefn ar ffyrdd, ysgolion ac ysbytai ac ati - ond roeddach chi'n saff dduwcs o gael un peth safonol, sef stadiwm fawr urddasol o amgylch cae criced.
Oedd, roedd hi yno'n saff.
Ond maen nhw i gyd yn cydnabod nad oes y fath beth â sustem gwbl saff.
Roedd Huw Gwyn wrthi'n llwgu ei hun, neu ar fin cerdded o Langefni i Gaerdydd neu rhywbeth; naill ffordd neu'r llall ro'n i'n recnio na fydda fo o gwmpas yn hir iawn a'i bod hi'n saff i mi ymaelodi -- ysywaeth...
Ond yn y cyfamser, mae'n weddol saff i haeru - saffach nag unrhyw sedd mae hi'n debyg o'i chipio yn San steffan - fod ei henw yn fwy cyfarwydd i bobol na'r un actores ffilmiau aral i Loegr ei chynhurchu yn ystod y chwarter canrif diwethaf.
'Dwi'n saff i ddweud 'dwi'n meddwl, mai o blith y gwþr sydd â'u gwreiddiau yn nhir Llanfechell ar Ynys Môn y mae'r un a gafodd y dylanwad mwyaf ar gwrs y byd llynedd - Mr Tristan Garel-Jones (mi fentra i y daw llythyr gyda throad y post yn cynnig ymgeisydd mwy teilwng - oedd hen nain Boutros Bourtos Ghali yn dod o Fynydd Mechell tybed?).
Mae'r genedl yn saff.
Yn ôl Cymdeithas Cyfeillion y Ddaear, er y bydd yr OP yn cael ei gadw mewn pecynnau sy'n fwy addas fydd o dal ddim yn hollol saff.
Wedi treio'r platform a gweld ei fod yn saff, maent yn eu gwneud eu hunain yn ddiogel trwy gloi'r rhaff am un goes a rhoi un tro arall iddo rownd eu canol.
Fe hedfanaf i uwchben y cawr a'i gludo'n saff i ti i'r ochr draw.'
"Mae'r ffilmiau'n saff o gael dangos drwy'r byd i gyd, felly yn sicr bydd yn gwneud lles enfawr ir diwydiant twristiaidd ac i fusnesau lleol yn y pen draw, yn ogystal â'r adeg bydd y ffilmio yn mynd yn ei flaen," meddai Sian Ekan-Wood ar ran y bwrdd.
Mae Casnewydd yn sâff o'u lle yn Ewrop y tymor nesaf, a bydd eu meddyliau nhw'n troi at rownd derfynol Cwpan y Principality wythnos i ddydd Sul.
Roeddwn i wedi clywed nad oedd hi ddim yn saff i fynd trwy Gerisim, dim ond mewn trên.
Mi wnes yn saff o 'mhethe am weddill ein harhosiad yn Llunden drwy baratoi rhestr o'r manne i ymweld â nhw.
Roedd George Millace, ffotograffydd didostur yr eiliadau hynny yr oedd yn well gan bob joci anghofio amdanyn nhw, yn saff yn ei focs hanner y ffordd i lawr i'w hir gartref y funud honno.
'Ti'n gweld, 'tae'r cyngor tre yn poeni llai am osod bandstands a phalmantu'r promenâd a mwy i sicrhau bod y strydoedd yn saff rhag fandalied a rafins ........
Efo Audrey wrth y llyw yn theatr Fach ac yn cadw trefn ar y "Merched" mae dyfodol y "pethe% reit saff ar Ynys Mon.
'Mae'n hollol saff iddyn nhw yma.
Symudodd Gethin ymlaen ychydig yn ofnus a chladdu ei ben yn saff dan gesail ei ffrind.
Mi fydden nhw'n saff yn fan 'na.
Roedd gwneud hynny yn hollol saff yn fy marn i ar y pryd, oherwydd fy mod wedi archwilio nifer o gleifion a oedd yn dioddef o'r Eryrod ar hyd y blynyddoedd heb i mi ei gael.
Ond dwi'n saff, tasa hi wedi trio cerdded allan efo babi y basa rhywun wedi ei rhwystro."