Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

safle

safle

O'i safle saff yn un gornel o'r stafell fe wnaeth ystumiau a oedd yn groes rhwng stumiau babŵn gwyllt a dawns y blodau.

Safle tairieithog.

Fe fydd y safle yn cael ei ddatblygu yn ystod y flwyddyn addysgol nesaf gan mai cymorth i fyfyrwyr ail iaith Cymraeg sydd ar gael ar hyn o bryd.

Mae Villa nawr wedi codi i'r pumed safle ac Everton nawr yn bymthegfed.

"Mae hyn yn newyddion da dros ben ac yr wyf yn falch iawn y bydd gorsaf newydd yn cael ei hadeiladu ar y safle yn y dyfodol agos," meddai Mr Hughes.

Gallwch gyfrannu at gadw ansawdd BBC Ble ar y We wrth roi gwbod inni os yw unrhyw safle'n annerbyniol neu'n peri tramgwydd.

Mae Tre'r Ceiri, sydd ar safle o bum erw wedi'i hamgylchynu â muriau cedyrn o gerrig a phridd ar ffurf caer neu amddiffynfa.

Safle dwyieithog.

Dyma paham y mae sefyllfa iaith a threftadaeth ein cenedl, er ei pherycled, ac er bod safle daearyddol Cymru mor anfanteisiol, gymaint yn gryfach na sefyllfa Iwerddon, yr Alban a Llydaw.

Cofadail yw safle Dorothea bellach i ddiwydiant llechi a fu unwaith yn llewyrchus, cofadail ddigon arswydus sy'n anesmwytho dyn ac yn gwneud iddo ryfeddu ar yr un pryd.

Bu ffigurau cynulleidfaoedd teledu yn dda yn gyffredinol, gan adlewyrchu gallu cystadleuol cynnyrch BBC Cymru, a thra bo rhywfaint o bryder ynglyn â safle presennol BBC Radio Wales, mae arwyddion bod y penderfyniadau strategol, golygyddol a phroffesiynol cywir yn cael eu gwneud i adfywio'r orsaf.

Cyfeiriwyd eisoes at ei safle fel athro Hebraeg a Chanon, ac yn barod 'roedd pobl wedi cysylltu'r mudiad gyda'i enw, er mai llysenw ydoedd ar y dechrau cyntaf.

Byddai meysydd chwarae bob-tywydd gyda llifoleuadau'n cael eu darparu ar y tri safle a bydden nhw ar gael i'r gymuned y tu allan i oriau ysgol.

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer safle'r wythnos danfonwch nhw atom.

Cododd Ipswich i'r trydydd safle yn yr Uwch Gynghrair drwy guro Bradford, y clwb sydd ar y gwaelod, 3 - 1.

Safle anodd iawn oedd safle'r gwledydd bychain ar y gorau, hyd yn oed os oedd ynt yn annibynnol, pan fyddai'r gwledydd mawr o'u cwmpas yn gwrthdaro, - meddylier am sefyllfa Iwerddon, Norwy, Sweden, Denmarc, Yr Yswistir, Belg, Holand, Ffinland.

Mae Caerdydd yn yr wyth ucha ac os enillan nhw, a Brighton yn colli, efalle gwnan nhw godi i'r ail safle heno.

Gallwn gynig pob math o safleoedd, o safle syml un tudalen i safleoedd cymleth dros nifer o dydalenau.

Maen nhw wedi codi i'r pumed safle efo chwe phwynt yn llai nag Ipswich sy'n drydydd - ond maen nhw wedi chwarae dwy gêm yn llai.

Mae'r atebion i'w cael yn ein safle Creu Cenedl, gan John Davies.

Nid yn unig gallwch ddarllen amdanynt ar eu safle ond hefyd gallwch archebu eu cryno ddisgiau yn rhatach.

Hefyd http://www.superfurry.com/ - er mai'n anaml y mae'n cael ei ddiweddaru mae'n safle sy'n edrych yn dda gyda newyddion, adroddiadau am gyngherddau a sgyrsiau.

Gall y safle eich helpu i wella'ch Cymraeg, dod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac ysgrifennu mewn Cymraeg clir, dealladwy.

Nod y safle yw darparu gwybodaeth gyffredinol ynglun â'r Comisiwn yn ogystal â manylion am arolygon etholiadol ac arolygon ffin y Comisiwn.

Dyma'u safle meddyliol.

Cafwyd datblygiadau ardderchog o ran safleoedd newyddion a safleoedd eraill arlein, ac mae'r safle unigryw BBC Cymrur Byd yn darparu gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg ym mhedwar ban byd.

Safle eang ond mae'n anodd dod o hyd i wybodaeth.

Dyry ecoleg a bioleg môr wybodaeth inni am y 'matrics biolegol' sy'n diogelu y llongddrylliad, am gynnwys yr haen galed organig a'r effaith a gaiff creaduriaid y môr ar safle.

Arolygu safle ac amserlen BBC Radio Wales er mwyn cryfhau ei hapêl gyffredinol i gynulleidfa eang ar draws Cymru gyfan, ac i alluogi'r orsaf i gystadlu'n effeithiol gyda gwasanaethau newydd.

Berlin oedd canolbwynt y cynnwrf hwnnw yn yr Almaen, yn rhannol o ganlyniad i'w statws gwleidyddol a'i safle daearyddol rhwng dau brif bŝer y dydd.

* Mae safle Llandarcy yn cael ei weinyddu ar ran yr Eisteddfod gan gwmni BP.

i mewn, daw mike hall yn lle scott gibbs sy'n debyg o fod allan o'r tîm cenedlaethol am y tymor oherwydd yr anaf a gafodd yn erbyn canada a nigel davies am fod neil jenkins yn symud i safle'r maswr.

Mae Abertawe nawr wedi disgyn i'r 19ed safle yn y tabl.

Mae Lerpwl wedi codi i'r trydydd safle yn yr Uwch Gynghrair ar ôl curo Coventry 4 - 1 ddoe.

Mae wedi bod ar gael yn Saesneg ac mae naw o bob deg myfyriwr yn dweud bod y safle yn gwneud adolygu yn haws.

O ganlyniad i hyn, bydd y gwastraff yn cael ei gludo i safle Cilgwyn, a fydd yn arwain at Lwyn Isaf gael ei gau mewn amser.

Cafodd y deunydd ei ddarganfod o dan ran o Barc Arfordir y Mileniwm, hen safle Pwerdy Bae Caerfyrddin.

Mi fum i'n dipyn o giamstar gwthio berfa ar safle adeiladu flynyddoedd yn ôl...

Gellwch lwytho estyniad Shockwave i lawr o safle Macromedia.com.

Tynnwyd sylw yn arbennig at y defnydd o sain, lliw ac animeiddio ar safle Ysgol Santes Tudful, ac at fanylder y gwybodaeth cymunedol safle Ysgol Llanrug.

Safle ysgol fywiog wedi ei anelu at blant a'u teuleuoedd.

Dibynnu ar eich siniciaeth, ond a bod yn glên am change, mae'r gwleidyddion yn mynnu oherwydd eu rhwystredigaeth gyda'u hanallu i newid y sefyllfa, mae'r Quangos yn mynnu er mwyn diogelu a chynyddu eu safle eu hunain.

Dylid nodi i'r tir gael ei roddi yn rhad gan John Davies, Glan-y-gors, ac i'r adeilad gael ei godi ar safle wahanol i'r addoldy blaenorol.

Gwrthgiliodd gofalwr arwyddion o'i safle yn y blwch gorllewinol, er llawenydd i'r dyrfa, ond rhaid oedd defnyddio dulliau cryfach i gael gwared ar y gofalwr o brif flwch yr orsaf.

Bydd un wobr yn cael ei rhoi am y safle gorau gan ddisgyblion ysgolion cynradd a'r llall am safle a gynlluniwyd gan ddisgyblion ysgolion uwchradd.

"Yr oedd yr hen orsaf wedi disgyn o dan y safon ers llawer dydd ac os oedd gorsaf newydd am gael ei hadelladu, yna'r amser gorau i wneud hynny oedd tra bod y gwaith ar yr ysbyty ei hun yn cymeryd lle." "Os buasai'r orsaf yn cael ei hadeiladu ar ôl i'r ysbyty newydd gael ei hagor, buasai ail-wneud cynlluniau, rhoi y gwaith allan i dendar a'r anhwylusder trafnidiaeth ar y safle yn golygu y buasai wedi costio mwy na'r angen.

Roedd llechen ar wal yr ysbyty yn cofnodi'r hyn a ddigwyddai ar y safle yn nyddiau'r tlodi mawr.

Dwyt ti ddim mewn safle da i fargeinio â ni.

Ceisiai Project yr Armada, a drefnwyd gan Sydney Wignall, ddarganfod safle llongddrylliad Armada y gellid yn rhesymol dybio y byddai'n rhoi gwybodaeth inni am yr Armada na ellid ei chael o unrhyw ffynhonnell arall.

CYFARPAR DIOGELWCH (gweler Diogelwch Safle)

Gan mai ychydig a wyddom am fiocemeg a nodweddion mecanyddol haen galed amddiffynnol o'r fath, mae'n hanfodol gwneud ymchwil cyn tarfu ar sefydlogrwydd y safle.

Oherwydd hynny, rydym wedi cynnwys cyfleuster chwilio a map o'r safle. Gellwch ddefnyddio'r cyfleuster chwilio i ddod o hyd i dudalennau unigol drwy glicio yma.

Mae Chelsea wedi esgyn i'r pumed safle yn yr Uwch Gynghrair ar ôl curo Spurs yn White Hart Lane 3 - 0.

Mae'n annog pob pennaeth heddlu i sefydlu polisi%au cynhwysfawr a'u gweithredu, fel y bydd eu holl swyddogion yn sicrach o'u safle pan elwir hwy i sefyllfa o drais yn y cartref.

Mae Romania, felly, trwodd i'r wyth olaf, yn yr ail safle yn Grwp A tu ôl i Portiwgal.

Y mae dwy ysgol yng Nghymru wedi ennill cyfrifiadur i-Mac DV mewn cystadleuaeth i ddylunio safle gwe a drefnwyd gan BBC Cymru'r Byd.

Mae'r cefnwr Pepito Elhorga wedi ei gynnwys yn lle David Bory, er mae'n bosib mai Jean-Luc Sadourny fydd yn chwarae yn y safle hwnnw, fel y gwnaeth yn erbyn Yr Eidal.

Yr iâr yn unig sy'n eistedd ar yr wyau gan fod ei lliw brown tywyll yn ei galluogi i ymdoddi'n rhwydd i'r cefndir grugog, ond byddai'r ceiliog, gyda'i blu llwyd yn sicr o dynnu sylw at safle'r nyth.

Y posibiliad o ddatblygu cyfleusterau chwaraeon eto ar yr un safle.

Mae Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ar y gorwel, yn ei safle newydd ym mis Mawrth.

Gêm gyfartal 1 - 1 yn erbyn Porthmadog gafodd Llangefni, sy'n yr ail safle.

Ers dechreuad gwareiddiad mae'r dynolryw wedi edrych ar y sêr ac wedi ceisio dehongli eu safle yn y greadigaeth.

Cais llawn - tŷ unllawr amaethyddol a modurdy Rheswm: I roddi cyfle i'r Is-bwyllgor Ymweliadau ymweld â'r safle a chyflwyno adroddiad.

A fydd Eglwys Annibynwyr y Foel yn barod i drefnu eisteddfod sydd yn gysylltiedig a'r Foel bellach ers canrif a mwy mewn safle newydd yn y ganolfan?

Safle hollol dwyieithog, yn cynnwys gwybodaeth am busys, ysgolion, y tywydd a twristiaeth.

Maen nhw'n parhau yn y trydydd safle, ddau bwynt ar y blaen i Hartlepool.

Mae'r safle'n cydymffurfio â meini prawf y pwyllgor gwyddonol.

Ond fe ddylsai gwladwriaeth gyfoethog gyda rhyw 59 miliwn o boblogaeth wneud yn well na bod un safle yn is na Cuba ac un safle uwchben Romania yn nhabl y medalau.

Erbyn hyn, mae'r cwmni wedi ei ddewis a'r gobaith ydy y bydd y gwaith adeiladu'n dechrau yn gynnar yn 2001 ac y bydd y tri safle ar gael i'r cyngor erbyn Medi 2002.

Safle llawn hwyl mewn Cymraeg ar gyfer plant 3-6 oed.

Yn ol adroddiad diweddaaf yr Heddlu, y mae'r sefyllfa parcio wrth y Feddygfa yn weddol foddhaol ond byddant yn dal i arolygu'r safle.

Yn y dref fodern y mae'r bobl yn byw erbyn hyn, ond y dref hynafol yw trysor diwylliannol cenedl y Cwrdiaid a safle hynafol o bwysigrwydd rhyngwladol.

Yn ôl rhai archaeolegwyr, dyma safle dinas goll Atlantis, i'r gogledd o ynys Creta.

Daliais fy ngafael yn safle bachwr y tîm cyntaf weddill fy amser yn Lerpwl.

Mae nifer o anafiadau yng ngharfan Wrecsam a maen nhw'n gorfod dewis chwaraewyr allan o'u safle - mae McGregor, er enghraifft, yn gorfod chwarae yng nghanol yr amddiffyn yn hytrach na'i safle arferol o gefnwr de.

Er bod yr awdurdod yn hyderus eu bod wedi clirio'r rhan fwya o asbestos, maen nhw'n cyfadde y gall rhywun fod wedi dadlwytho'r deunydd yn anghyfreithlon ar y safle.

Yn ogystal â'r darllediadau ar BBC2, Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales bydd y sianel ddigidol BBC Knowledge yn darlledu pob un o'r rowndiau a bydd y safle www.bbc.co.uk/cardiffsinger yn darlledu'r rhaglenni yn fyw.

Mileniwm newydd a safle newydd i'r sîn cymraeg.

Ar yr un safle â Pedro, roedd gwyddonwyr yn cario brics a'u rhoi yn eu lle.

O ganlyniad i gemau neithiwr mae Abertawe yn y 13 safle a Wrecsam yn 16ed yn yr Ail Adran.

Disgwyliwn i'r Cynulliad beidio canoli grym mewn un lle a galwn am ddatganoli'r Cynulliad ar dri safle drwy Gymru a galwn ymhellach am ddatblygiad o drefn wleidyddol lle datganolir grym i gymunedau Cymru drwy'r Cynghorau Cymuned a'r Awdurdodau Lleol.

Roedd Graham Thorpe wedi gosod Lloegr mewn safle dda gyda 72 dygn.

Safle swyddogol Prosiect Ein Bro 2000 Awdurdod Addysg Gwynedd.

Mae'r safle yn ceisio cynnig yr holl wybodaeth y byddwch ei angen am Rwydwaith Dysgu Llandrillo.

Ddechrau'r flwyddyn, fe ofynwyd i ysgolion Cymru lunio safle gwe ar unrhyw bwnc, ar yr amod bod y safleoedd yn Gymraeg neu'n drwyadl ddwyieithog.

Pwrpas y safle yw i rhoi arolwg o'r marina, ei lleoliad, cyfleusterau a prisiau angorfa.

Amlygiad o'i safle yw iddo gael ei gladdu ym Margam.

Fy mwriad yw sicrhau bod BBC Cymru yn cadw ei safle amlwg fel y darlledwr cenedlaethol yng Nghymru.

gobeithient, trwy redeg ar draws y cae, gyrraedd y safle manteisiol hwn o flaen eu llongau, ac os byddai 'r rheini 'n dal i fynd aent ymlaen at bont trillwyn, a 'r llong gyntaf dan y bont fyddai 'n ennill.

Ymhob cenedl a fu neu sydd mewn safle trefedigaethol tebyg i Gymru ceir yr un ymlyniad ag a welir yn ein gwlad ni wrth y drefn orchfygol ar draul y genedl gaeth.

Cafwyd tywydd braf a chystadlu da ar Safle Sioe Mon.

Mantais trefniant o'r fath yw hybu cydweithrediad, ond y berygl amlwg yw ei bod yn haws cau un 'safle' o ysgol nac i gau ysgol gyfan.

(a) Safle Pwlfereiddio Gwastraff, Llwyn Isaf, Clynnog CYFLWYNWYD

Gellir tanysgrifio trwy gyfrwng y safle yma hefyd, neu fel arall holwch yn eich siop recordiau leol – mae ambell i gopi yn cael ei ddosbarthu rai wythnosau wedi i'r tanysgrifwyr dderbyn CD yn y post.

Yn y sefyllfa gymysglyd hon rhoddwyd hawl i ddim llai na thri grŵp o nofwyr chwilio am y llongddrylliad ac o ganlyniad gweithiai gwahanol grwpiau ar wahanol rannau o'r safle.

Mae dros 200 o bobl yn gweithio i'r papur newydd a'r orsaf radio ac y maent wedi dechrau cyhoeddi papur newydd arall sy'n cael ei ddosbarthu o law i law Euskadi Información. Ceir hefyd safle ar y we, www.euskalherria.net.

Ewch ymlaen yn awr i'r llecyn sydd ar safle Radio Cymru yn BBC Cymrur Byd lle cewch flas ar rai o'r sesiynau.

Ar ôl treulio cymaint o amser yn y tywod yn y rownd olaf dywedodd ei fod yn teimlo fel petaen chwaraen yr anialwch! Roedd 73 yn y rownd olaf ddim digon i sicrhau dim gwell na thrydydd safle.

Mae'n dod i'r pen yn y frwydr am y pumed safle yng Nghwpan Heineken y tymor nesa.

Yng nghanrif y Tuduriaid rhoddid pwyslais mawr ar safle'r tad yn y teulu ac ef, fel rheol, a fyddai'n trefnu priodasau ei etifeddion.