Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sahara

sahara

Mae llawer yn trengi ar y fath siwmai, a'r dyddiau yma maent yn wynebu trafferthion newydd yn y Sahel ar ôl croesi'r Sahara.

Anialwch sych tebyg i'r Sahara heddiw oedd y rhan yma o'r wlad yn ystod y cyfnod Triasig.

Mae rhan helaeth o'r adar fydd yn y wlad yma yn anelu am arfordir gorllewinol Ffrainc, ac yna yn teithio i lawr trwy Sbaen ac i ogledd Affrica cyn wynebu'r daith ofnadwy ar draws diffeithwch y Sahara.

Sonnid amdano yn Arabeg glasurol llwyth y gof, ac mewn Berbereg hynafol a brodorol hyd eithafoedd y Sahara.

Roedd ardal y Sahel, sydd yn union i'r de o'r Sahara, yn arfer bod yn baradwys i'r adar ar ôl croesi'r fath ddiffeithwch, ond mae ardal y Sahel erbyn hyn yn brysur droi yn ddiffeithwch ei hun ar ôl prinder glaw am flynyddoedd.