Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

saim

saim

I wella chwydd yn y traed berwid gwraidd yr ysgawen, ei gymysgu gyda hen saim i wneud eli a'i roi ar y traed a'r coesau.

Defnyddiwch gaws, gwahanol fathau o hadau, saim, etc.

Aeth Jini ymlaen i ddarllen: 'Peint o boeri jiraff, Tri phwys o saim gwydd...'

Toddwch saim a'i gymysgu â chnau, crofen cig moch, etc.

Byddai'r fraich wedi ei gorchuddio a'i chadw mewn cadachau o formalin ac wedi'r cam cyntaf hwn aem ati wedyn i'w gwaredu o'r saim a'r bloneg nes dod at y croen sy'n dal y cyhyrau yn eu lle a dysgu wedyn am fan tarddiad a phwrpas pob un.

Gwelai ei gŵr yn taflu ei hances boced fudr o'i boced ac yn cymryd un lân o'r drôr, a'i esgidiau yn twymo ar y ffender, yn ddu am heddiw ar fore Llun, wedi eu hiro â saim, a hwnnw heb sychu yn nhyllau'r careiau, ac yn chwysu yng ngwres y tân.

Y rhyfeddod mwya oedd mai'r unig losgiade gês i oedd o dan 'y nhraed, lle'r oedd y saim wedi tasgu ar y carped.

Cydies yn y sosban, a honno'n poeri saim dros y carped a'r llawr, a'i thaflu allan drwy ddrws y cefn; yna rhwygo'r llenni oddi ar y ffenest, a'u stwffio o dan y tap dwr.

Ac yn y pen arall, y ferfa ysgafn, handi, yn baent ac yn sglein i gyd ac yn symud ar le glas heb ddim ond sūn yr echel yn troi yn ei saim.

'Ti isio bwyd?' 'Jest te.' 'Mi gei di jips a ffish hefyd rhag ofn i chdi udo'n bod ni wedi dy lwgu di.' Daeth y sglodion a'r sgodyn yn fôr o saim mewn papur newydd.

"chilenos" efo'i drol ychen i ddod â digon o flawa, siwgwr a kerosene i'r lampiau erbyn y tywydd mawr, ac mi goliaf yn dda yr adeg y crisis nad oedd posib cael y diwethaf a gorfod gwneud canhwyllau efo saim adref.

Cododd y saim melyn bwys ar Enlli ond roedd y te yn felys a chwilboeth.