Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

saithdegau

saithdegau

Doedd yna ddim cymaint yn y Cyfarfod Cyffredinol eleni, yn wir mae'r tyrfaoedd mawr wedi diflannu ers canol y saithdegau.

Yn y saithdegau, roedd merched yn Lloegr yn arfer cyffwrdd y ddaear ar ôl gweld fan bost ac yn dweud, 'Cyntaf welwn, hwnnw garwn'.

Y rheswm am gyfeiriad gwyrdroedig y Gymdeithas yw ein bod yn cael ein harwain gan 'griw o eithafwyr ynghlwm wrth werthoedd y saithdegau'. Roeddwn i'n ddyflwydd yn 1970 ac roedd fy nau Is-Gadeirydd rhywle yn y minws.

Bu Dewi Wyn Jones, Swyddog Amaeth y Sir cyn ei benodi'n ddarlithydd yng Ngholeg Meirionnydd, a chryn ddiddordeb i hybu aredig fel gweithgaredd i aelodau'r mudiad ar ddechrau'r saithdegau hefyd.

Merched o blwy Silian oedd y grwp Tannau Tawela a fu'n enwog iawn yn y saithdegau.

Hyd yn oed ymysg Keyneswyr, y mae'r ffydd yng ngallu'r llywodraeth i fan-diwnio'r economi wedi gwanhau cryn dipyn yn ystod y saithdegau.

Am rai blynyddoedd tua chanol y saithdegau yr oedd yn un o dri phanelwr preswyl Gair yn ei le.

Ar ddechrau'r saithdegau roedd yna duedd i feriniaid llenyddol Gorllewin yr Almaen ynghynt wawdio'r awduron hynny a oedd gynt wedi mynnu mai gwleidydda uniongyrchol oedd yn bwysig uwchlaw dim, ac a oedd nawr yn dychwelyd at lenydda wedi gweld methiant eu dyheadau.

“Nôl yn y saithdegau bum yn crwydro'r byd - Fiji, Awstralia, Borneo, Sarawak a Florida ac yn Sarawak bu bron i mi orfod priodi merch o lwyth y Dyaks.

Mae hyn yn adlewyrchiad o duedd gweinyddwyr trwy'r saithdegau a'r wythdegau i weld ysgolion bach fel 'problemau' costus i'w cau pan deuai cyfle oherwydd fod nifer y disgyblion wedi disgyn i'r lefel mympwyol o 16.

Dim ond un Alun Jones sydd gennym, ond er mor annhebyg iddo yw nofelwyr eraill diwedd y saithdegau a'r wythdegau, mae'n ymddangos i mi inni gael adfywiad ym maes y nofel yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

adeiladwyd Cronfa'r Brenig yn y saithdegau.

Bellach, gyda'r saithdegau yn tynnu i derfyn, daeth cyfnod y brotest fawr i derfyn.

Un o'r pethau sydd yn ddiddorol i ni heddiw ydy na cheisiwyd yn y chwech a'r saithdegau gyfuno'r ddau symudiad: at Brwsel ar un llaw, ac at ddatganoli ar y llaw arall.

Ym Mhrifysgol Warsaw yn y saithdegau cafwyd fod pobl oedd yn yfed sudd betys amrwd yn feunyddiol yn dioddef llai na'r cyffredin.

Ond os yw rhai yn brin o ffydd economaidd, nid ydynt yn ddall i rai o agweddau sylfaenol yr economi Prydeinig yn ystod y blynyddoedd er y rhyfel, ac yn enwedig yn y saithdegau.

Evan Powel, oedd erbyn hyn yn ei saithdegau, ac yn ddisgynnydd i un o hen deuluoedd y fro.

Technoleg yr oes electronig oedd yn hybu a helpu'r gwaith yn y saithdegau...

'Roedd y dilyniant buddugol yn herfeiddiol, yn gyfoes ac yn llawn o naws y chwedegau a'r saithdegau.

Gwelir gwreiddiau'r syniadaeth honno yng ngwaith athrawon iaith y saithdegau.

Saesneg yw'r ail gân; Fly Away - yn agor efo rîff reit ffynci o'r saithdegau.

Mae'n amlwg fod Lenz yn gweld colli'r emosiwn a'r angerdd a oedd yn rhan o brotestiadau'r chwedegau ac yn teimlo mai llwm a dideimlad yw gwleidyddiaeth y saithdegau cynnar mewn cymhariaeth.

Lle bu miloedd yn dod ynghyd i wrando ar lais chwyldro nodwedd amlycaf y saithdegau oedd chwalfa.

Sbardunwyd y mudiad, yn y lle cyntaf, gan ymdrechion y saithdegau cynnar i uno'r arholiadau TAU â'r rhai Safon "O" TAG.

Cerddi Ianws oedd protest fawr olaf y saithdegau.