Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

salmau

salmau

Fel y dengys y Salmau, y mae byd natur yn achos rhyfeddod ac yn ddeunydd mawl.

Ynghanol yr helynt hon y cyflawnodd Morgan waith mawr ei fywyd, sef cyfieithu'r Hen Destament (ac eithrio'r Salmau) a'r Apocryffa o'r newydd i'r Gymraeg, a diwygio cyfieithiadau William Salesbury o'r Salmau a'r Testament Newydd - fel y clywsoch yn gynharach fore heddiw, fe gafodd Salesbury beth help gyda'r Testament Newydd gan Richard Davies a Thomas Huet.

Mae'n fwy na phosibl fod geiriad y salmau hyfryd hyn o dan ddylanwad cenadwri Iesu ei hun ond i fesur y maent yn adlewyrchu mudiad o dduwioldeb gwlatgar wedi ei liwio gan ddyhead y proffwydi gynt am gyfiawnder.

Yn ei Salmau Cân yn ogystal ag yn ei gywyddau ymryson â William Cynwal ac eraill dengys Edmwnd Prys ei lwyr feistrolaeth ar Gymraeg clasurol yr hen feirdd.

Fel y gwelir oddi wrth y Salmau, y mae byd natur yn tystio i ogoniant Duw ac felly yr oedd yn gwbl briodol gweu cyfeiriadau at fyd natur â chyfeiriadau at drugaredd a ffyddlondeb Duw wrth addoli.