Gwelsom Mr Jones, Dolwar, yn croesi'r cae â phâl yn ei law, wedi bod yn chwilio am ddiferyn o ddŵr i'w ddiadell, ac yr oedd honno'n ei ddilyn gan frefu mor daer â'r hydd a glywsai'r Salmydd gynt yn brefu am yr afonydd dyfroedd.
Cofiwn hefyd eiriau'r Salmydd: 'Fy llinynnau a syrthiasant mewn lleoedd hyfryd; y mae i mi etifeddiaeth deg.' Yr oedd David Ellis yntau yn caru bro ei febyd yn angerddol.
Galwad gyson y proffwyd a'r salmydd oedd am edifeirwch ac ymgysegriad newydd.
A llwyddodd yr Eglwys Bresbyteraidd hithau, â llawenydd, fel y rhai a aent i'r môr mewn llongau a gwneud eu gorchwylion ar ddyfroedd mawr, chwedl y salmydd, i gyrraedd 'i'r hafan a ddymunent'.
Er inni gael ein creu, yng ngeiriau'r Salmydd, 'ychydig is na'r angylion', er inni gael ein cynysgaeddu â meddwl rhyfeddol a doniau nodedig, pobl ydym o gig a gwaed, llestri llawn craciau, yn dyheu beunydd am angor, am gysur a sicrwydd.
Rhaid cyffesu fod dirywiad y traddodiad canu mewn llawer capel wedi bod yn ergyd ddwys i'r swn llawen y mae'r Salmydd yn ei annog.