Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

salwch

salwch

Yr hyn na wyddai neb oedd fod y bobl hyn yn dioddef o salwch a achosid gan wenwyn yn eu bwyd.

Trwy gydol ei oes fe ddioddefodd o'r salwch.

Ceir sawl disgrifiad o arwyddion afiechydon a dyma un enghraifft fanwl gan Margiad Roberts yn ei cherdd Salwch.

Grym gweddi a chyffyrddiad y Crist byw a barodd i'r salwch ymadael yn llwyr â'r corff.

Brwydrodd Glan yn galed i oresgyn y salwch.

Cydnabu Mali iddi'i hun y gallai fod yn orsensitif ar y pwnc; yn ddiau roedd hi'n rhy ymwybodol o welwderei hwynepryd wedi pwl o salwch.

Nid yw'r salwch wedi dychwelyd i flino'r ferch.

Wedi dadansoddi helynt y claf byddai'n ei hysbysu o'r moddion y bwriadai eu paratoi ar gyfer y salwch.

Salwch ac Iechyd

Y flwyddyn ganlynol yn Ysgol Haf y Weinidogaeth Iacha/ u yn Aberystwyth, cymerais fendith dros ferch bedair ar ddeg oed a fu'n dioddef ers rhyw ddeng mlynedd gan ffurf ar y cryd cymalau a enwir ar ôl Syr George Frederic Still - y gŵr a wnaeth ymchwil yn y maes hwn - yn Salwch Still.

Y mae'r stori am ei wraig yn dinistrio llawysgrif yr hyn a ystyriai hi yn stori hyll Dr Jekyll gan ei orfodi ef yn ei salwch i'w hail-sgrifennu i gyd, yn stori ynddii hun.

Os ydych yn dioddef o salwch gall y goeden eich helpu i wella.

Mewn dipyn mi fydd gwasanaeth doctor yn PDH, mi fyddwch chi'n cerdded i mewn i beiriant, hwnnw yn dadansoddi eich salwch, byddwch yn rhoi punt mewn blwch, a bydd ffisig neu dabledi yn dod allan wedi ei bacio'n ddestlus a 'print-out' taclus i ddilyn i ddweud wrthych pryd i gymryd y moddion.

Mwmiodd y plentyn rywbeth aneglur am beswch neu salwch neu ryw anfadwch ar rywun neu'i gilydd ger rhyw afon.

Aeth Karen yn wael a chymrodd Gavin fantais o'i salwch er mwyn ei denu oddi wrth Derek.

Unwaith i chi gael eich effeithio gan hyn allwch chi ddim cael gwared ar y salwch.

Yr oedd ci llwynog bach o gwmpas ac meddai John yn llawn athrylith am anifeiliaid: "Mi 'rwyt ti'n berffaith iach, y baw, mae dy hen nosi di'n reit oer." A byddai'r plant yn teimlo trwyn pob ci ar ôl hyn os byddai rhyw arwydd o salwch arno i weld a fyddai ei "nosi yn oer." A minnau wedi dechrau sôn am John Preis daw llawer hanesyn i'r cof am ei ymweliadau mynych â ni.

Yr oedd Waldo wedi bod yn gofalu am ei fam yn ystod wythnosau I hir ei salwch olaf.

Mae profiadau personol a phoenus y bardd yn amlwg yn y gerdd Lladron Nos Dychymyg sy'n trafod salwch henaint.

Mae'n ffaith, medden nhw, fod dynion yn llawer mwy tebygol o ddioddef o'r salwch na merched.

Cais llawn - addasu ac ymestyn adeiladau allanol i ddarparu llety ar gyfer oedolion gyda salwch meddwl Rheswm: I roddi cyfle i'r Is-bwyllgor Ymweliadau ymweld â'r safle a chyflwyno adroddiad.

Aeth i lawr y grisiau meddw i'r salŵn - i weld drosto'i hun am y tro cyntaf alanastra salwch mor ar ferch ieuanc.

Dilyn esiampl yr Almaen a wnaeth Cymro amlycaf ei oes, a'i wobr oedd gwybod fod gweithwyr yn gallu cael cynhaliaeth hyd yn oed mewn salwch trwy lusgo byw 'ar y Lloyd George'.

Ar ôl dioddef salwch hir, bu farw Mrs Mair Griffiths, Fair Meadows, priod annwyl Douglas a mam gariadus Marjorie, Gareth, David a Lynne.

Oes yna ryw salwch yn bod?

Y flwyddyn ddilynol yn Ysgol Haf Aberystwyth fe'm rhois fy hun yn gyfrwng i helpu iacha/ u merch fach arall a ddioddefai gan Salwch Still.

Cais adeilad rhestredig - addasu ac ymestyn adeiladau allanol i ddarparu llety ar gyfer oedolion gyda salwch meddwl Rheswm: I roddi cyfle i'r Is-bwyllgor Ymweliadau ymweld â'r safle a chyflwyno adroddiad.

Ar nifer o'r mordeithiau hynny, os digwyddai anhap neu salwch i un o'r teithwyr, Doctor Jones, yn rhinwedd ei swydd, fyddai meddyg swyddogol y llong.

Maen nhw, yr arbenigwyr, yn ceisio profi fod a wnelo dagrau, neu brinder dagrau, ag ambell salwch, yn arbennig briwiau stumog.

Chwalodd ei briodas gynta oherwydd nad oedd Llew yn gallu wynebu salwch genetig ei fab, Rhodri.

Hefyd doedd cleifion oedd wedi goresgyn eu salwch ddim wedi eu cynnwys, ac oherwydd y ddau bwynt yna daeth galwadau am ymchwil annibynnol.

Rai misoedd yn ddiweddarach derbyniais lythyr oddi wrth famgu'r ferch yn dweud bod y meddygon wedi ei harchwilio'n ofalus a'u bod yn cytuno bod y salwch o'r diwedd wedi ymadael yn llwyr â'r corff.

Os, drwy'r cyfryw salwch neu anallu, nad yw'r Artist yn gallu cwblhau ei waith gall y Cynhyrchydd derfynu Cytundeb Gwaith yr Artist drwy dalu i'r Artist yr holl daliadau sy'n ddyledus hyd at ddyddiad y salwch neu anallu.

Ond erys y cof am y Nadolig cyntaf o'i salwch yn fyw iawn.

Hyd heddiw ymhlith rhai pobl, yn arbennig y to hyn, ceir cred nad gweddus mynd allan i 'wydd pobol' wedi cyfnod o salwch heb yn gyntaf fynd i'r capel neu'r eglwys i ddiolch.

"Na nid salwch môr arferol sy'n gyfrifol am hyn.

Cafodd alwad i weld ci'r ferch a llwyddodd i'w wella o'i salwch.

Cyn derbyn y fendith ar gyfer y ferch a ddioddefai gan Salwch Still, dywedodd Bryn Roberts wrthyf y byddai o help i'r ferch dderbyn iachâd pe bawn yn ceisio ei gweld yn fy nychymyg eisoes yn iach ac yn llawen.