Roedd y ddraenen yn goeden sanctaidd i'r pagan a'r Cristion.
Ac o achos hyn a rhesymau eraill, yr ydym mewn llawer lle wedi cadw'r ymadroddion Hebraeg, er y gallant daro braidd yn chwithig yng nghlustiau y rheini nad ydynt wedi ymarfer yn dda â hwy ac ymddigrifo hefyd yn ymadroddion persain yr Ysgrythurau Sanctaidd.
Y prif gwestiwn oedd nid sut allai Duw, yn rhesymegol, lwyddo i ddod yn ddyn, ond sut allai dyn marwol ennill anfarwoldeb neu ddyn pechadurus gael ei gymodi â'r Duw sanctaidd?
Perthynai'r ddwy, yn eu ffyrdd gwahanol, i fudiad llenyddol pur boblogaidd yn Ffrainc tua dechrau'r drydedd ganrif ar ddeg: mudiad a welai ar y naill law ymgais i gysylltu'r chwedl Arthuraidd (cyfraniad mwyaf Cymru i ddychymyg Ewrop, o bosibl) â chyfnod y Testament Newydd a sefydlu'r Greal Sanctaidd yn un o brif themâu llên Ffrainc, a mudiad a oedd yn dyst ar y llaw arall i symud pendant oddi wrth yr hen arfer Ffrengig o gyfansoddi naratif ar fesur ac odl i lunio stori%au rhyddiaith.
Y banyan yw coeden sanctaidd yr Hindu gan fod y duw Vishnu wedi ei eni o dan un.
Pâr i wirioneddau dy Air sanctaidd oleuo'n deall ac i wyrthiau dy ras ddyfnhau ein hargyhoeddiad nad oes enw arall wedi ei osod tan y nef trwy yr hwn y mae'n rhaid inni fod yn gadwedig ond enw Iesu.
Ac yr oedd dyn yn ffyrnigo a ffieiddio am fod y Philistiaid dienwaededig yn mathru'r lle sanctaidd, yn gwaredu am fod yr inffidel ddiddymwr a'i griw mor ddihidio ag a fu Antiochus Epiphanes a'i lu 'rioed, yn halogi'r cysegr a'i droi'n ffieidd-dra an~hyfaneddol yno o flaen ein llygaid:
Ai yn yr eglwys gyda'i holl ddefodau sanctaidd?
Roedd yr onnen hefyd yn goeden sanctaidd, yn garedig wrth bobl, yn eu gwella a'u gwarchod rhag rhaib gwrachod, os cedwid peth o'r pren a'r dail yn y tŷ.
Byddai'n gweiddi, Cofiwch y Saboth, i'w gadw'n sanctaidd," ac ni wariai geiniog ar eillio'i farf ar y Sul.
Fel y gellir disgwyl, gorchfygir y gormeswr Maelgwn gan bwer sanctaidd.
Rwy'n ddigon hapus heno fy mod yn medru adrodd peth o'r hen Gyffes sanctaidd gyda mam - "I believe in God the Father, God the Son and God the Holy Ghost," ond wyddwn i ddim byd beth a ddwedwn i!
Henffych, Iesu, 'r Duw tragwyddol, Gwir a sanctaidd, perffaith ddyn!
Yr oedd Elis Wynne ar y pryd yn gorffen ei gyfieithiad o Reol Buchedd Sanctaidd Jeremy Taylor.
Ei pherthynas â Duw, sef y ffaith ei bod yn genedl sanctaidd iddo, a rydd yr arbenigrwydd hwn ar Israel.
Yn baradocsaidd, felly, cysylltid Santes Dwynwen, ar y naill law, â diweirdeb sanctaidd ac, ar y llaw arall, â chariad bydol.
Mae gan bob crefydd ei choeden sanctaidd.
Fe'i haddolwyd gan drigolion nifer o wledydd fel coeden sanctaidd i dduw yr awyr a alwyd gan genhedloedd gwahanol yn Zeus, Jupiter, Thor neu Taranis.
Tegla Davies oedd y cyfodai rhywun ieuanc â 'chynddaredd sanctaidd' yn ei enaid, yn berchen ar weledigaeth gliriach nag a gafodd ei genhedlaeth ef ei hun.
Oherwydd ein pechod yr ydym o dan gondemniad ac nid oes dim a allwn ni ei wneud trwy ein hymdrechion ein hunain i sicrhau'r cyfiawnder a fydd yn bodloni'r Duw sanctaidd.
Cyffyrdded dy Ysbryd Sanctaidd â'n calonnau nes bod gorfoledd yn dygyfor ynddynt a gwefr yr iachawdwriaeth yn troi'n gân ar ein gwefusau.
Yn y 'Rhagymadrodd' i Rheolau a Dybenion dywed Charles o berthynas i'r rheolau, "Barnasom fod yr ychydig rai canlynol ôll â sail iddynt yn y Gair Sanctaidd (yr hwn yw ein rheol gyflawn a sicr..." [Ceir y 'Rhagymadrodd' yn gyflawn yn William Hughes, Life and Letters of the Rev.
Serch cyfrifoldebau'r urddau sanctaidd a osodwyd arno credai fod bywyd, o flaen pob ystyriaeth arall, yn brofiad i'w fwynhau.
Ceisiai adnewyddu ffydd ei bobl trwy bregethu efengyl a darddai o'i thraddodiad ei hun: cyhoeddai gyflawniad yr amser a'i egluro trwy sôn am y gobaith yn ysgrythurau ei genedl am oes fesianaidd, oes sanctaidd, a'i chyfiawnder a'i chariad yn amlygu holl angerdd ac arddeliad yr Ysbryd.
Yma gwelir fod y cwlwm priodas yn un sanctaidd na ddylid ei dorri.
Ni cheisiodd neb ei droi'n Fwslim; ystyrid ef yn rhyw fath o wirionyn, diniwed os nad sanctaidd, fel y cannoedd a oddefir yn y byd Islamaidd o ben bwygilydd.
"Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i'r Arglwydd dy Dduw; yr Arglwydd dy Dduw a'th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo'i hun o'r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear" (Deut.
Dechreuai siarad ag ef am Iesu Grist gyda'r geiriau, "Wel, hen ddyn..." Yna âi rhagddo i gyhoeddi'r efengyl Credai'n bendant y dylid cadw'r Sul yn sanctaidd.
Ac yn y parodi hwn, fel yn y gerdd futholegol ardderchog 'Drudwy Branwen', 'sanctaidd epistol poen' sy'n cael ei ddarllen, ond trwy ddrych mewn dameg.
Un argyhoeddiad y glynais wrtho drwy'r blynyddoedd yw fod y Drindod Sanctaidd wrth y llyw, ni waeth beth ddywed arwyddion yr amserau.
Nid oes ryfedd felly bod 'cenedl' a 'brenhiniaeth' (neu 'teyrnas', fel y cyfieithir yr un gair weithiau) yn ymddangos yn gyfochrog yn y Beibl, ac i bob pwrpas yn cael eu defnyddio fel cyfystyron - "chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid ac yn genedl sanctaidd" Ymddengys i Israel, o sylwi ar y cenhedloedd oddi amgylch, ganfod eu bod o ran eu trefn gymdeithasol yn deyrnasoedd neu'n freniniaethau, a daeth felly i ystyried meddu brenin fel un o nodau cenedligrwydd.
Nid oes dim yn y pethau hyn yn feithrinfa a magwraeth i dduwioldeb a bywyd sanctaidd.
Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon yw Duw yn ei breswylfa sanctaidd.
Trowyd hwy'n feini am feiddio tarfu ar y diwrnod sanctaidd.