Fe fues i draw gyda Jac Sar yn i helpu fe i roi e yn y stafell gefen, yn ymyl tacle teipio Madog.
Roedd Jac y Sar wedi hau stori ers blynydde i fod e wedi gneud coffin iddo fe'i hunan yr un pryd ag y gnath e goffin i'w wraig, a'i fod e'n i gadw fe dan y gwely, ond gan na fues i rioed yn stafell wely Jac, wn i ddim a oedd e'n gweud y gwir ai peidio.
A phan fu mam Luned farw, fe ofalodd am drefniade'r angladd i gyd - camgymeriad, achos Jac y Sar sy wedi gofalu am bob angladd yn y pentre er pan wi'n cofio.