Dilynodd Doctor Treharne y sarjiant ar draws iard goncrid, lydan at adeiladau wedi eu paentio'n llwyd, diflas.
"Arhoswch fan yma am funud, syr," meddai'r Sarjiant, ac aeth i mewn wrtho'i hunan â phapurau'r Doctor yn ei law.
Ar ôl mynd mewn i'r adeiladau, oedd yn glwstwr gyda'i gilydd y pen draw i'r iard, curodd y Sarjiant ar ddrws a'r enw "Cyrnol Grant" arno.
Yna daeth Sarjiant, â_ rhuban coch ar ei fraich, allan o adeilad ar y dde.