Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sarrug

sarrug

Penodwyd Tref yn ofalwr ar y Rex - swydd oddefol arall a chwbl ddibwrpas fel y dywed yn sarrug wrth Dave yn ddiweddarach: 'Gofalu am filding sy'n mynd i dalu ei dwlu lawr'.

Mae hwn yn ffrind ffyddlon i'w feistr, ond yn troi'n sarrug wrth eraill.

Faint o bysgod ydych chi wedi eu dwyn o'r afon 'ma?' gofynnodd yn sarrug.

"Halt!" gwaeddodd llais sarrug o'r tywyllwch.

A gorfod i mi dalu i'r cythral am y dwr yn y diwadd.' 'Trochodd Nain Nyrs flaen ei bys yn un o'r pwcedi a dweud yn sarrug,' 'Tydi hwn yn oer fel rhew gynnoch chi.'

Roedd e'n gwbl sarrug ynglŷn a gwleidyddion yn gyffredinol - nid Mrs Gahandi yn arbennig, ond gwleidyddion fel brid, gyda'u golwg ar bŵer a'r gem wleidyddol bleidiol.

Sut y medrwn ni fod yn llawen dan draed y gelyn a ..." "Ssh ..." Rhoddodd Marie bwniad iddo i'w dewi pan welodd ddau filwr ar fin y dorf yn edrych yn sarrug tuag atynt.