Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sawdl

sawdl

Er mai cerddor oedd Ffrancon Thomas o'i ben i'w sawdl nid dyma ffon ei fara oherwydd gweithiai o ddydd i ddydd yn swyddfa'r cyfreithwyr Carter Vincent a'i Gwmni ym Mangor.

Os na ddewch chi i agor y blydi drws y funud hon, rydw i'n mynd i'w gicio fo i lawr!" Ar sūn y fath awdurdod, trodd Morfudd ar ei sawdl, a phrysuro cyn gynted ag y cariai ei chrydcymalau hi yn ôl at y drws.

Felly, ar ôl y ddarlith a'r Disco a'r helcyd i gyd, dydw i ddim uwch bawd sawdl.

Gwelsom chwiorydd yn cerdded law yn llaw - un mewn gwisg ddu o'i chorun i'w sawdl a'r llall mewn Levi's.

Fydd trigolion y Waen Winau ddim uwch bawd sawdl.

Ar ôl rhyw decllath trodd ar ei sawdl a dod yn ôl yn betrus.

Caiff ei yrru gan ei ddicter diorffwys i'w sarhau'n gyson, amau cymhelliad pob gair a lefara a'i thrin yn is na baw sawdl, er mwyn gosod prawf ar ei ffyddlondeb iddo ac er mwyn dangos iddi nad yw ef wedi colli dim o'i allu fel marchog ymladdgar llwyddiannus.

Bwrw dwy awr neu well ar y copa, ac yna disgyn yn ochelgar dros y graig eilwaith, gan mai'r peth rhwyddaf yn y byd oedd colli golwg ar y llwybr i waered, heb sôn am ysigo sawdl neu dorri coes.

ac fel y gwelsoch lawer gwaith gorgi, neu geiliog-gwydd, neu gythraul, a ymaflai yn eich sawdl, y mynyd y troech eich cefn, felly y rhai hyn...

Llusgo fi i'r gwyll neon tu ôl i'r caffe a 'nghicio i'n wrymie a chleisie o 'nghorun i'n sawdl, 'y nhrwyn i'n pistyllu gwaed a'n llygaid i fel wystrys.

Edrychodd Morfudd arno mewn dirmyg o'i gorun i'w sawdl.

Edrychodd arna i o'm pen i'm sawdl.

Maent yn feistriaid ar eu gwaith ac yn forwyr o'u coryn i'w sawdl.

Cododd yn bwysig a'i fag yn ei law ac meddai, cyn troi ar ei sawdl: "I am staying at the Imperial Hotel." Ni chlywodd hi'n piffian chwerthin wrth i'r drws gau o'r tu ol iddo; roedd o'n rhy brysur yn llygadu o'i gwmpas.

Fe ymolchai o'i gorun i'w sawdl, fe wisgai ei grys newydd ac fe ai i gael cinio.

Ond glaw a gafwyd, cenllif a barodd i'r ddau garlamu'n ôl i'r pentref a Dilys yn colli sawdl ei hesgid wrth faglu ar y ffordd garegog.

Fe welson ni chwiorydd yn cerdded law yn llaw - un mewn gwisg ddu o'i chorun i'w sawdl a'r llall mewn Levis glas.

Doedd dim yn well ganddo na dychwelyd i'w balas yn fwd o'i gorun i'w sawdl ar ôl bod yn carlamu ar draws y wlad drwy'r dydd.

Ond er nad oeddynt yn deall eu sgwrs gwelsant wyneb Miss Davies yn newid, a'i llygad yn fawr a syfrdan wrth iddi wylio'r dyn cefnsyth yn troi ar ei sawdl a brasgamu yn ôl at y drws.

Edrychodd ar ei hŵyr o'i gorun i'w sawdl.

Gadwch i mi drio cofio." Archwiliai ei llygaid fi o'm corun i'w sawdl, fel ffermwr mewn ffair yn pwyso a mesur priodoleddau caseg yr oedd a'i lygaid arni; a minnau'n falch fy mod wedi gwisgo fy siwt newydd, ac yn edrych yn weddol drwsiadus.

Clywsom ef yn gollwng ebwch ddig, yn troi ar ei sawdl, a mynd allan i'r buarth.

Ymhen rhai eiliadau trodd ar ei sawdl a'r ci i'w ganlyn.