Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

saws

saws

Y Dywysoges Namotto a roes y syniad iddo ar amser cinio un diwrnod pan oeddynt yn mwynhau pryd o wynwyn wedi'u stwffio a chaws llyffant a dail criafol mewn mel gyda saws o neithdar bysedd y cŵn drostynt.

Ceisiwch osgoi saws cyfoethog a dewiswch salad ffrwythau neu ffrwythau ffres fel melysfwyd.

Nid yw tatws eu hunain yn peri ennill llawer o bwysau, yr ymenyn y grefi neu saws a fwyteir i'w canlyn sy'n ychwanegu caloriau.

Erbyn hyn fe drefnwyd dosbarthiadau mewn llawer mwy o brofion megis Cneifio, Godro, Mower, Maentumio Tractor, Defaid, Gosod Clwyd, Clawdd Sych a Chodi Gwrych i'r bechgyn, ac yna, Trin Cyw, Addurno Teisen, Crasu, Golchi a Smwddio, Picls a Saws i'r Merched, ac fe ddaeth ffrydlif o fathodynnau aur ac arian i aelodau'r Sir.

Bwtyai nhw, ar ryw ffurf neu'i gilydd, gyda phob pryd; gyda'i facn i frecwast, a'i gig i'w ginio, ar dafell i'w de ac mewn salad i'w swper; yn falurion yn ei gawl, yn sudd yn ei saws, yn stibedi o gylch ei gaws; wedi eu berwi a'u ffrio a'u stwnsio a'u stwffio.