Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sbardun

sbardun

yn sicr, o dderbyn y sbardun hwn yn y llafar a'i barhau o fewn yr un thema gyda'r darllen, yna, byddai'r dasg ysgrifenedig yn manteisio ar y cefndir cyfoethog hwn.

Gall y problemau a grybwyllais fod yn sbardun hefyd.

Yn bendant mae Sbardun yn ddefnyddiwr ganolog.Mae'r berthynas uniongyrchol rhwng y gwasanaethau a'r defnyddiwr yn cychwyn gyda mynegiad o'r angen, a rhaid iddo arwain mor agos ag sydd bosib at foddhad llwyr y defnyddiwr.

Wrth glywed curiadau cyson cacynaidd y moto beic bychan wrth iddo wasgu'r sbardun i'r pen er mwyn tynnu'r owns olaf o nerth allan ohono, hiraethai Dei am gael bod yn berchen moto beic go iawn, un ai un bychan nerthol, neu un mawr trwm a fyddai'n rhuo fel storm bell wrth wibio ar hyd y ffordd.

Toc dechreuodd y car droi yn ei unfan gan wneud sŵn tebycach i awyren yn hwylio i godi nag i ddim arall, ac fel y sathrai JR ar y sbardun suddai'r cerbyd yn is ac yn is nes o'r diwedd iddo gloi yn ei unfan.

Rhoes clec sewin yn syrthio'n ôl wedi ei naid sbardun i ni roi'r gêr efo'i gilydd.

Gwasgodd ei droed yn ddyfnach ar y sbardun, a wyliodd Gareth mewn anobaith wrth i'r nodwydd basio'r nawdeg a thynnu am y cant.

Yr oedd brwydr Datgysylltiad yn anochel ac yn brif nod Anghydffurfiaeth a Radicaliaeth, a'r degwm yn sbardun.

- gwaith pellach o fewn yr adran: bywiogrwydd yr hyfforddwr cenedlaethol yn sbardun i lawer ac yn ennyn admygedd a diolch yn gyffredinol;

Y sbardun i'r drafodaeth yng Nghanada oedd fod un o brif nofelwyr y wlad, Saul Bellow, nid yn unig wedi cyhoeddi nofel newydd ond hefyd wedi dod yn dad unwaith eto ac yntaun 83 oed.

I ddechrau, dywed rhai fod cyfnod o ddatblygiad economaidd chwim yn anhepgor ar ôl dinistr rhyfel; a bod hyn, yn enwedig yn Ewrop a Japan, wedi bod yn sbardun canolog i dwf economaidd.

er y gallai hyn gymryd mwy o amser, byddai pawb wedi cael yr un sbardun cychwynnol cyn symud ymlaen at y dasg yn yr haen briodol.

Bu hyn yn sbardun i'r gwr o'r Wladfa i ymarfer ei ddyfeisgarwch a dyma orchymyn Wil i gyrchu chest de a phwt o raff o'r sgubor.

Bydd penodi gweithiwr prosiect i ddatblygu cyfleoedd i wirfoddoli yn sbardun sylweddol i wireddu'n amcanion dan y pennawd yma.

Tystia i eiriau caredig Saunders Lewis a beirniadaeth galonogol WJ Gruffydd yn Eisteddfod Manceinion fod yn sbardun iddi.

Yna cododd ei ysgwyddau, rhoddodd ei droed ar y sbardun a chyda sgrech, i ffwrdd a hwy.

Mae angen y cyfle hwn arnynt i osod eu hadfyfyrio a'u trafodaethau mewn cyd-destun, ac i fod yn sbardun i syniadau ac arferion dysgu ymarferol newydd.

roedd y car wedi gwneud hyn o 'r blaen fwy nag unwaith ac wedi ailgychwyn ar ôl sbel fach ac ychydig o droedio go drwm ar y sbardun.

Weithiau, gall hynny fod yn ddifyrrach nar sgwrs gyfan ac, yn sicr, yn fwy o sbardun i ddychymyg rhywun.