Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sbarduno

sbarduno

Ond rodd darganfod aur yn Awstralia yn nechrau'r pumdegau, megis yng Nghaliffornia ychydig o flynyddoedd ynghynt, yn ddigon i sbarduno miloedd ar filoedd i fentro ar y fordaith bell er garwed y peryglon enbyd.

Dylai'r Cynulliad gynorthwyo i sbarduno symudiad yn Ewrop am Ddeddf Iaith i Ewrop gyfan fydd yn sicrhau statws cyfartal i holl ieithoedd Ewrop.

Yn ddiweddar canfuwyd dull o hunan-ddysgu a gafodd ei sbarduno gan syniadau o feysydd geneteg a bioleg esblygiad - y wyddoniaeth sy'n sail i'r syniadau am y dyfodol a geir yn y ffilm Jurassic Park.

Hyderwn y bydd cyhoeddi'r ddogfen hon -- law yn llaw â dulliau eraill o weithredu -- yn sbarduno trafodaeth ac yn ennyn cefnogaeth i ddeddfu er mwyn gosod seiliau cadarn i ddatblygu'r iaith Gymraeg yn iaith genedlaethol, fyw i Gymru gyfan fel rhan o'r broses ehangach o ddemocrateiddio ein gwlad.

Ein gobaith yw y bydd i'r ddarlun hon o Gymru 2000 sbarduno'n pobl i weithredu i atal y tueddion hyn a chreu dyfodol newydd i'n gwlad.

Yn aml, bydd y frwydr i achub ysgol yn bywiogi pentref ac yn sbarduno gweithgarwch cymdeithasol mawr ac y mae hyn ynddo'i hun yn dangos pwysigrwydd ysgol i bentref.

Pecyn o bum sgets fer ar gyfer sbarduno trafodaeth yng Nghyfnod Allweddol 3.

Defnyddiwch recordiadau o ganeuon gwahanol rywogaethau o adar er mwyn sbarduno diddordeb yn eu hamrywiol ganeuon.