Yn sicr, ni ellir ei gyhuddo o edrych ar y byd trwy sbectol rosliw.
Bryd hynny, 'chaech chi ddim hyd yn oed gwisgo sbectol haul yn Omam Gan fod ei syniadau mor od, carcharwyd y mab gan ei dad a bu yn ei gell am dair mlynedd.
Wrth ddarllen y drydedd gyfrol o sgyrsiau Dros fy Sbectol John Roberts Williams i'w hadolgyu ar gyfer y Wawr, chwarterolyn Merched y Wawr, deuthum ar draws hanes merch fach o'r enw Miriam, o Frynengan, Eifionydd.
Gan hynoted oedd ei oslef a chan mor arbennig oedd ei arddull, ac, ar un adeg, gan mor unffurf oedd ei wisg - crys coch a siwmper goch (ni hoffai siwt) - a chan ei fod mor gaeth i'w bibell a'i sbectol, yr oedd yn wrthrych parod i'r parodi%wr, er gofid mawr i'w fam, ac, weithiau, iddo ef ei hun.
Rywfodd, gallaf fu nychmygu fy hun yn awr yn sefyll yn reit ofnus o flaen y sbectol hynny mewn un o'i lysoedd yn Aberdar neu Ferthyr - am resymau amlwg efallai - ac yntau'n syllu'n ddigon llym ac eto'n eironig chwareus ar y fath ffigur llipa, ac ar ol tawelwch hir go arwyddocaol yn ebychu'n wlyb i ganol fy llygaid - 'Eilradd, ai e?' Oedd roedd yn bryd i mi ostwng pen ryw ychydig.
Plygodd a chodi cas sbectol a'i roi ar y bwrdd.
Dyna olwg wirion oedd arni mewn gymslip gyda gwallt cwta cwta a sbectol hen ffash' ar ei thrwyn!
Daeth yntau yno, dyn bychan, bywiog, yn gwisgo sbectol drom, a chanddo farf frown dywyll o gylch ei wyneb, ac yn gwenu'n siriol wrth ymddiddan â Mam.
'Does dim brys gwyllt.' Pwysleisiodd yn fwriadol, 'Pobl ddiarth, weldi.' Gŵr ifanc tal, tenau, yn gwisgo sbectol oedd o Edrychodd ar yr ymwelydd, ac edrychodd yntau'n ôl arno.
Roedd yr hen wraig yn pendympian cysgu, a'i sbectol wedi llithro i lawr ei thrwyn.
Trwy sbectol oedolion a sbectol y ddosbarth broffesiynol, mae gan bob teulu o leiaf ddau gar, ac nid yw'n achosi unrhyw broblem i ddilyn bywyd symudol.
Edrychodd arnaf dros 'i sbectol a dechrau holi, 'Beth wnaeth ichwi feddwl am fynd i'r weinidogaeth?
Cymraes ddi-Gymraeg o Bort Talbot oedd y Chwaer Jean Ryan - menyw dal, ei gwallt golau'n britho ac yn pipian drwy ei phenwisg a'i llygaid glas yn cwato y tu ôl i sbectol a oedd yn tywyllu gyda'r haul.
Ymddangosai yn fachgen eithaf cymedrol, a gwisgai sbectol â gwawr las i'r gwydrau.
Tynnodd ei sbectol a gwasgu pont ei drwyn â'i fys a'i fawd.
(Dyn â golwg byr, byr ganddo oedd Ifan, yn gwisgo sbectol gwydrau-gwaelod-pot-jam ac un a gonsgriptiwyd i'r gwaith oherwydd bod rhai â golwg hwy ganddyn nhw wedi'u galw i'r fyddin i yrru cerbydau rhyfel.
Dychmygwch am eiliad eich bod yn annerch rali o blaid 'Achub Ciwcymbyrs Coch Prin Powys' - dim problem yn fanna, tan i chi sylweddoli fod Dafydd Morgan Lewis - yr arch derfysgwr - yn llechu ynghanol y dorf yn ei sbectol dywyll, ei farf ffug a'i falaclafa du.
Roedd ganddo fwstas melyngoch, llygaid gleision a gwisgai sbectol gwasgu-trwyn.
Anaml y gwelir pobl yn gorfod prynu sbectol rad yn Woolworth na threulio eu blynyddoedd heb ddannedd.
Tasgodd cudynnau o wallt gwinau hardd o'i phen, toddodd ei sbectol i ddangos pâr o lygaid sionc, esmwythodd ei chroen fel cotwm dan hetar, diflannodd y crychau, a daeth rhwy wytnwch newydd i'w chorff.
Nid rhyfedd felly fod cymaint o'r seiri yn gorfod gwisgo sbectol pan wrth waith manwl fel tyllu bŵl er enghraifft.
"Paid â meddwl 'mod i'n gwneud môr a mynydd, Sandra bach," meddai hi, "ond dydi hi ddim wedi mynd â'i sbectol hefo hi.