Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sbectrwm

sbectrwm

Meic, Christy... ond Steve sydd ar y blaen eto bron yn ddieithriad Mae ehangder y sbectrwm o Viva Reveloution Galesa i Croen Denau yn rhyfeddol.

Mewn mannau eraill, roedd yr hen ffefrynnau, String of Pearls, Play It Again Frank, All The Best Tunes a Late Show, Steve Dewitt yn chwarae cerddoriaeth boblogaidd ar draws y sbectrwm.

Telesgopau Er mai rhan fechan o'r sbectrwm yw'r optegol, parheir i wneud y rhan fwyaf o seryddiaeth yn y rhan honno.

Cred bellach fod twf y sbectrwm teledu digidol yn y dyfodol yn cynnig y potensial i ddatblygu gwasanaeth Saesneg penodol i Gymru.

Un o flaenoriaethau'r Cynulliad ddylai fod i sicrhau adnoddau digonol i ddatblygu dysgu Cymraeg a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws y sbectrwm addysg o'r oed meithrin at addysg oedolion.

Yr argraff a gefais yn fy Ysgol Haf gyntaf oedd ei bod yn ddealledig y dylai holl sbectrwm gweithgarwch cenedlaethol fynd trwy unig sianel Plaid Cymru, a chredaf i hynny fod yn briodol yn y tridegau a'r pedwardegau pan oedd holl ddyfodol Cymru fel cenedl yn dibynnu ar lwyr ymroddiad dyrnaid bychan o bobl, ac mai felly'n unig y gellid gwneud pryd hynny.

Yng Nghymru, er mwyn apelio at gymaint o bobl â phosib, mae'r cwmni%au recordiau wedi gorfod rhyddau cynnyrch gan sbectrwm eang o artistiaid, o ganu pop a chanu canol-y-ffordd i'r corau a'r cantorion clasurol.

Archwilio'r sbectrwm cyfan Heblaw am ran fechan o'r isgoch, y rhan optegol a radio yw'r unig rannau o'r sbectrwm electromagnetig sy'n gallu treiddio trwy'n hatmosffer.

Mae'r gallu i edrych ar y bydysawd yn y gwahanol rannau o'r sbectrwm wedi bod o gymorth i ni ddeall y bydysawd yn well nag erioed o'r blaen; fel y byddai siarad pob un o ieithoedd pobloedd y blaned yn golygu dysgu llawer mwy am y gwahaniaethau sy'n bodoli yn y byd.

Hyd ganol yr ugeinfed ganrif ni wnaed seryddiaeth ond yn rhan optegol neu weledol y sbectrwm.

Felly roedd rhaid aros i ddyn ddatblygu'r dechnoleg i fynd i'r gofod ac uwchben yr atmosffer cyn y medrid edrych ar rannau eraill o'r sbectrwm.

Mae ein haul ni yn allyrru y rhan fwyaf o'i belydriad yn rhan weledol y sbectrwm.

Mae gwledydd eraill sydd yn cymryd normaleiddio eu hiaith o ddifrif bellach yn gweld twf yn y niferoedd sy'n medru'r iaith ar draws y sbectrwm oedran er gwaetha'r pwysau cynyddol oddi wrth ieithoedd dominyddol y byd.