Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sbel

sbel

Er enghraifft meddyliwch am ddau lawchwith ymlaen; wedi i un fod yn tyllu am sbel a'r llall yn troi'r ebill a rhoi dwr, maent yn penderfynu newid drosodd, wel gan fod y ddau yn llawchwith, mae'n rhaid newid lle ar y platform er mwyn i'r dyn sy'n taro fod yn ddethau, ond petai o'n medru iwsio'i law dde ni fuasai angen newid lle.

Yr oedd yr Almanac yn ystordy o wybodaeth gymysg am genedlaethau lawer, geni, priodi, marw rhyw deyrn neu arglwydd, drylliad llong, neu dan mawr Llundain, ac yna yn sydyn, rhyw ddywediadau fel - "Gwynt a glaw, yma a thraw%, rhyw erchyllderau dyddiol am sbel wedyn, ac yna "Felly pery i'r mis derfynnu%, hynt y lleuad a thrai a llanw.

Bu dadlau am sbel go dda, a'r goruchwyliwr yn gwrthod rhoi yr un geiniog ym mhen y pris, a'r diwedd fu i Wil wylltio, ac meddai: "I'm not cyming here to hambygi my horsus for you.

Cofiaf wylio cynnwys y llyfr hwn mewn cyfres faith ar y teledu sbel yn ol a James Burke yn traethu gyda huotledd wrth bicio o wlad i wlad i gyfleu ei syniadau am hanes gwareiddiad.

Bu farw Sharon mewn ffrwydriad car yn 1996 a bu Mark yn diodde am sbel ar ôl hynny.

Wel, mi a adawaf yr hen deuluoedd a'u ffermydd am sbel, gan obeithio eich bod yn dal i sefyll ar ben yr allt wrth ymyl yr Ysgol.

Dywed eraill mai diwrnod braf a'r tywydd wedi lliniaru peth ar ôl sbel go galed yw'r gorau!

Maen nhw i'w clywed ym mhob rhan o'r wlad, felly mae'n rhaid eu bod nhw yno." Bu Llefelys wrthi am sbel cyn rhoi ebwch bach.

mae'r record yma wedi aros am sbel fach nawr, meddai Robert wrth y Post Cyntaf y bore yma.

Bu Teg yn rhoi gwersi gyrru iddi am sbel ond penderfynodd Teg nad oedd hi'n ffit i fod ar y ffordd.

Ar ôl sbel cafodd fynd yn ôl at Teg a bu'n gefn mawr iddo gan nad oedd yn hapus gydag ymddygiad Cassie.

Priododd Jac a Sab yn 1980 ac aeth y ddau i fyw i'r Almaen am sbel.

Digon am y tro ydi datgan yn weddol hyderus, os byw ac iach, y bydd y cerrig hyn yn goffadwriaeth i rai o'n ty ni, am sbel go lew beth bynnag .

Ac allan yn y fan honno, mynegais fy mod mewn tipyn o ddilema am na wyddwn yn iawn beth y dylwn ei wneud, p'run ai brysio adre'n syth at fy nheulu yn Ninmael, ai ynteu aros yn y llofft am sbel eto rhag ofn y byddai Mam yn dadebru o'i thrymgwsg.

'Roedd y ddwy yn hapus iawn am sbel nes i Lisa benderfynu cael babi er mwyn gwneud Fiona'n hapus.

Bu'n caru gyda'u merch, Cathryn, am sbel ond pan gyrhaeddodd Carol Gwyther y pentre trodd Dic ei olygon tuag ati hi.

Wrth edrych drwy'r ffenest mae arnaf ofn ei fod yn cyweirio ei wely ac yn bwriadu aros hefo ni am sbel.

"Gwynt teg o'u hôl nhw, gobeithio y can ni dipyn o lonydd rwan wedi gweld cefna'r haflig am sbel eto.'

Ar y llawr y cysgwn i am sbel rhag ofn i'r Capten fy nal, ond pan fentrais ddefnyddio'r gwely o'r diwedd dyna hyfryd oedd profi ei esmwythdra.

Bu Karen yn gweithio yn y caffi gyda Meic am sbel.

Dos yn dy flaen sbel eto ..dere ti ..

Bu+m yn llifio coed am sbel y bore yma ac yna yn hollti rhai o'r blociau yn goed tân a'u pentyrru'n dwt wrth y drws cefn.

Ar ol iddo gael ei anwybyddu am sbel hir, gafaelodd o'r diwedd yn un o'r dynion a oedd yn brasgamu heibio a holodd pam tybed nad oedd neb yn cymryd sylw ohono ac yntau'n brif arweinydd y wlad i gyd?

Wrth gerdded heibio i un tŷ fe oedodd Jean am sbel.

Cofiaf yn dda fel yr ymddangosai'r llyfrau amryliw tua diwedd y flwyddyn ym mhlith y rhai nas gwelid eto ar ôl gwyliau'r haf, ac fel y cafodd Islwyn a Keats ac Eifion Wyn a Fitzgerald ac Eben Fardd a Milton bawb eu sbel ym mhlith rhigymau llai anfarwol.

Llwybr garw, creigiog yw am sbel ac effaith y rhew yn amlwg eto, wedi llyfnhau'r graig i ffurfio palmant rhewlifol.

'Fe fydd raid i ti fynd i gwato am sbel,' meddai.

Daeth yn rhwyg a brwydr rhwng y Cymry Parchus a oedd am i bobl eistedd nôl am sbel a 'rhoi cyfle' i'r Quango Iaith, a Chymdeithas yr Iaith a fynnodd fod y Quango Iaith yn sefyll yn ffordd cyfiawnder a bod ei aelodau'n cydweithio â'r Torïaid trwy wasanaethu ar eu Quangos gwleidyddol.

roedd y car wedi gwneud hyn o 'r blaen fwy nag unwaith ac wedi ailgychwyn ar ôl sbel fach ac ychydig o droedio go drwm ar y sbardun.

Gobeithio bod hynny wedi agor llyged rhai pobol yng Nghymru ynglyn â beth rwyn gallu gwneud ar ôl i fi fod bant yn Lloegr am sbel fach.