Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sboncen

sboncen

Fe yw'r Cymro cyntaf i ennill y gystadleuaeth – un o brif gystadlaethau'r byd sboncen.

A dyna Emyr yn dod i mewn i'r gegin i chwilio am yr esgidiau sboncen roedd hi wedi eu glanhau ar ei gyfer a'i chlywed hi'n dweud wrth ei mam y byddent yno erbyn amser te.

Chwaraeai sboncen o leiaf unwaith yr wythnos, yn ystod ei awr ginio, a rhedai ddwy filltir bob bore cyn brecwast beth bynnag fyddai'r tywydd.

Yn ogystal â thrin gwallt rydw i'n hyfforddwr sboncen, felly, os oes unrhyw un eisiau gwersi maen nhw ar gael yn rhad ac am ddim.

Mae'r chwaraewr sboncen o Gymru, David Evans, yn amddiffyn ei deitl ym mhencampwriaeth agored Prydain sy'n dechrau heddiw.

David Evans o Bontypwl yw Pencampwr Sboncen Agored Prydain.