Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sboncio

sboncio

Y mae Ellis Wynne yn feistr ar holl ystrywiau dychan, ond tra mae Dante yn hamddenol ddwys yn tynnu llun pob amgylchiad yn drwyadl a manwl, a'i drwytho â chydymdeimlad sy'n arswydo dyn gan ei ddifrifoldeb, sboncio'n heini o lun i lun cartwnaidd y mae Ellis Wynne a hynny mor ddisglair ddigri ei fynegiant nes lladd pob ofnadwyaeth gan y pleser o ddarllen; ac yn y proses, lladd ei amcan hefyd, petai waeth am hynny.

Roedd dawnswyr Ystalyfera a Nantgarw yn sboncio'n osgeiddig, a Gynau Mawr Glyndwr, Meibion Llywarch, Cymerau ac eraill yn tanio o bob cyfeiriad.

"Paid ti â chymryd sylw ohonyn nhw," meddai'r dyn wrth wyro i roi mwythau i ben Rex, "mi rydw i'n gymaint o ffrindiau hefo ti â'r ddau arall." Llyfodd Rex ei law a sboncio ymlaen i'r nos ar ôl y ddau gi arall.