Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sbort

sbort

'Dw i'n destun sbort i mi fy hun eisoes.

Y fath sbort a gâi y mân ysbigod bonheddig wrth wrando ar Ernest yn adrodd hanes anffawd Harri y Wernddu a'i geffyl di- ail!

Am hynny, ystyria y pethau hyn, fel na chredech dy fod yn well na'r un o'th gyd-ddynion, rhag it wrth feddwl, ddisgyn o'th falchder ar frys, a chael dy frifo mwy wrth ystyried fod gwraig dlawd yn gwenu ar sebon bob dydd gan gofio'r sbort a roddaist iddi.

Dyna ran o arwyddocad parodi Williams Parry ei hun ar ei awdl fawreddog, 'Yr Haf.' Yn 'Yr Hwyaden' y mae'n gwneud sbort am ben y confensiynau hurt a ddaeth i ffasiwn yn sgil 'Yr Haf': y macwyaid, y brodyr gwyn a du, holl gyfarpar yr awdl ramantaidd, a droes yn amherthnasol i'r oes.

O'r cychwyn cyntaf, mae'r bardd yn gwneud sbort am ben y rhai hynny sy'n cymryd y grefft ormod o ddifrif, a'r parchusion hynny sy'n uchel eu hael a'u hagwedd.

Roedden ni wedi clywed llawer o straeon rhyfedd am y meddyg yma, ac fel y byddai'n chwarae triciau ar y patients er mwyn cael tipyn o sbort.

Byddai ei ddifrifoldeb weithiau yn ei wneud yn destun sbort.

'Roedd o'n dro anffortunus iawn, a mae'r golled yn fawr, heblaw fod chi wedi colli llawer o sbort.' `Wmbreth,' ebe un o gymdeithion Ernest.

Doedd dim byd newydd yn y stori; roedd Lloyd wedi clywed ei thebyg, a'i gwell, droeon o'r blaen, a gan mai ychydig o destun sbort a welai ef mewn ymddygiad meddwon, beth bynnag, roedd wedi hen golli diddordeb ynddi.

Ceisiodd Lisa fyw gyda Dic am gyfnod ond 'doedd cyd-fyw ddim yn hanner cymaint o sbort ag affêr a chwalodd y cwbwl yn fuan wrth i Lisa ddychwelyd at Barry John a'i dwyllo yntau hefyd.

Cafodd Dic lot o sbort ond gadawodd wrth i bobl y Dreth Incwm ddod ar ei ôl.

Dechreuodd y cardotyn ymosod ar y wledd ac roedd sbort a bri y cwmni wedi diffodd fel cannwyll mewn corwynt erbyn hyn.

Medrent chwerthin pan fâi dduaf arnynt, a gwneud sbort am ben cyflog gwael.

'Roedd yna hwyl a sbort a hawl i chwerthin yn Nedw heb fod yn troseddu rheolau disgyblaeth yr wyneb hir a'r difrifolwch.

Ond mi ddywedaf hyn, Mr Ernest, mai y sbort mwya' gawsoch chi heddiw oedd gweld fy ngheffyl yn torri ei goes, a minnau yn cael fy nhywlu i'r ffos.'

Os caniatâ Llys yr Eisteddfod i mi ddyfynnu rhai o'r ceisiadau (ac rwy'n siŵr y gwna þ dim ond i mi foesymgrymu yn y ffordd briodol) yna mi gawn ni sbort am fisoedd yn y Gornel 'ma.

"Mae o wedi gwneud sbort am ein pennau trwy ddianc.

Am y llwynog a'r sbort o'i ddal y siaradai'r cwmni wrth y bwrdd mawr, ac felly y gwnâi cymdeithion Harri wrth y bwrdd bach.

Nid oedd yn bosibl na gweld y tan o'i achos ef na chael lle i eistedd, a gwnai yntau sbort am ben y beirdd eraill yn y cwmni drwy ofyn cwestiynau iddynt na allent eu hateb.

`Ie, wmbreth,' ebe Ernest, ` 'dydw i ddim yn cofio cael mwy o sbort erioed wrth hela, a phiti garw, Harri, i chi fod mor anlwcus.

Trip addysgiadol ydyw a sbort a hwyl yn gymysg.

Erbyn hyn mae twpdra Brezhnev yn ddiarhebol ac yn destun sbort i bawb.