Os yw'r gêm ar y teledu mae'n ymwybodol o leoliad y camerâu ac yn gwneud yn siwr ei fod yn cael ei weld; er enghraifft os yw rhywun wedi sgorio gol yn ystod yr hanner cyntaf bydd yn mynd ato i'w longyfarch wrth i'r chwaraewyr adael y maes neu yn achos un reff o Gymro yn ystod gêm rhwng Man U a Tottenham yn gadael y maes adeg tafliad o'r ystlys er mwyn cael sbwnj oer ar ei dalcen.