Bydd diwrnod hirfelyn ym mis Hydref yn fy atgoffa am rannau o bumawd hyfryd Schubert i linynnau.
Yn wir, 'roeddwn yn y coleg diwinyddol yn Llandaf cyn magu digon o ddiddordeb i fynd i wrando ar Fritz Kreisler a oedd yn ymweld a Chaerdydd ar y pryd; ac nid tan fy nyddiau yn gurad yn Y Waun, Sir Ddinbych, y dechreuais wrando o ddifrif ar symffoniau a phedwarawdau Beethoven, Mozart a Schubert.
'Roeddwn yn ifanc, 'roeddwn mewn cariad, ac yr oedd fy holl fryd, felly, ar fiwsig rhamantus megis eiddo Chopin a Schubert.