Yn y lifft i'r ystafell, rhewais pan ofynnodd yn ei Saesneg prin, 'Do you have Scotch?' Doedd bosib bod y swyddog hwn mewn gwlad Islamaidd yn derbyn llwgrwobrwyon alcoholaidd!
Cydiodd yn y rholyn Scotch, a lapiodd y tâpiau.
Er mawr ryddhad, ychwanegodd: 'Scotch tape to wrap the tapes.'
Gwelwn fod y wawr yn dechrau torri a gwelwn ambell i fferm yn y pellter gyda chaeau o geirch melyn; hyn oedd eu prif gnwd, a hyn yn dod ag ambell i baced o Shredded Wheat a blas Scotch Quaker Oats yn ôl i'm cof.