Yn ôl John Cottle, sydd wedi plannu hadau GM ar ei fferm yn Sealand, mi fydd o'n parhau i dyfu'r corn nes y bydd yn cael cyfarwyddyd gan y Cynulliad neu lys barn.
Yn y cyfamser yn Llundain, mae Simon Thomas aelod seneddol Plaid Cymru dros Geredigion wedi galw am weithredu'n erbyn cnydau GM - ond nid yn erbyn safle Sealand ar hyn o bryd.