Yng Nghymru yr oedd Dafydd ap Gwilym wedi dod i'r amlwg fel bardd sech a bardd natur mwyaf llenyddiaeth Gymraeg ac wedi dod yn bwnc ymchwil i ysgolheigion yn ogystal ag yn un o ffynonellau ysbrydoliaeth y Rhamantiaid, beirdd 'Y Nos, Y Niwl, a'r Ynys', chwedl Mr Alun Llywelyn-Williams.
Yn Lloegr yr oedd llenorion nid yn unig yn chwilio posibiliadau sech fel ffordd ddihangfa amgenach na chrefydd, eithr hefyd yn chwilio posibiliadau celfyddyd fel trydedd ffordd ddihangfa.