Look for definition of sedd in Geiriadur Prifysgol Cymru: |
'Ydi hi'n bell i dŷ Nain?' gofynnodd Owain wrth iddi blygu drosto i'w gau'n ddiogel yn ei sedd, a pharodd hynny i'w fam wneud un arall o'i phenderfyniadau sydyn.
Wrth odre'r plwyf saif Plas Glandenis, sedd y diweddar William Jones, un o berchnogion Banc yr Eidon Du.
Ar sedd gefn ei gar roedd 'na un o'r hetie anferth 'na maen nhw'n ei wisgo yn nhaleithie America.
Credir ei bod yn anlwcus gweld het ar sedd cyn gornest.
Gofynnodd i gyfaill iddo ei godi i sedd y peilot yn un o'r awyrennau bach araf.
Dyn cymesur a golygus oedd Daniel, ac ym mha le bynnag y gwelid ef, yn y gwaith tun neu yn y Sedd Fawr, perthynai rhyw urddas iddo, a rhoddai argraff dda ar bawb a gyfarfyddai ag ef.
Arferai fod yn eitha' ffyddlon yng nghapel Ebeneser, neu Gapel Pen, Llanfaethlu, ac arhosai'r plant yn eiddgar am sŵn ei esgidiau hoelion mawr wrth iddo droedio'n drwm i'w sedd yn y blaen.
Ond yr ydw i yn cofio ildio fy sedd ar fws rhag i ferch orfod sefyll ac hyd yn oed ddal drws yn agored i fenyw gael mynd drwyddo om blaen.
Cerddodd yn araf tuag ataf "Pam na fasech chi'n dwad i eistedd efo mi yn y sedd flaen?" "'Roedd yn well gen i fod o'r golwg.
Car eu ffrindiau, ta beth.' Trodd Gareth yn ei sedd, a suddodd ei galon o weld goleuadau car arall ryw ganllath y tu ôl iddynt.
Dangosodd hynny nad oedd angen ond ychydig ddygnwch i ennill sedd ar gyngor bwrdeistref nad oedd yn ymrannu'n bendant yn ôl pleidleisiau.
Rhedodd tri neu bedwar o ddynion o'r cysgod ac wedi diffodd y peiriannau aeth y peilat o'i sedd ac agor y drws a neidio allan.
A theulu Thomas Edward Lloyd, Coedmor, a theulu Cilbronne "Mae Lady Coedmor yn fenyw fawr er pan enillodd ei gŵr sedd Shir Aberteifi yn ôl i'r Tori%aid ddwy flynedd yn ôl a pheri'r fath syndod i bawb trwy fwrw E. M. Richards ma's!"
Dim ond y ffaith eu bod yn sownd yn eu seddau ac allan o gyrraedd ei gilydd a'u cadwodd rhag ymladd yn gorfforol, ac oni bai ei bod yn teithio ar raddfa o saith deg milltir yr awr ar draffordd brysur byddai Carol wedi troi rownd yn ei sedd ac ysgwyd y ddau ohonynt - er na fu iddi erioed wneud y fath beth o'r blaen.
Jaco, dywed wrtho fo be ydi'r dasg gynta.' Cododd Jaco'n swrth o'i sedd ar y fainc yn y gornel, cerddodd yn ddioglyd at Dei a sefyll o'i flaen a'i goesau ar led.
Gosodais y bag bach ar fy nglin a rhoddais yr het ar y sedd wrth fy ochr.
Mae'r gyrrwr yn tosturio drosti ar y fath noson ac yn cynnig pas iddi - hithau'n derbyn gan eistedd yn y sedd ôl a dweud dim ond cyfeiriad pen ei thaith.
Sut bynnag, yn y gornel roedd un sedd lle gallai e eistedd, ac er bod rhaid iddo rannu'r bwrdd gyda rhywun arall, doedd dim ots ganddo fe oherwydd roedd arno eisiau rhywun y gallai siarad ag e tra roedd yn bwyta.
Breciodd y trên wrth agos*au at yr orsaf; codais y plant o'u sedd, y cesys o'r tu ôl i amryw gadeiriau a stryffaglio tua'r drws.
Pan ai i'r capel, fe ai'n gynnar a chymryd sedd yn y cefn.
O'r gorau,' meddyliodd Glyn, mi gei di lonydd yr hen foi.' Eisteddodd yn ôl yn ei sedd i edrych ar y sêr drwy'r ffenestri yn nho ac yn nhrwyn yr awyren.
Mae'r tren ei hunan fel fersiwn rad o'r Orient Express, sedd a gwely cul i bawb, a'r rheiny'n ddigon cysurus.
Ond yn y cyfamser, mae'n weddol saff i haeru - saffach nag unrhyw sedd mae hi'n debyg o'i chipio yn San steffan - fod ei henw yn fwy cyfarwydd i bobol na'r un actores ffilmiau aral i Loegr ei chynhurchu yn ystod y chwarter canrif diwethaf.
Ond clywed yr hanes am osod ei was bach mewn bocs te a chlymu'r bocs wrth sedd yr injan lladd gwair wnes i.
Buom yn lwcus i gael sedd mewn compartment ac roedd dwy ferch olygus o'r Llynges gyferbyn â ni.
"O'r gore, os fel'na mae hi i fod..." Gwasgodd ei sigaret i'r llestr llwch a gorwedd yn ôl yn ei sedd.
'Doedd o ddim yn llawn iawn yn cychwyn o sgwâr Caernarfon, a llwyddais i gael sedd i mi fy hunan.
Y Blaid Lafur yn ennill pum sedd Gymreig yn etholiadau Ewrop.
Cael sedd- gadw, beth bynnag, ac nid yw'r cerbyd seddau-cadw hanner mor llawn a'r cerbydau eraill, er ei fod yn hollol lawn yn yr ystyr Ewropeaidd i'r gair.
Penodi James Griffiths yn Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru gyda sedd yn y 'cabinet'. 'Roedd y Swyddfa Gymreig newydd â gofal am dai, llywodraeth leol, trafnidiaeth ffyrdd a rhai agweddau ar gynllunio lleol.
Cododd ffigur o'r sedd dderw yn y cysgodion ger y ffenestr.
Digiodd yn arbennig pan wrthododd ei gwr roi sedd iddi yn y cabinet.
Teimlodd y nerfusrwydd yn ei adael fel dŵr yn llifo oddi arno, ond rhoddodd Bilo ei law ar ei ysgwydd a'i wthio'n ôl yn ddigon diseremoni i'w sedd.
Yng Nghymru, er enrhaifft, fe all yr aelod Llafur Ewropeaidd, Joe Wilson ganolbwyntio'i ymgyrch ar y sedd ogleddol y bu'n ei chynrychioli ers degawd, ond fydd yna neb yn pleidleisio drosto ef yn bersonol y mis nesaf.
"Mae'n syndod dy fod yn fyw," ebe un o'i gyfeillion tra'n ceisio rhyddhau Douglas o'i sedd.
Fel pe nad oedd yn disgwyl gweld neuadd fawr heb ynddi yr un sedd wâg.
Yr oedd yn bosib prynu math o rwyd fetel tebyg i waelod gogor i'w gosod dros y ffenest i gadw'r cerrig i ffwrdd gyda sgwaryn agored o flaen sedd y dreifar i hwnnw gael gweld lle mae'n mynd.
O Efrog Newydd i Rio, ac yna, yn Rio, archebu sedd mewn awyren i Belem, nodi a oedd unrhyw un arall o'r awyren o Rio yn gwneud yr un peth.
Ar ôl cario'n bagiau dros y ffin anweledig o'r naill gar i'r llall, penderfynu gwneud darn i'r camera tra'n eistedd yn y sedd flaen er mwyn cofnodi'r rhwystredigaeth bersonol yr oeddwn i'n ei theimlo ac yn ei synhwyro'n barod mewn eraill.
Ar y cychwyn bu'n rhaid i William Hughes a'r hwch ddioddef anfri a sen oddi ar law y cybiau a deithiai'n y sedd gefn.
Byddai wedi hoffi brasgamu i lawr yr eil, ei chodi'n grwn o'i sedd a'i hysgwyd nes bod ei dannedd yn clecian yn ei phen 'mennydd-gwybedyn.
Clymwyd y bocs wrth sedd yr injan a neidiodd Wil i mewn wedi ei sicrhau gan ei feistr y byddai'n cael ei gludo'n ddiogel y tu ol i'r injan.
Rhaid i ni anghofio'n gwaseidd-dra boed hynny'n sedd ar Quango Iaith neu'n wahoddiad i'r Frenhines i agor ein Llyfrgell Genedlaethol.
Confucius a ddywedodd; "Eistedd i lawr mewn hedd - Os siglo y bo'r gadwyn Cynhesach fydd y sedd." Glyn Roberts (Llanarmon Dyffryn Ceiriog)
Yna rhoddodd yr Indiad y meicroffon o'i law gan godi swits y radio a strapiodd ei hun yn ofalus i'w sedd.
Gwenodd ar y gyrrwr ac wedyn ymlwybrodd yn drafferthus i chwilio am sedd.
Cenedlaetholwyr Albanaidd, yr SDP, yn ennill eu sedd seneddol gyntaf ers 1945 pan enillodd Winifred Ewing is-etholiad Hamilton.
Yr oedd gan Sgotland eisoes fesur o ddatganoli - ei sustem cyfraith ei hun ac Ysgrifennydd Gwladol gyda sedd yn y Cabinet.
Yn fras felly, gan mai ef sy'n drydydd ar restr ymgeiswyr ei blaid, rhaid i Lafur enill rhyw drigain y cant o'r bleidlais iddo fod yn sicr o gadw'u sedd.
Mi all yr Etholiad Cyffredinol gael ei gynnal mewn cyn lleied â chwe mis ac mae'r blaid yn gobeithio gwneud yn well na beth wnaethon nhw yn 1997 pan fethon nhw ag ennill yr un sedd.
Fydda'i ddim yn swnio fel pe bawn yn busnesu wedyn." Troes Breiddyn wrth godi o'i sedd, a'm gweld.
Gafaelodd yn ei goler wrth iddo blygu i fynd i mewn i'w sedd.
sylwodd debra fod rhywun yn eistedd yn sedd flaen y car, ond doedd hi ddim yn gallu ei weld e'n iawn am fod ei wyneb wedi ei guddio y tu ôl i bapur newydd.
Dafydd Wigley yn cadw ei sedd, a Dafydd Elis Thomas yn dod yn drydydd Aelod Seneddol Plaid Cymru trwy drechu Wil Edwards, Llafur, ym Meirionnydd.
Daeth ac aeth y tren a oedd yn anghysurus o lawn, er annifyrrwch i Hector a fethodd a chael sedd gyfleus yn nesaf at y ffenestr eang, er iddo gael cip siomedig ar berllannau Caint.
Yr is-etholiad hanesyddol am sedd y Brifysgol.
Onibai eich bod ach bryd am rannur sedd gefn a hi - neu eich bod yn byw yn ardal Lothian yn yr Alban.
Mae fy sedd i'n sefyll ar ei phen ei hun wrth ymyl y ffenest.
Roedd hi mewn tymer mor wyllt ar y dechrau fel mai prin y sylwai ar yr hyn oedd yn digwydd yn y sedd gefn nac yn y byd oddi allan i'r car bach coch, ac fe'i cafodd ei hun rai milltiroedd o'i chartref, yn teithio ar gyrion Llundain, cyn i'w thymer ostegu digon iddi sylwi ar ddim.
Symudodd Kirkley'n anghyfforddus yn ei sedd.
Rhaid fod si'r peiriannau wedi ei yrru i gysgu oblegid ni chofiai ddim am weddill y daith, ond cofiodd iddo neidio'n sydyn yn ei sedd wrth glywed llais yn ei ymyl.
Nos dawch.' Gwaeddodd y Paraffîn o sedd y gyrrwr â'i lais yn eco yn y gwyll.
Ar sedd y gyrrwr fodd bynnag roedd amlen ac agorodd y gþr ef.
Cododd ar ei draed mewn protest a dweud bod ganddo'r traed cynhesa' o fewn y cread, ond rhoddodd Laura Elin law gadarn ar ei ysgwydd a'i wthio yn ôl i'w sedd.
O'r diwedd dyma gyrraedd pen stryd y ferch, ac ar ôl stopio, dyma'r gyrrwr yn troi i ddymuno noswaith dda iddi - ond, roedd y sedd yn wag!