Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

seddau

seddau

Ond fel y digwyddodd hi, dyma'r dyn yn tynnu pedwar o bobol oddi ar yr awyren heb droi blewyn, ac fe gymerson ninnau eu seddau hwy.

Ni fodlonodd Daniel a Bebb ar annog: rwy'n tybio i'r ddau ymladd am seddau ar gyngor Dinas Bangor, ac aeth Bebb, beth bynnag am Daniel, yn aelod ar ôl cynnig neu ddau.

Cynulleidfaoedd da drwy'r haf a'r gaeaf cyntaf hwnnw, ac yna'n sydyn ym mis Mawrth, nifer fawr o bobl ddim yn eu seddau, a finne'n methu deall beth own i wedi gwneud, beth own i wedi dweud - ai gwir rhybudd Merfyn wedi'r cyfan?

Nes i mi, oedd yn dod o gwm diwydiannol yn y de sylweddoli fod tymor wyn bach yn galw am ofal a bugeilio ymroddedig, ac wedi'r wyna, oedden, roedden nhw nôl yn eu seddau.

Bydd peilotiaid Americanaidd bob amser yn croesi gwregysau diogelwch ar seddau gwag yn yr awyren er mwyn plesio'r ysbrydion anhysbys.

Yr oedd y pedwar esgob Cymreig - a'u seddau yn Nhyddewi, Llandaf, Bangor a Llanelwy - bellach yn cydnabod uchafiaeth Archesgob Caergaint; ac yn ben ar y cwbl, wrth gwrs, yr oedd y Pab yn Rhufain (neu'n hytrach yn Avignon yn Ne Ffrainc am ran helaethaf y bedwaredd ganrif ar ddeg).

Dim ond y ffaith eu bod yn sownd yn eu seddau ac allan o gyrraedd ei gilydd a'u cadwodd rhag ymladd yn gorfforol, ac oni bai ei bod yn teithio ar raddfa o saith deg milltir yr awr ar draffordd brysur byddai Carol wedi troi rownd yn ei sedd ac ysgwyd y ddau ohonynt - er na fu iddi erioed wneud y fath beth o'r blaen.

Bu trafod manwl cyn penderfynu ar seddau.

Anfonwyd at y canghennau i'w hannog i sefyll mewn etholiadau lleol: nid anogaeth wreiddiol iawn, ond mae'r anogaeth yn llai pwysig na'r neges o'i blaen, sef bod y Tri yn y carchar am na wnaethai aelodau'r Blaid eu dyletswydd o ennill seddau ar y cynghorau lleol.

Roedd cadeiriau caled mawr gyda seddau crwn coch moethus wedi eu gwthio yn erbyn y bylchau gwag ar hyd y wal o gwmpas.

Doedd y bobol hyn erioed wedi arfer colli, a dalient i eistedd yn eu seddau yn hollol syfrdan.

Tipyn o drip - o'r stafell newid, lle bu tîm Ffrainc cyn eu gêm derfynol yng Nghwpan Rygbi'r Byd, i'r seddau Brenhinol.

Aeth i eistedd ar un o'r seddau am ysbaid i wrando ar y carolau.

Yr unig beth nad oedd yn ei hoffi oedd pobl yn sefyll ar y seddau a'r byrddau yn y dafarn.

Roedd seddau wedi eu cadw inni ym mhen blaen neuadd berfformio yr adran gerddoriaeth.

Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol yr oedd yr hanes wedi treiddio i eicongraffeg boblogaidd, ac i'w weld hyd yn oed yn y cerfiau dan y seddau yn yr eglwysi (e.e yn eglwys gadeiriol Caer).

Cael sedd- gadw, beth bynnag, ac nid yw'r cerbyd seddau-cadw hanner mor llawn a'r cerbydau eraill, er ei fod yn hollol lawn yn yr ystyr Ewropeaidd i'r gair.

Mae gan yr aelodau hyn o'r Cynulliad Cenedlaethol ar Senedd yn yr Alban hawl i £40,000 yn rhyw fath o iawndal am hepgor eu seddau yn San Steffan.

Yna ychydig dros gan mlynedd yn ôl gosodwyd pulpud a seddau newydd ynddo.

O'r seddau blaen, ni chymerodd eu rhieni arnynt glywed geiriau Rhodri o gwbl.

Erbyn chwarter wedi chwech, mae hanner y seddau yn llawn a dim un ar ôl erbyn saith a phobl yn dal i gyrraedd, rhai gyda'u cadeiriau eu hunain yn eu llaw.

Nôl i'w seddau, a'r sach rhyngddyn nhw unwaith yn rhagor.

Gan fod rhai o'r caneuon yn ganeuon actol, a dim llawer o le yn y dafarn fe fyddai sefyll ar fyrddau a seddau yn digwydd yn reit aml.

Eisteddai Akram a Bholu yn seddau blaen y bws, a Klon a minnau yn y cefn.

Un res o seddau, llawr pridd, a meinciau.

Does 'na ddim smic mewn theatr os ydy'r gynulleidfa'n mwynhau eu hunain - ond os nad ydyn nhw, mae nhw'n rhyw wingo yn eu seddau ac yn pesychu,' ac er ei bod yn cael budd mawr o drafod yr amrywiol gymeriadau y mae'r cyfarwyddwr yn eu hanfon ei ffordd hi gyda'i chyd-actorion, aiff Judith yn ôl at ei greddfau ei hun er mwyn mynd dan groen y cymeriad.

Ond er i'r Blaid ennill ychydig o seddau.