Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sefydlog

sefydlog

Fe awgrymodd - - fod rhywfaint o gamddealltwriaeth ynghlwm wrth y diffiniad o Gytundeb Pris Sefydlog.

Dyma faterion a fu'n poeni rhai ohonom ar Bwyllgor Sefydlog y Mesur Iaith yn y Senedd.

Mae un cymal yn y rheolau sefydlog yma yn datgan na ddvlai yr un aelod gael ei ethol i Gadair y Cyngor am yr ail dro tra bod aelod arall heb fod yn y Gadair o gwbl.

Arweinydd milwrol, bid sicr, a phennaeth ar fintai o ymladdwyr symudol a gwibiog, ond nid cadfridog yn gwasanaethu gwladwriaeth sefydlog a threfnus; yn hytrach, anturiwr, treisiwr, ysbeiliwr, yn ymladd nid yn unig yn erbyn y Saeson ond hefyd yn erbyn ei gyd-Frythoniaid.

Mae'r digwyddiad lleisiol pwysig hwn bellach yn eitem sefydlog ar y calendr cerddorol.

Fe nododd - - fod tendr yn gallu golygu sawl gwahanol beth - fe allai olygu Cytundeb Pris Sefydlog neu fod y syniad a'r cynnwys yn cael ei addasu ar ôl ennill tendr.

Ystyried y pwnc hwn yn ei berthynas â'r Telynorion, a'r Datgeiniaid, i weled a ellir diffinio rheol a fydd yn sefydlog o berthynas iddo.

Fodd bynnag, erbyn diwedd y degawd hwnnw roedd cyfuniad o ddirywiad yn yr economi, polisi o gwtogi ar wariant cyhoeddus a rhagolygon o boblogaeth sefydlog yn arwain at leihad sylweddol yn rhan y sector gyhoeddus swyddogol ym maes darparu cartrefi.

Fel canlyniad i newidiadau o'r fath, nid ydyw cyfradd twf dichonol yr economi yn aros yn gwbl sefydlog, ac nid yw'r gromlin ILI yn y diagram, felly, ddim o angenrheidrwydd yn un liniol.

Mae'n bwysig iawn fod aelodau'r Pwyllgor yn deall o'r cychwyn bod modd defnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn y cyfarfod a gellir atgyfnerthu hyn yn weledol drwy osod copi o bolisi iaith y Cynulliad (pan ddaw) neu eiriau Deddf Llywodraeth Cymru ynghylch defnydd y ddwy iaith, neu Reol Sefydlog 8.23 -- 'Caiff aelodau'r pwyllgorau, a phersonau eraill sy'n annerch y pwyllgorau siarad Cymraeg neu Saesneg, a bydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer trafodion Cymraeg.

Byddai model cydbwysedd cyffredinol o'r fath yn bur wahanol o ran natur i'r model cydbwysedd rhannol a geir yn Ffigur I, ond - a chymryd bod elfen o anystwythder yn perthyn i brisiau, ac yn arbennig felly i gyflogau a chyfraddau llog - fe fyddai casgliadau sylfaenol ein model dechreuol yn dal i sefyll: sef bod cydbwysedd yn bosibl gyda lefel uchel o ddiweithdra; ac y byddai'n rhaid i'r llywodraeth - er mwyn sicrhau lefel cyflogaeth uchel a sefydlog - reoli'r galw cyfanredol trwy defnyddio arfau cyllidol.

Gwnaed hyn drwy gytuno ar gyfradd gyfnewid sefydlog i bob aelod ac, er mwyn sicrhau'r gyfradd rhag ansefydlogrwydd tymhorol, galluogwyd y Gronfa i gynnig benthycion i bob aelod yn ôl ei eisiau.

Ni pheidiais erioed â chael golwg ar y bedol o fynyddoedd sy'n gefndir i'r cwmwd, a'r rheini'n sefydlog arhosol ar orwel fy mod i ba le bynnag yr awn.

Y pwysicaf o'r pwyllgorau sefydlog oedd y Pwyllgor Gweinyddol - pwyllgor brys yr Undeb - a gyfarfyddai'n amlach na'r un arall i drafod materion yr oedd yn rhaid cael barn sydyn arnynt.

Tua'r Nadolig, gan nodi'n fanwl y dydd o'r mis, wedi iddi nosi ac i'r sêr ddod i'r golwg, aeth i weirglodd Ty'n y Gilfach, gan ddwyn polyn gydag ef, a gosododd y polyn mewn llinell unionsyth â simnai y tŷ a rhyw seren sefydlog yn y gogledd.

Bod yr amseriad yn sefydlog yn ddieithriad, a chytunir mai'r priod amseriad ydyw "Amseriad cymhedrol adrodd a siarad", am mai hynny'n unig a sicrha briod aceniad.

Speiser sylw at y gwahaniaeth sylfaenol rhwng patrwm bywyd llwythau Semitig y gorllewin a bywyd mwy sefydlog cymdeithas ym Mesopotamia.

I'r perwyl hwn, dylai'r Cynulliad sefydlu Fforymau Ieuenctid sefydlog ym mhob sir i edrych ar bob penderfyniad o bwys i'w cymunedau lleol.

Felly, mynnwn mai'r ffordd effeithiol o ymdrin â'r Gymraeg ydyw trwy gael rhaglen lorweddol sefydlog fel a argymhellir yn y Papur Ymgynghorol ar gyfer Ewrop, Cyfleodd Cyfartal, yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth.

Er bod y byd amaeth yn cychwyn ar gyfnod o newid mawr, gyda'r defnydd a wneid o beriannau wedi lledaenu er mwyn lleihau'r angen i fewnforio bwyd yn ystod y Rhyfel, gan arwain yn anochel at leihau'r nifer o weision a weithiai ar ffermydd a pheri i'r Llywodraeth ddarparu prisiau sefydlog am gynnyrch fferm, cyflwyno portread eithaf rhamantaidd o fyd yr amaethwr a wnaeth Geraint Bowen.

Hefyd bydd yn rhaid i'r toddiant biolegol fod yn sefydlog; ni fyddai mor o hydrogen perocsid yn addas o gwbl gan y byddai'n ffrwydro'n ddigymell.

Y Rheolau Sefydlog Y Rheoliadau Ariannol Y Rheolau Sefydlog ynglŷn â Chontractau

Y mae'n ei wrthgyferbynnu gyda beirdd clasurol y traddodiad mawl, hwynt-hwy yn eu cyrndeithas' sefydlog a threfngar' yn dal mai' peth qmdeithasol' oedd barddoniaeth; a Williams yn fardd' ei brofiadau'i hun'.

Yna yr oedd pedwar pwyllgor sefydlog o dan aden y Cyngor.

Yn sicr, mae'n batrwm sefydlog.

Sylfaen y gymdeithas sefydlog oedd yr uned boliticaidd gyda'i rhaniadau a'i dosbarthiadau trefniadol.

Benvinguts, ongi etorri a chroeso i golofn sefydlog y Grwp Cysylltiadau Rhyngwladol yn y Tafod, Llengüa, Gjuhë, Teod, Jezik, Mingain.

Y mae angen diogelwch a chynhaliaeth ar y ddau er bod un yn sefydlog a'r llall yn symudol oddi fewn i'w blaned ei hun.

Ers ei ffurfio ym 1992 datblygodd alfresco i fod yn o gwmniau mwyaf sefydlog y sector annibynnol yng Nghymru.

Sylwyd hefyd bod un cerbyd o fewn yr adeilad yn cael ei atgyweirio yn ôl pob golwg, ac y lleolwyd carafan sefydlog o fewn yr adeilad.

Er enghraifft, sefydlwyd clwb Cymraeg yn Bahrain dros ugain mlynedd yn ôl ac y mae cymdeithasau sefydlog hefyd yn Kuwait ag Abu Dhabi.

Yr unig fodd o adfer yr iaith yw ei hadfer o fewn cymdeithasau sefydlog a naturiol Gymraeg.

Erbyn hyn hefyd 'roedd Waldo wedi clywed mai cwbl gyfeiliornus oedd y datganiad a roddodd Mr S iddo am y pwyllgor: 'roeddent hwy wedi pasio i gadw Waldo yng Nghas-mael yn sefydlog ac nid yn unig tan y Tribiwnlys fel y dywedasai Mr S.

Bu drwy 'gyfnewidiad morol', proses o fraenu nad yw'n gadael dim ar ôl o'r llongddrylliad ond pentwr sefydlog a elwir yn 'ffurfiad llongddrylliad'.

Dau achwyniad arbennig yn erbyn y drefn yma oedd ei bod yn gwneud yr economi mewnol yn israddol i gyflwr y fantolen allanol a lefel y gyfradd ac, yn ail, fod unrhyw gyfundrefn sefydlog yn debyg o fagu rhyw grynofa afiach o hapfasnachu yn y farchnad gyfnewid dramor.

Mae Cymdeithas Cynghorau Bro a Thref Cymru wedi llunio rheolau sefydlog ar gyfer Cynghorau ac fel arfer byad y rhain yn cael eu mabwysiadu gan bob Cyngor.

Tybiai rhai, yn hollol gywir, fod cyfundrefn sefydlog yn golygu ffrwyno prisiau mewnol er mwyn diogelu'r lefel allanol; ond hefyd, os goddefid i brisiau allanol amrywio, y gallai prisiau mewnol gael eu rhyddhau heb unrhyw angen sicrhau'r cyflenwad o nwyddau a gwasanaethau ar gyfer allforio.

Sioe Amaethyddol Cymru yn symud i'r maes sefydlog yn Llanelwedd.

Fe wnaeth - - y pwynt fod y sustem ar hyn o bryd yn caniata/ u cytundebau pris sefydlog o dro i dro a bod hyn yn gweithio yn dda.

Un o warchodwyr sefydlog y gwersyll oedd, ac fe'i bedyddiwyd yn 'Gwep Babi', am ei fod yn llywaeth, a rhyw olwg ddiniwed arno.

Doedd - - ddim yn gweld yr angen am archwiliad ariannol o fewn ysbryd a bwriad Cytundeb Pris Sefydlog.

Ei ateb oedd mai'r rhai dur yn hytrach na'r rhai pren, gan eu bod yn fwy sefydlog.

Yn sicr yr oedd distryw yr Ail Ryfel Byd yn fwy cyffredinol ac eithafol nag a gafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf - yn enwedig ym myd cyfalaf sefydlog, hynny yw, adeiladau a pheiriannau.

(a) Rheolaeth Datblygu o ddydd i ddydd yn gyffredinol gan gynnwys (ond nid er cyfyngu ar hawliau'r Pwyllgor mewn unrhyw fodd) ymdrin â'r rhelyw o geisiadau unigol am ganiatâd cynllunio neu dystysgrif defnydd sefydlog neu faterion o'r fath a phob gweithrediad yn deillio o'r cyfryw a hefyd pob mater ynglŷn â gorfodaeth yn codi o'r Deddfau Cynllunio ac unrhyw Is-ddeddfau a Rheoliadau a wneir dan y Deddfau hynny gan gynnwys rheolaeth ar hysbysebion, coed, adeiladau rhestredig a materion o'r fath.

Beth bynnag fyddwch yn ei benderfynu, peidiwch as ystyried y cynllun fel un sefydlog.