Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

sefyllfaoedd

sefyllfaoedd

'Roedd y rhaglen gyntaf i gyflwyno'r pwnc, trwy gymharu cyfoeth a thlodi a thrwy gyflwyno y syniad o'r hyn sy'n normal - amgylchiadau a sefyllfaoedd y byddem ni yma yng Nghymru yn ystyried yn normal ond sy'n hollol wahanol i'r hyn a ystyrir yn normal yn y byd ar y cyfan yn nhermau incwm, tai, trafnidiaeth, hyd oes ac yn y blaen.

'Mi fydda i'n meddwl lawer am sut y buaswn i'n ymateb i'r sefyllfaoedd yn y sgript taswn i yn yr un sefyllfa, er yn aml iawn ni fu+m i erioed yn y fath sefyllfa, wrth gwrs .

Cwestiynau oedd yn procio'r meddwl wrth wylio a mwynhau perfformiad pedwar actor dawnus mewn sefyllfaoedd o wir dyndra ar adegau ac yn llawn hiwmor dro arall.

Mae'n rhaid bod yna sefyllfaoedd tebyg mewn llawer o wledydd.

Hynny yw, ffraethineb, hiwmor a sefyllfaoedd abswrd sy'n taro'r hoelen ar ei phen.

Dyma'r rhan o'r gêm lle na all neb broffwydo beth sy'n mynd i ddigwydd, lle yr ydych chi a'ch gwrthwynebydd yn creu sefyllfaoedd na all neb eu rhagweld, ac, efallai, sefyllfaoedd na fu erioed o'r blaen mewn unrhyw gêm ers y dechreuad.

Nid dyma'r math o sgrifennu yr oeddem wedi arfer ag ef gyda'i gymeriadau afreal a'i sefyllfaoedd ffantasiol.

Cyfres sy'n cyflwyno nifer o sefyllfaoedd newydd i blant.

safonau cyrhaeddiad - gan gynnwys cwmpas gwybodaeth y disgyblion am y pwnc a'u gallu i gymhwyso'r wybodaeth hon i sefyllfaoedd newydd; maint eu dealltwriaeth a'u meddiant o sgiliau; eu canlyniadau yn asesiadau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac mewn arholiadau cyhoeddus.

Dyma'r plant fydd i'w gweld mewn sefyllfaoedd cyfoes a chyffrous o fewn y naw sgil cyfathrebol.

Ar lefel Ewropeaidd, mae'r Gymraeg yn eithriad ymhlith ieithoedd mewn sefyllfaoedd tebyg gan nad yw'n iaith swyddogol.

Gellid ymgymryd ag ymchwil dosbarth, treialu a gwerthuso deunydd/sefyllfaoedd penodol a.y.y.b.

Rhydderch a Gwenlyn fu'r tim o fets a ddyfeisiodd rai o sefyllfaoedd gwaelodol mwyaf frwythlon y gomedi sefyllfa Gymraeg: Hafod Henri, Glas y Dorlan, a'r anfarwol Fo a Fe.

A yw disgyblion yn cymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau y maent wedi eu dysgu ar gyfer sefyllfaoedd newydd?

Maen nhw'n derbyn eu haddysg mewn sefyllfaoedd tra gwahanol ac o dan amodau gwahanol, gyda gwahaniaethau yn ardaloedd a maint yr ysgol, ym mhrif iaith a nifer y plant, ac amrywiaeth yn yr amser maen nhw'n treulio yn yr ysgol bob wythnos.

Trefnu a rheoli datblygiad dwyieithrwydd disgyblion a dysgu effeithiol o fewn sefyllfaoedd dwyieithog.

Cyfarwyddwn y senedd hefyd i ystyried yn flynyddol gynnig unrhyw ddiwygiadau trefniadaeth gan yr ystyriwn fod datblygiadau o'r fath yn arwyddion o gymdeithas fywiog sy'n ymateb i sefyllfaoedd newydd yn hytrach nac yn adlewyrchiadau o broblemau yn y drefn flaenorol.

Cyd- destun oedd Gwynedd i'r holl amrediad o sefyllfaoedd uniaith a dwyieithog (ymestynnol a gostyngol) a welir mewn addysg uwchradd yng Nghymru.

Beth bynnag yw'r sefyllfaoedd, dylid eu clymu wrth y tyfiant patrymol hwn.

Un o fwriadau'r Pecyn HMS felly, yw cynnig cyfle i athrawon: * adfyfyrio ar eu harferion dysgu presennol, mewn sefyllfaoedd uniaith yn ogystal a dwyieithog gan ofyn pam a sut y maent yn cyflwyno'r gwaith fel y gwnant, * gyd-drafod gydag aelodau eraill o'r un adran y dulliau dysgu hynny sy'n seiliedig ar y defnydd o iaith wrth gyfathrebu yn eu pwnc, * elwa oddi wrth brofiad aelodau eraill sydd yn yr un adran.

O'r tueddiadau hyn, y canol yw'r un sydd fwyaf derbyniol o safbwynt datblygiad pynciol a ieithyddol y plentyn gan ei fod yn caniatau bratiaith wrth archwilio syniadau mewn grwp, ond yn arwain y disgybl hefyd, i gyfeiriad iaith fwy safonol mewn sefyllfaoedd dosbarth cyfan mwy ffurfiol.

Roedd bathodyn Lithuania'n lliwgar-ffres ar ddillad swyddogion y maes awyr - yn ôl y drefn flaenoriaethau draddodiadol mewn sefyllfaoedd o'r fath, roedd iwnifforms ar ben y rhestr.

theori addysgu a dysgu pynciol effeithiol mewn sefyllfaoedd uniaith Gymraeg a dwyieithog,

ii agweddau ymarferol a chymhwyso'r theori i sefyllfaoedd dysgu arbennig yr athrawon ar y cwrs.

Arfogi'r athrawon ar gyfer dysgu eu pynciau yn yr amrywiol sefyllfaoedd dwyieithog a Chymraeg sydd yn bodoli yng Nghymru.

Mae gwaith Weinrich a Fishman yn edrych ar ddwyieithrwydd o berspectif ffwythiannaeth adeileddol (structural functionalism), a'u prif ddiddordeb yw gweld pa un o'r ddwy iaith sy'n cael eu defnyddio o fewn gwahanol sefyllfaoedd cymdeithasol.

Mewn sefyllfaoedd athro-ganolog rhaid rhoi mwy o ystyriaeth i'r strategaeth a ddefnyddir wrth gwestiynu gan fod y cwestiwn yn gallu bod yn erfyn dysgu effeithiol o'i ddefnyddio'n ddewisol.

Yn y cyd-destun hwnnw amlygid amodau ymddygiad greddf, dirnadaeth ynghyd â'r gallu angenrheidiol i ymateb yn briodol i sefyllfaoedd arbennig ac i'r addysg honno a gyfrennid i'r uchelwr ac a ddyfnhâi ynddo'r priodoleddau hanfodol ym mywyd y gŵr perffaith.

annog a chefnogi defnyddio'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol newydd.

Mae angen i'r athrawon nad ydynt yn gwneud hynny eisoes yn eu dysgu, ystyried rhoi mwy o le i sefyllfaoedd plentyn ganolog sy'n cynnwys gwaith llafar pwrpasol mewn grwpiau bychain.

Rhaid hefyd ddarparu cyfleoedd i alluogi pobl i ddefnyddio'r iaith mewn sefyllfaoedd llai ffurfiol.

Dyna beth yw bod yn berson mewn oed: dysgu addasu i sefyllfaoedd newydd, pa mor anodd bynnag y bo hynny." "Aeddfed?

Creu sefyllfaoedd o fewn ysgol/adran, cynnig syniadau a fyddo'n ysgogi athrawon i dreialu dulliau ac ystyriaethau newydd ac a allai arwain at yr athro fel ymchwilydd, felly, yw un o nodau'r Pecyn.

O safbwynt iaith leiafrifol fel y Gymraeg sydd wedi bod heb statws mewn cynifer o feysydd allweddol am gymaint o flynyddoedd, y mae colli hyder yn safon a pherthnasoldeb yr iaith a siaredir yn gallu esgor ar shifft araf tuag at ddefnydd helaethach o'r iaith ddominyddol mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Cesglais o'r sgwrs iddo drafod yr holl waith yn fanwl gyda Gwyn a rhoi syniadau iddo am wella dialog a chyfeirio sefyllfaoedd yn wahanol.

Diben y digwyddiad yw rhoi cyfle i'r cynrychiolwyr drafod eu dyheadau a'u problemau gydag ardaloedd eraill sydd a sefyllfaoedd tebyg.

Pan mae sefyllfaoedd fel hyn yn codi, mae'r ffaith ein bod wedi ein hynysu yn siarad cyfrolau; ond nid amdano ni.

Mewn sefyllfaoedd felly, dydych chi ddim yn aros i holi - nhw yw'r bobl sy'n byw yn y lle.

Bydd yr 8 rhaglen 15 munud yn cynnwys 4-6 o sefyllfaoedd perthnasol i oedran a diddordeb y disgyblion.