Byddai'n demtasiwn i chwi sefyllian yno nes bo llech y preseb yn wlyb lân, a'r tafod chwilgar garw yn hel y gronynnau o flawd a gollasid ar lewys eich siaced.
Bydd rhaid iddyn nhw ddal i sefyllian yn y glaw oer hyd nes y daw rhywun o hyd i ryw fath o gysgod ar eu cyfer.
Argian mi oedd 'na lot o bobol o gwmpas, yn gweu drwy'i gilydd 'run fath â morgrug, a roedd 'na dipyn o hogia'r Armi hefyd, yn sefyllian ar y sgwâr.
Ond roedd pob ffôn yn yr hen adeilad mawr hyll yn brysur, a nifer fawr o bobl yn sefyllian o gwmpas yn anniddig yn disgwyl eu cyfle i ffonio.
Hen eiriau yn dda i ddim, fely yr ystyriai wrth sefyllian yn ddiamcan o'i flaen.
Er hyn, allan o'r holl elfennau, y nudden sydd yn deimladwy ac yn cyflwyno bendith i ddiogelu yr ennyd sydd yn ddi-ofn am fod yr Hariers a holl awyrennau hynod y Sais yn sefyllian mewn gwyll unig, a pheiriannau peryglus yr Argies: y Super Etendards sydd yn cludo'r Exocets.
Gellid yn hawdd gymeradwyo ffyrdd amgenach o dreulio'r diwrnod na sefyllian ar lawnt yn Reykjavik a hithau'n ddiwedd Hydref ond dyna oedd y dasg gerbron.
Pan ddeuai diwedd pnawn nid oedd llawer o sefyllian yng nghyffiniau'r ysgol, dim ond ras am adref, waeth pa mor bell oedd hwnnw.