Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

seibiant

seibiant

Clwstwr o ffrwythau mewn difri yw pob mwyaren, ffurf sydd wrth fodd y mân deloriaid sydd yn datgymalu'r swigod bach du fesul un tra'n cymryd seibiant ar eu taith mudol ym mis Medi.

'Oni chymer (Pengwern) seibiant,' medd Roberts, 'ni welaf sut y medr ymuno â ni mewn pwyllgor o'r cenhadon na sasiwn eto.'

Allan ar y môr yr oedd ei le yntau, nid yn tindroi'n ei unfan yn yr hen harbwr, yn rhwydo pysgod ddydd ar ôl dydd, yn eu glanhau a'u gwerthu heb fawr o dâl am ei drafferth na fawr o seibiant o fore gwyn tan nos.

Cytunodd Pengwern i fynd am chwe mis o seibiant ar yr amod fod trefniadau'n cael eu gwneud i dalu'r ddyled oedd ar y capel lleol a hefyd i ofalu am y plant amddifaid.

Penderfynodd y Cyfeisteddfod fod Pengwern i gymryd chwe mis o seibiant a mynd i ryw ran o India tu allan i'r Maes 'lle caffo orffwys ac adnewyddiad'.

Yn y misoedd yma mae pawb yn tueddu i gymryd eu gwyliau ac/neu fyw yn eu hail dy ar lan y môr yn ymyl Rawson, er mwyn cael seibiant o'r gwres llethol.

Heddiw eto, fel y gwnaethai'n gyson yn ddiweddar, roedd wedi dringo i'w hoff fangre lle y gallai gael seibiant ar ei phen ei hun.

Mae hi'n nos erbyn i'r côr orffen canu a chael gwybod y bydd yn rhaid gwneud yr un peth unwaith eto yn dilyn seibiant o hanner awr.

Mae Oriel Plas Glyn-y-Weddw wedi agor unwaith eto ar ôl y cyfnod byr o seibiant dros fisoedd y Gaeaf, ac mae'r paratoadau a'r rhaglen arfaethedig yn swnio yn ddiddorol ac yn amrywiol iawn.

Seibiant eto hanner ffordd i fyny ac edrych i lawr dros wastadeddau sych anferth Karamoja o danom.

Yr un oedd y gân, neu ganeuon, ymhob man, a dyma nhw fel y cofiaf heddiw: 'O meistres fach annwyl A siarad yn sifil Calennig os gwelwch yn dda, Yna llwyddiant i'r gwydde A'r moch a'r ceffyle A hefyd i'r defed a'r da.' Os byddai seibiant go hir cyn i ffenestr y llofft gael ei hagor fe fyddem yn canu'n uchel a chyflym: 'Os ych chi'n rhoi, Dewch yn gloi Ma' nhrad i bron â rhewi.' Mewn ty arall, neu fferm arall, fe fyddai'r gân yn wahanol rhywbeth fel hyn: Mae'r hen flwyddyn wedi mynd Wedi cuddio llawer ffrind, O!

'Torri'r lawnt mae o ac mi fydd o'n falch o'r seibiant,' daeth ateb Claudia Morris.

Erbyn gorffan roeddan ni 'di byta gormod i symud, felly mi orweddon ni i lawr yn braf yn yr haul, i gael seibiant.