Yn ystod cyfnod o chwarter canrif o ymwneud â seiciatreg, ychydig iawn a glywodd yr adolygydd yma am chwedlonaieth Geltaidd o enau neu ysgrifbin seiciatryddion neu seicolegwryr.
Mae'n debyg y bydd y darllenydd lleyg - o safbwynt seiciatreg - yn cael rhannau o'r gwaith yn ddyrys ac weithiau'n anghredadwy; yn enwedig felly, hwyrach, pan fo seiciatryddion yn ymarfer eu credoau ynglŷn â gwadu ac amwysedd sy'n golygu y gellir maentumio mai'r gwrthgyferbyniol a amlygir neu a arddangosir gan yr hyn sydd fel pe bai'n gwrth- ddweud eu damcaniaethau.
Er hynny, wrth ymdrin â gweithiau fel nofelau Daniel Owen a Charadog Prichard, a cherddi megis 'Atgof' Prosser Rhys, yn unig y cawsom ddirnadaethau seiciatreg yn cael eu cyfaddasu at feirniadaeth lenyddol Gymraeg.