A minnau drwy'r ystryw seicolegol a elwir yn ddisodliad a dirprwyaeth yn bachu ar ei drwyn ac yn hoelio fy nghasineb at y Parch.
Daeth ataf a rhoi ei law ar fy ysgwydd yn ei ddull cu a thadol (a bu ei gyffyrddiad grasol yn help nid bychan i mi ddeall ystyr seicolegol 'tadolaeth Duw', reit siwr).
Ond prin ydyw'r ymdrech i weld ystyr neu arwyddocâd seicolegol i'r 'cymeriadau' a'r digwyddiadau yn y stori.
Synhwyrais fod rhyw chwyldro seicolegol annisgwyl iawn wedi digwydd yn fy hanes pan sylwais, ar ol imi dreulio deuddydd ym Moscow, fod y llythyren 'M' fras, goch a ddynodai Metro yn ymrithio o flaen fy llygad nes iddi ymdebygu i'r M am Macdonalds.
Mae'r rhan fwyaf yn adnabod o leiaf un oedolyn arall sy wedi llwyddo i ddysgu'r Gymraeg yn rhugl, ac yn y modd hwn dymchwelwyd y mur seicolegol a oedd yn dal rhai yn ôl am na allent gredu ei bod yn bosibl iddynt hwy siarad a deall Cymraeg.
Mae hyn yn gwbl ddilys yn seicolegol, oherwydd fe fydd rhiant yn tueddu i weld ei blentyn fel ymgorfforiad o'i febyd ei hun, ac wrth golli Siôn mae'r bardd yn ffarwelio â holl hwyl ac asbri ieuenctid, fel y gwelir yn y paragraff olaf.
Mae hi hefyd yn astudiaeth seicolegol o unigrwydd ac o golled.
Wrth geisio byw yn ol diffiniad corfforol annibyniaeth roedd Zola wedi aberthu ei annibyniaeth cymdeithasol a seicolegol.
Yn wir, crewyd rhyw fath o rwystr seicolegol ym meddyliau'r di-Gymraeg a'u llesteiriai rhag ceisio gwneud unrhyw ymdrech i ddysgu dim o'r iaith.
Mae datblygiad y gerdd ar ei hyd yn adlew yrchu'r broses seicolegol o ddod i delerau â marwolaeth.
I ennill, byddai'n rhaid iddo eu curo nhw ar bwyntiau ac roedd hynny yn bwn seicolegol ynddo'i hun.
Esgorodd y polisi hwn ar ganlyniadau cymdeithasol, seicolegol a diwylliannol sy'n ddigon cyfarwydd mewn gwledydd sydd wedi eu concro gan wlad arall neu eu corffori mewn gwlad arall.
Ergyd arswydus sydd i englynion Williams Parry, ond yma mae'n fater o gyfleu'r berthynas glos rhwng y tad a'r mab, fel petai Siôn yn dal i fodoli yn ymwybyddiaeth ei dad - ymdeimlad sy'n gwbl ddilys yn seicolegol wrth gwrs.
Ers ugeiniau o flynyddoedd ni roes y drefn dreisgar fawr o gyfle iddynt ddatblygu dinasyddiaeth Gymreig; a thrwy eu blynyddoedd yn yr ysgol, ac wedyn yn y byd y tu allan fe'u gorfodwyd gan drais seicolegol gorthrymus i gredu mai Prydeinwyr oeddent yn gyntaf a Chymry yn ail sâl.
Nid yn unig y mae rhagdybiau ffydd ar waith ond hefyd rhagdybiau cymdeithasol, economaidd a seicolegol.
Mae'n ddigon hawdd meddwl am resymau seicolegol dros hyn.
Ymddengys i mi mai rhyw angen seicolegol ynddo oedd hyn, rhyw nodwedd ar ei bersonoliaeth.
Mae undod economaidd yn bod hefyd, ac undod seicolegol.
Clywais i fy hun, fwy nag unwaith, bobl yn cyfeirio ato fel 'y dewin Sam Jones.' Ys gwn i a oes arnom ni'r Cymry ryw angen seicolegol dwfn am fod o'r fath yn ein plith.
Gwneir datganiad o'r fath ar ôl asesiad gan dîm aml-ddisgyblaeth, ac mae'n rhiad i'r tîm hwnnw gynnwys rhywun sy'n gallu rhoi cyngor seicolegol, addysgol a meddygol ac mae'n rhaid iddo roi ystyriaeth i farn rhieni.
Choelia i byth na fyddai gwneud ymchwiliad seicolegol i rai o'r bobol yma'n beth diddorol iawn.
Mae myrdd o rwystrau cyfundrefnol a seicolegol yn sefyll yn ffordd dwyieithrwydd gweithredol, ond gydag ymdrech drefnus y mae modd eu gorchfygu.
Nid oedd yn barod i ymroi'n gyflawn o safbwynt dychymyg a dibynnu ar gysylltiadau a strwythurau cymdeithasol a seicolegol y bywyd hwn.
Mae'n amlwg nad oedd angen ond i Youenn Drezen dynnu ar ei atgofion personol er mwyn disgrifio datblygiad seicolegol y cyw offeiriad pan orfodir ef yn sydyn i wynebu byd yr ymdrechwyd hyd hynny i'w guddio rhagddo.