Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

seilio

seilio

Ar ôl ymweld â hi gyntaf yn y chwedegau, pan oedd rhywfaint o weithio yno, bu yn ôl lawer gwaith ar ôl iddi gau, gan seilio cyfres gyfan o luniau arni.

Rhan o'r bwriad yw fod llawer o'r cymeriadau yn ystrydebau - o'r athrawes ddrama sy'n hynod o "darlings, darlings" i'r prifathro gwallgo sydd wedi cael ei seilio ar gymeriad o ffilm y grwp roc Pink Floyd, The Wall.

Gan fod y cyfan o gostau staff arbenigol ynghlwm wrth gynhyrchu adnoddau arbennig, megis llyfr neu gyfres o lyfrau, disgwylir i'r costau ar gyfer un project penodol gael ei seilio ar natur y cynnyrch (e.e.

Ni ddewisodd Kitchener drafod ei ddeunydd yn y dull naturiolaidd oherwydd ewyllysiodd afael yng nghymlethdod llawn y realiti sydd y tu hwnt i'r math o resymegu y mae'r dull naturiolaidd wedi'i seilio arno.

Deuai ffydd Hugh Hughes o'i galon, wedi'i seilio ar "adnabyddiaeth bersonol o Dduw a'i bethau% Adlewyrchiad o hyn oedd natur bersonol ei ymosodiad, ac o'i ganfyddiad o gyfrifoldeb pob unigolyn yn y byd hwn am ei weithredoedd, ac o'i atgasedd, felly, at naws haniaethol dadleuon yr academegwyr.

Y mae'r cofiant yn gyfraniad o bwys wedi'i seilio ar waith ymchwil trylwyr, yn cynnwys defnydd helaeth o ffynonellau niferus, llafar ac ysgrifenedig.

Wedi ei seilio ar ddrama Uncle Vanya gan Chekhov, mae'r ffilm o'r enw 'August', wedi'i gyfaddasu a'i osod yng Nghymru gyda chymeriadau Cymreig, yn hytrach nag yn Rwsia.

Er bod y system honno wedi cael ei seilio ar iawnder cymdeithasol, bellach ni fedrai hyd yn oed fwydo cyfran helaeth o Archentwyr.

Hoffwn feddwl amdanynt yn magu perspectif eang ar fyd ac ar fywyd, perspectif wedi ei seilio ar werthoedd a phrofiadau eu cymuned.

Gwir fod yr eglwys, fel eglwys Robert Browne, wedi ei seilio ar gyfamod.

Fy nehongliad i o'r bradychiad a'r dienyddiad (os caf roi fy nghasgliadau'n foel, heb ymhelaethu dim yma) yw i Jwdas Isgariot benderfynu traddodi Iesu i ddwylo'r awdurdodau yn y gobaith y byddai terfysg yn codi yn y ddinas o'i blaid ac y byddai'r rhyfel mesianaidd yn dilyn; i'r terfysg ddyfod o dan arweiniad Barabas a'i drechu'n ddigon buan gan filwyr Pilat; i Iesu wrthod yn y brawdlys a cherbron y dyrfa arddel y fesianaeth filwrol a'r deyrnas ddaearol wedi ei seilio ar rym arfau; ac i'r gwrthodiad hwn beri siom chwerw i'r bobl.

Temtasiwn i ohebydd yn crafu am ei fara menyn fyddai defnyddio'r hen dric o lunio stori negyddol wedi ei seilio ar wadiad ffaith neu honiad dychmygol.

Ymdriniaeth ymarferol ydyw gan wr craff sy'n deall techneg amaethu tan amodau arbennig ei fro, ei hinsawdd, ei gwyntoedd cyson a natur ei phriddoedd, (ceir yma un o'r enghreifftiau cynharaf o fap priddoedd), ac y mae ganddo gynghorion wedi'u seilio ar arbrofion cemegwyr y Gymdeithas Frenhinol.

Beth bynnag yw'r nodau cyfathrebu, gellir eu seilio ar dwf effeithiol - o bont i bont.

Ymgyrch arall sydd ar y gweill yw pwyso ar yr Awdurdodau Unedol Newydd i gael polisïau iaith cryf wedi eu seilio ar egwyddor Dwyieithrwydd Naturiol Cymunedol.

Fyddwn i'n gobeithio ein bod ni i gyd fel aelodau Cymdeithas yr Iaith, er efallai yn ymateb yn reddfol i sefyllfa, yn hyderus fod y reddf honno wedi ei seilio ar egwyddor o hir ymarfer.

Yn hynny o beth, edrychwn tuag at y Cynulliad i ddatblygu gwleidyddiaeth radical yng Nghymru wedi ei seilio ar egwyddorion Sosialaeth Gymunedol. Gwleidyddiaeth fydd yn ei hanfod yn ymateb i anghenion Cymru ac sy'n gweithredu dros sicrhau cyfiawnder i'r Gymraeg a chyfiawnder cymdeithasol ac economaidd i bobl a chymunedau Cymru.

Yr oedd gofyn gwerthoedd a chanllawiau, a'r gwerthoedd llenyddol a argymhellodd oedd rhai wedi eu seilio ar ufudd-dod i awdurdod allanol traddodiad.

Y mae'r prif drosiadau wedi eu seilio yn naturiol ar syniadau o'r Hen Destament.

Bydd yr astudiaethau hyn yn codi o'r gwaith a gyflwynir yn ystod yr oriau cyswllt, wedi'u seilio ar ddamcaniaethau a sylfaen academaidd, ac yn cynnig cyfle i asio'r syniadaeth a gyflwynir gydag ymchwil dosbarth ar raddfa fechan.

Yn y rhamantiaeth ddirywiedig hon yr oedd ysfa i fynd o'r tu arall heibio i fywyd bob dydd a throi at fyth, myth a oedd, chwedl yntau: wedi ei seilio ar apêl at y gorffennol neu at brydferthwch pell, afreal, negyddol.

Ers rhai wythnosau mae'r hen blasdy yn cael ei defnyddio i ffilmio cyfres wedi ei seilio ar nofel Y Wisg Sidan gan Elena Puw Morgan.

Y mae'r llyfr wedi ei seilio ar ymchwil gofalus mewn amrywiaeth o ffynonellau.

Ceir hefyd stori sydd wedi ei seilio ar un o lythyrau Kate Roberts i Saunders Lewis lle mae hi'n difrïo tref enedigol yr awdur (yn rhyfedd ddigon) ac yn dweud yr hoffai chwythu Aberdâr i'r cymylau.

Bydd y ddogfen hon sydd wedi ei seilio ar lyfryn a gyhoeddwyd gan Ysgrifenyddiaeth Bwrdd Trysorlys Canada yn cynnig canllawiau ar sut i gynnal cyfarfodydd pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol yn llwyddiannus yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Er bod llwybr yma yn ymddangos yn fyrrach o edrych ar atlas ysgol wedi'i seilio ar dafluniad Mercator, gwyr pawb mai siap sffer sydd i'r ddaear, ac felly rhaid i'r llwybr byrraf rhwng dau bwynt ar wyneb y ddaear ddilyn cylch naturiol y sffer.

Pryderir na fyddai fformiwla/ u cyllido corff o'r fath yn ymatebol i'r anghenion amrywiol sydd yng ngwahanol ardaloedd Cymru, nac wedi'u seilio ar bolisi%au wedi'u llunio gan bersonau etholedig ac atebol i'r cymunedau lleol hynny.

Mae proffil oedran Prentis yn wahanol i'r gweddill, oherwydd ei fod wedi'i seilio ar y rheini sy'n dysgu Cymraeg.

Mae'r ddwy nofel wedi'u seilio ar ddirgelwch.

Fe ellir cyfrif yr argost fel canran o gost defnyddiau, neu o gost llafur, neu o'r ddau gyda'i gilydd; ffordd arall ydyw seilio'r argost ar faint o amser y defnyddir peiriannau ar y gwahanol dasgau.

Mae'r dadleuon a roddir o blaid cwtogi ymhellach ar yr hawl hon wedi'u seilio ar ddiffyg cyllid, a'r angen i leihau costau achosion gerbron Llys y Goron ac i esmwytho gweinyddiad y llysoedd hynny.

Beth bynnag, camgymeriad yw cyfystyru'r poblogaidd a'r anneallus a'r deallus a'r annealladwy, oherwydd nid ar snobyddiaeth y dylid seilio diwylliant.

Yr unig beth negyddol a ddwedwn i am y gyfrol yw fod rhan rhy helaeth ohoni yn yr adran "Amrywiadau", gyda nifer fawr o gerddi wedi eu seilio ar y pennill "Bachgen Bach o Felin y Wig" ond wedi dweud hynny, mae unrhyw un sydd yn gallu gwneud cywydd neu awdl ar y fath bwnc, a chodi gwen ar yr un pryd, yn haeddu canmoliaeth fawr.

Dylai gwerthuso safonau cyrhaeddiad disgyblion mewn Cymraeg a Saesneg gael ei seilio ar dystiolaeth:

Dywedodd Iesu, "Pob un felly sy'n gwrando ar y geiriau hyn o'r eiddof ac yn eu gwneud, fe'i cyffelybir i ddyn call a adeiladodd ei dŷ ar y graig.' Onid ei eiriau ef yw'r graig gadarnaf y medrwn ni seilio'n bywyd arni?

Yn ogystal, y mae cynlluniau ar y gweill i drefnu cwis llyfrau rhwng yr ysgolion Cynradd ac i gynhyrchu llyfrynnau lliwio a darllen i blant wedi eu seilio ar gymeriad Gloyn (sef arwyddlun Eisteddfod yr Urdd yng Nghwm Gwendraeth) ynghyd â chylchgrawn chwaraeon.