Llwyddiannus iawn fu'r ymdrech i ddwyn y Grefydd Anghydffurfiol i blith gwerin Gymraeg yr ardal hon, ond aflwyddiannus fu'r ymdrech i'w Seisnigeiddio, ac yn yr oes hon holwn a yw'r fantol wedi troi.
Fe ofynais y cwestiwn yna oherwydd rydych yn dweud am Dduw yn un o'ch cerddi, "We had a Welsh name for him." Ydych chi'n teimlo fod yr ardal hon yn Seisnigeiddio yn fawr iawn yn ddiweddar?