Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

seisnigo

seisnigo

Rhoes y mewnlifiad trwm cyn ac yn fwy byth yn ystod y rhyfel bwysau llethol wrth gefn y broses Seisnigo yn yr ardaloedd diwydiannol, tra oedd y rhyfel ei hun yn dyfnhau Prydeindod y Cymry.

Mae'n debyg, petai modd mesur y Seisnigo, y gwelid mai proses pur gyfyngedig oedd hi mewn gwirionedd, o ystyried y boblogaeth gyfan.

Yn wahanol i aelodau seneddol yr wythdegau edrychai Hyde yn ôl i gof y genedl, i'w hen wareiddiad Gwyddelig a'i iaith, a'i len a'i hanes, a chredai y gellid eu troi'n wrthglawdd yn ebryn y diwylliant Seisneg oedd yn brysur Seisnigo Iwerddon.

Ond am wleidyddiaeth gyfoes dywedodd Lingen mai Saeson o Loegr a ddygai bob cyffro gwleidyddol i'r meysydd glo Cymreig, a dyna ragweld y Seisnigo ar y mudiad Llafur a oedd i ddwyn Keir Hardie o Glasgow i fod yn arweinydd y Cymry.

Chwalwyd cymunedau Cymraeg, collwyd llawer o Gymry ifanc a daeth mewnlifiad mawr i Seisnigo'n pentrefi.