Yr oedd gwastad y buarth yn is na gwastad y stryd, ac yr oedd o dan y ddau dŷ seleri a ffenestri ganddynt yn edrych dros y buarth i gyfeiriad y stabal.
Yn nes ymlaen defnyddid y seleri gan y ddau deulu i storio glo, ond adeg fy ngeni yr oedd deuddyn newydd briodi yn byw yn y ddwy seler.