Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

selog

selog

Yr edd hi'n selog ym mhethau'r capel hefyd.

Yn wir mae lle i gredu mai'r un gūr ydoedd â Llywelyn ab y Moel, y bardd a'r herwr a fu'n bleidiwr selog i Owain Glyndwr.

Yn sicr, mae'n gefnogwr selog i'r clwb a mae o i'w weld ar y Vetch yn aml.

Ac ar y llaw arall, yr oedd ar y mwyaf o Biwritaniaid selog nid yn unig ymhlith y clerigwyr ond ymhlith yr uchelwyr hefyd nad oeddent yn colli'r un cyfle i greu pryder trwy geisio diwygio'r Eglwys.

Yn gyntaf, gan mai llywodraeth Brotestanaidd Edward VI a gyflwynodd y ddwy fywoliaeth iddo, awgryma hynny'n bendant iawn fod Davies yn Ddiwygiwr go selog erbyn hyn.

Yn ei dydd, roedd hi'n adroddreg dda iawn ac yn aelod selog o'r hen gapel Tabor.

Eto, ar ei garreg fedd, adroddir yn syml: "Bu'n ddirwestwr selog am y pymtheng mlynedd olaf o'i oes." Gwelodd y pendil yn syrnud o un eithaf i'r llall yn ystod ei fywyd, ond mae llawer o straeon da wedi'u casglu am y ddau gyfnod.

I Dichon fod ar ôl rywrai'n cofio amdano yn fyfyriwr yn ymgeisio am swydd Prifathro'r Coleg ac Idwal yn gefnogwr selog iddo.

A gwelai rhai o'r crefyddwyr mwyaf selog o fewn y capel ei hun y rhyfel fel brwydr yn erbyn yr annuwiol rai.

Fe'i canfyddir yn ymlyniad selog yr arweinwyr milwrol Cymreig wrth y goron Seisnig yn rhyfeloedd Ffrengig y bedwaredd ar ddeg a'r bymthegfed ganrif.

Gadawodd y dynion eu gorsafoedd a'u gweithdai yn llu, gan syfrdanu'r cyflogwyr, y Llywodraeth, y wasg, a'r undebau hyd yn oed, mor selog oedd eu hymateb i'r alwad.

Yn naturiol, ceir yn y rhan o'r rhagymadrodd sy'n canolbwyntio ar yr anterliwtiau eu hunain, bob math o wybodaeth amdanynt yn amrywio o'r ffaith fod Huw Jones yn Eglwyswr selog beirniadol o fawrion Methodistiaeth fel Howel Harris, i'r nifer o benillion a ddosbarthai'r anterliwtiwr i'w hactorion.

Dichon mai'r adran sy'n estyn noddfa a chynefin i'r adar naturiol wyllt sy'n denu'r gwyliwr adar selog i Martin Mere.

Dyma'r tro cyntaf i Isaac Williams, yr addfwynaf a'r mwyaf gostyngedig o ddynion, fentro i faes dadleuon diwinyddol, ac ar unwaith daeth ei enw dan gabl ymysg awdurdodau'r Brifysgol a'r Protestaniaid selog.

Er nad yw mam yn Eglwyswraig Sabothol selog, mae hi'n frwd dros y dathliadau mawr a phe byddai'n bwrw cathod a chŵn, ni chollai Gymundeb Bore Sul y Pasg.

Ac yr oedd hwnnw'n brotestant selog o ysgol John Calfin.