Yn erbyn cefndir yr ymgyrch hon y clywn ei lais yn galw ar ddynion i gymryd i fyny'r groes a'i ddilyn - anogaeth sydd ar y naill law yn eu cyfarwyddo i gerdded ffordd tangnefedd ac ar y llaw arall yn eu gwahodd i gyfranogi o ddioddefaint y Selotiaid yr oedd eu cyrff meirwon weithiau i'w gweld ar groesbrennau mewn mannau amlwg ym Mhalestina.
Pan ymffyrnigodd y tyndra rhwng awdurdod Rhufain a'r cenedlaetholdeb herfeiddiol daeth gwŷr y dagr, y Sicarii, yn amlwg ymhlith y Selotiaid.