Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

seneddau

seneddau

Oherwydd y gred fod y drefn gyfansoddiadol yn annigonol i ymdrin â'r problemau a fyddai'n codi wedi'r Rhyfel, daeth sôn am sefydlu seneddau rhanbarthol, system ffederal.

Yng Nghymru ac yn yr Alban y mae cryn ddiddordeb mewn arian sydd ar gael i aelodau seneddau y ddwy wlad sydd hefyd yn aelodau seneddol yn Llundain.

Un o'r pethau cyntaf a wna gwledydd ar ôl sefydlu seneddau newydd (fel yng Ngwlad y Basg a Catalunya) yw pasio deddfau Iaith Newydd.

Felly mae'r Cyfansoddiad yn un ffederal, yn cynnwys y Senedd ffederal (y Bundestag) a'r seneddau rhanbarthol, y Lander, a cheir un ar bymtheg Lander.

Cenedl fach iawn wledig oedd Cymru, yn meddu ar ychydig o gannoedd o filoedd o boblogaeth yn unig, heb brifddinas debyg i Gaeredin neu Rennes a feddai ar seneddau y pryd hynny, neu Ddulyn a gâi senedd am gyfnod yn y ganrif nesaf.

Yn y gwledydd eraill mae yna seneddau rhanbarthol fydd yn dewis cynrychiolwyr - mi fydd hi'n rai blynyddoedd cyn y bydd hi'n fater mor syml â hynny yng Nghymru.