Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

seneddol

seneddol

At ei gilydd gellir disgwyl i'r oediad gweithredu fod dipyn yn llai gyda llywodraeth seneddol nag mewn cyfundrefn arlywyddol.

Er gwaethaf ymdrechion carfan o eglwyswyr dylanwadol o dan arweiniad yr Aelod Seneddol, Benjamin Hall, (Llanofer ac Aber-carn), methodd yr Eglwys ymateb yn ddigon cyflym i ofynion y sefyllfa newydd a gododd yn sgil diwydiannu.

I Lloyd George, a oedd wedi'i ethol yn aelod seneddol flwyddyn ynghynt, roedd hon yn '[f]rwydr ogoneddus dros Gymru'.

Tywyn Mehefin 2 Elfyn Llwyd, Aelod Seneddol Meirionnydd; John Lloyd Jones, Cadeirydd Cymdeithas Cefn Gwlad; Graham Worley, cyn-ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Hawlio fod pob papur etholiad a phob ffurflen swyddogol yn ymwneud ag etholiadau lleol neu seneddol yn Gymraeg.

Ynddynt y canfu ef a'i gymheiriaid y cyfle i ehangu gorwelion eu hawdurdod ac i sicrhau swyddi brasach ar lefel leol, er enghraifft, Dirprwy-Raglawiaeth, Aelodaeth Seneddol ac Uchel Siryfiaeth.

Yr wyf innau'n cytuno fod yn iawn i'r blaid gynnig ymgeiswyr mewn etholiadau seneddol; ond ar amodau.

Brwydrodd rhai o aelodau seneddol Cymru i gael Mesur Iaith drwy'r Senedd, er mwyn sefydlu'r egwyddor fod y Gymraeg a'r Saesneg yn gydradd.

Moseley Y Comisiynydd Seneddol - William Reid

Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar wedi ymdynghedu i ymladd y mesur seneddol hwn i'r eithaf, a bydd y gaeaf hwn yn adeg allweddol, pan fydd y Llywodraeth yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth.

Mae David Griffiths wedi dadlau bod yr Adroddiadau wedi codi nid yn unig yn ateb i gais Cymro o aelod seneddol dros Coventry, William Williams, ond hefyd o fwriadau tu mewn i'r Llywodraeth ei hun, ac nad oedd Williams yn ddim byd ond offeryn yn eu dwylo.

Os yw am ddilyn y rhesymeg yna i'r pen yna dylai alw ar i Aelodau Seneddol Toriaidd ymatal rhag pleidleisio ar Ddeddf Addysg i Gymru.

Gosodwyd y cerrig sylfaen gan Master Lloyd Mainwaring, Bwlchybeudy, a Mr ET John, aelod seneddol tros Ddwyrain Dinbych, a oedd hefyd yn Gymro gwladgarol, ac yn siarad yr iaith.

Maen nhw'n mynnu fod Aelodau Seneddol a'r Cynulliad yn eu cefnogi nhw.

Felly caiff pob aelod seneddol ei gweld.

Y mae'r tair merch sydd heddiw, a minnau'n sgrifennu, yng ngharchar Bryste wedi eu rhwystro rhag siarad yn eu mamiaith wrth eu mamau, yn pigo cydwybodau hyd yn oed aelodau seneddol Cymreig y Blaid Lafur.

Etholwyd Keir Hardie yn aelod seneddol cyntaf y blaid newydd yng Nghymru ym Merthyr Tudful ym 1900.

Yr achlysur y tro hwn ydi priodas un o'r prydferthaf o aelodau seneddol y wlad honno, fis Gorffennaf, Jane Devine.

SYLWADAU SENEDDOL - Karl Davies

Yng Nghymru ac yn yr Alban y mae cryn ddiddordeb mewn arian sydd ar gael i aelodau seneddau y ddwy wlad sydd hefyd yn aelodau seneddol yn Llundain.

Tynnodd cyfaill fy sylw at lun yn y Rhondda Leader o ddarpar ymgeisydd seneddol Llafur y Rhondda gydag asyn.

Cynrychiolir Ceredigion yn y Senedd gan Aelod Seneddol Plaid Cymru ac mae caffis y dre yn llawn o bobl ifanc radicalaidd sy'n trafod syniadau gweriniaethol.

Rhoddwyd y penderfyniad a ganlyn i'r Gynhadledd ac fe'i derbyniwyd: "Fod y Gynhadledd hon yn datgan ei barn yn ffafr Deiseb o blaid hunan-lywodraeth seneddol i Gymru%.

Waeth befo eu bod yn torri'r gyfraith: oni welwyd ambell Seneddol yn ymlafnio'i orau rhy las wrth geisio chwarae'r gem yn ol rheolau hunangar ei feistres?

Nid ydyw'r anhawster hwn yn debyg o godi mewn system seneddol, yn arbennig pan fo mwyafrif effeithiol gan y llywodraeth.

Yr oedd Mr Ieuan Wyn Jones, yr Aelod seneddol yn bresennol, ynghyd a nifer eraill o wŷr amlwg yr Ynys.

Mae Cyfreithiwr y Cyngor wedi cysylltu â chynghorau eraill ar yr arfordir, ac mae'r Aelod Seneddol yn gefnogol i gael deddfwriaeth.

Meddai: "Y mae hunan lywodraeth seneddol i mi yn fater o gydwybod Gristnogol" Gwelai Syr Ifan ab Owen Edwards ddisglair olau 'mlaen.

un ymhlith llawer o gyfarfodydd tebyg oedd yr un a gynhaliwyd yn yorkshire hall', wrecsam ar y deuddegfed o dachwedd a'r tri siaradwr yno oedd joseph sturge, y crynwr o birmingham, richard cobden a henry richard, gyda townshend mainwaring, aelod seneddol bwrdeistrefi dinbych, yn llywyddu'r cyfarfod.

Addysgu a hyfforddi aelodau'r Blaid yn ei pholisi a'i dulliau o weithredu oedd yn bwysig yn awr Mabwysiadodd y Blaid ddulliau cyfansoddiadol a di-drais o weithredu, ac addysgodd ei haelodau i ddefnyddio'r dulliau hyn i gyflwyno ei pholisi a'i neges i'r etholwyr mewn etholiadau lleol a seneddol.

Y canlyniad fu'r Welsh Courts Act, 1942, deddf seneddol a ddiystyrodd holl fwriad y ddeiseb ac a adawodd y Saesneg o hyd yn unig iaith swyddogol y llysoedd cyfraith a'r gwasanaethau cyhoeddus oll.

Arwydd eu bod hwy'n ennill peth tir yw bod yr aelodau Seneddol Cymreig yn rhoi diwrnod i drafod y mater yn Nhy^'r Cyffredin a bod y Cyngor Darlledu Cymreig yn sefydlu pwyllgor i ystyried a ellid o gwbl drefnu awdurdod teledu Cymreig annibynnol.

Un o aelodau seneddol ifanc y wlad a oedd wedi trefnu'r ymweliad.

Aelodau Seneddol yn cytuno i ostwng oed caniatáu cyfathrach wrywgydiol o 21 i 18.

Y mae rhai yn gweld gobaith yn llwyddiannau Plaid Cymru mewn etholiadau seneddol megis eleni ym Merthyr Tudful.

Aelodau Seneddol yn cael yr hawl i dyngu eu llw yn Saesneg ac yn Gymraeg, ond nid yn Gymraeg yn unig.

Wedi clywed negeseuon o gefnogaeth cafwyd gorymdaith o ganol y dref at y mast ffôn lle cafwyd anerchiad gan Hywel Williams, darpar-ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Arfon.

Gwnaed yr adroddiad yn sgîl beirniadaeth Pwyllgor Seneddol ar Faterion Cymreig o safon dyluniad tai newydd yng nghefn gwlad Cymru gan Gwmni Chapman Warren ar gyfer y Cyngor.

Rhai ymhlith yr aelodau seneddol Cymreig a wasgodd ar y Llywodraeth nad rhaid wrth Gymraeg hyd yn oed mewn swyddi yn ymwneud â diwylliant Cymreig yng Nghymru.

Yn ôl yr Aelod Seneddol Llafur, Bob Marshall-Andrews, un a arwyddodd y cynnig, mae o'n bryderus ynglŷn â diffyg atebolrwydd yr Arglwydd Falconer.

Yn y cyfamser yn Llundain, mae Simon Thomas aelod seneddol Plaid Cymru dros Geredigion wedi galw am weithredu'n erbyn cnydau GM - ond nid yn erbyn safle Sealand ar hyn o bryd.

Yn wahanol i aelodau seneddol yr wythdegau edrychai Hyde yn ôl i gof y genedl, i'w hen wareiddiad Gwyddelig a'i iaith, a'i len a'i hanes, a chredai y gellid eu troi'n wrthglawdd yn ebryn y diwylliant Seisneg oedd yn brysur Seisnigo Iwerddon.

Proffit ar y diwydiant cythreulig 'arfau' a pryd y gwelwn broffit ar y diwydiant Amaeth, sydd yn ol un aelod seneddol Toriaidd, Richard Body, o Sir Norfolk y 'Laime Duck' mwyaf o holl ddiwydiannau ein gwlad.' Nid yw felly yn anodd dod i'r penderfyniad fod y Diwydiant Arfau, Y Lluoedd Arfog, ac Amaethyddiaeth yn diwydiannau y gellir cael elw gwleidyddol Toriaidd ohonynt, ac ar yr un pryd wrth faeddu digon ar Undebaeth a newid rheolau a chyfreithiau'r wlad y mae'n hawdd dylanwadu ar y 'Floating Vote'.

Byddai'r dirwyon yn y llysoedd yn drwm, ac o wrthod eu talu byddai'r canlyniadau'n gostus, er nad yn fwy costus nag ymladd etholiadau seneddol diamcan.

Cychwyn S4C. Eira trwchus drwy Gymru ddechrau Ionawr. Diweithdra yn cyrraedd 3 miliwn. Roy Jenkins yn ennill is-etholiad Hillhead, llwyddiant seneddol cyntaf yr SDP.

Mi fydd yna lawer o Aelodau Seneddol - gyda mwyafrifoedd baychain - yn edrych yn betrusgar iawn ar y ffigurau hynny ac mi fyddan nhw'n beryglus iawn os fyddan nhw'n teimlo dan fygythiad.

Un o brif wleidyddion y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru oedd David Lloyd George, yr Aelod Seneddol dros Fwrdeistref Caernarfon.

Felly, rhaid canmol gwaith ein Haelod Seneddol, Mr Dafydd Wigley, am iddo gyflwyno mesur yn Nhþ'r Cyffredin ddechrau Gorffennaf eleni, mesur a fyddai, o'i basio gan y Senedd, yn ffurfio Deddf Iaith newydd.

'Roedd ysbryd Cymru Fydd yn fyw o hyd, ac er iddo farw ym 1899 'roedd yr Aelod Seneddol dros Feirionnydd, Tom Ellis, yn parhau i fod yn arwr gan lawer o Gymry.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Ethol y ferch gyntaf yn Aelod Seneddol yn yr Etholiad Cyffredinol, sef Megan Lloyd George, Aelod Rhyddfrydol newydd Môn.

Ond wedi'r llafur mawr a'r hel enwau a chynadleddau aeth yr aelodau seneddol Cymreig i gyfrinachu â Mr Herbert Morrison, yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd.

Onid tasg gyntaf Wigley a'i gydAelodau Seneddol felly ydi mynnu bod y cyfryngau a'r papurau dyddiol ac wythnosol yng Nghymru yn rhoi lle priodol i'r frwydr etholiadol yma yng Nghymru fel bod cyfle felly i'r Blaid gael ei phig i mewn i'n haelwydydd?

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Y 'gang o bedwar', Shirley Williams, Bill Rogers, David Owen a Roy Jenkins, cyn-aelodau o'r Llywodraeth Lafur, yn ffurfio plaid newydd, y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol, yr SDP. Naw aelod seneddol yn eu dilyn.

Sioc gweld y peth yn digwydd, y ffeithiau'n cael eu datgan yn oer, glir, mor blaen â mwyafrif seneddol.

Ymysg y siaradwyr fe fydd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd Jill Evans a Moelwen Gwyndaf o UCAC heb son am gynrychiolwyr o'r Gymdeithas ei hun.

Mae ef wedi dweud mai Aelodau Seneddol Lloegr yn unig ddylai bleidleisio ar ddeddfwriaeth Seisnig.

Roy Jenkins yn ennill is-etholiad Hillhead, llwyddiant seneddol cyntaf yr SDP.

Llangefni Mehefin 23 Gareth Thomas, Aelod Seneddol; Yr Athro Derec Llwyd Morgan, Prifathro Prifysgol Cymru Aberystwyth; Bethan Evans (Gwanas), awdures; Y Cynghorydd Goronwy Parry.

Yno hefyd roedd Joan Ruddoch, cyn-lywydd CND sydd bellach yn Aelon Seneddol dros Lewisham, ond yn wreiddiol o Gaerdydd.

Bu gwrthsafiad mawr yn erbyn y bwriad yno, a'r gweriniaethwyr a'r Blaid Seneddol Wyddelig yn uno â'i gilydd, ar y tir fod Iwerddon yn wlad wahanol i Loegr ac nad oedd yn iawn gorfodi un wlad i ymladd dros wlad arall.

Am y tro cyntaf mae gan y gorllewin lais clir a digon o aelodau seneddol i effeithio ar bolisi.

Dyma'r pumed aelod seneddol Cymreig i arwain y Blaid.

Aelodau Seneddol yn pleidleisio i atal crogi.

(b) Awdurdodi'r Prif Weithredwr i gyflwyno'r gwelliannau hyn ac unrhyw welliannau a fyddai'n ei farn ef a'r prif swyddogion yn fanteisiol i sylw'r Arglwyddi perthnasol ac i'r Aelod Seneddol.

Cenedlaetholwyr Albanaidd, yr SDP, yn ennill eu sedd seneddol gyntaf ers 1945 pan enillodd Winifred Ewing is-etholiad Hamilton.

Yr oedd staff yr Adran Iechyd Amgylchedd wrthi'n cywiro'r adroddiad drafft a dderbyniwyd gan NURAS a phan dderbynnid yr adroddiad terfynol fe anfonnid copi ohono i'r Swyddfa Gymreig ac i'r Aelod Seneddol.

Yn y cyfamser llwyddodd Rhian i gael ei Haelod Seneddol i gefnogi achos Lewis ac i wneud hynny'n effeithiol.

Oherwydd hyn bu i ni, fel Aelodau Seneddol Plaid Cymru, bleidleisio yn ei erbyn fel protest.

Doedd neb yn disgwyl clywed gan bawb wrth gwrs ond yng nghynadleddau'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol, cafwyd annerchiad byr gan arweinwyr Ewropeaidd y pleidiau, a chan eu llefarwyr seneddol ar faterion ewropeaidd.

Dyna union ganran yr Aelodau Seneddol presennol o Gymru sy'n medru siarad Cymraeg.

Taniwyd y wreichionen gyntaf ym Mhwll Ela/ i ger Pen-y-graig, yn y Rhondda, pan gaewyd y glowyr allan gan Gwmni'r Cambrian a'i bennaeth DA Thomas (cyn-Aelod Seneddol o Ryddfrydwr), wedi i'r dynion fynnu rhagor o arian am weithio mewn 'mannau anghyffredin'.

Dafydd Wigley yn cadw ei sedd, a Dafydd Elis Thomas yn dod yn drydydd Aelod Seneddol Plaid Cymru trwy drechu Wil Edwards, Llafur, ym Meirionnydd.

Llefarai Hyde ddwy flynedd ar ôl yr hollt affwysol yn rhengoedd y Blaid Seneddol Wyddeleg.

Ethol y ferch gyntaf yn Aelod Seneddol yn yr Etholiad Cyffredinol, sef Megan Lloyd George, Aelod Rhyddfrydol newydd Môn.

Pedwar Aelod Seneddol Plaid Cymru yn cael eu hethol.

Ymddygiad, meddair colofnydd, sydd yn eich atgoffa yn syth o ymddygiad aelodau seneddol.

Er nad oes gan y Ceidwadwyr yr un aelod seneddol yng Nghymru ar hyn o bryd, mae o'n edrych ymlaen at yr her o arwain yr ymgyrch nesaf.

Os coeliwch chi rai o aelodau seneddol y pleidiau eraill, cabinet moddion ydi Rod Richards, a'i lond o bethau gwenwynig.

Mae hawl gan bob Aelod Seneddol o Gymru i fynychu.

Aelodau Seneddol yn cytuno y dylid cael gweinidogaeth arbennig i Gymru.